Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol
Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy
Os hoffech i rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
· Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud) neu os yn well gennych;
· Cyflwynwch gynrychiolaeth ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer
cyfrif Fy Sir
Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu
ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r
blaen.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod.
Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.
Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk