Defnyddiwch yr opsiynau chwilio islaw ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar a gymerwyd gan gyrff gwneud penderfyniadau y cyngor.
Gallech hefyd edrych ar tudalen penderfyniadau swyddogion i gael penderfyniadau a ddirprwywyd i swyddogion a gymerwyd gan swyddogion y cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 11/04/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 02/08/2019
Effective from: 11/04/2018
Penderfyniad:
Bod y Cabinet yn derbyn y cynnig "yn amodol ar gontract" ar gyfer prynu'r buddiant rhydd-ddaliadol 50% Cyngor Sir Fynwy yn safle hen Neuadd y Sir gan y cynigiwr a ffefrir.
Bod negodi'r contract terfynol yn cael ei ddirprwyo i'r Prif Swyddog Adnoddau ar y cyd a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/06/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 02/08/2019
Effective from: 06/06/2018
Penderfyniad:
Bod cyllideb gyfalaf o £35,000 yn cael ei chreu yn 2018/19 i gyflawni gwaith uwchraddio a gwella i fannau chwarae yn Llan-ffwyst a'r Fenni a bod y gwaith hwn yn cael ei ariannu o gyfraniad cyfatebol o'r balansau adran 106 a ddelir gan y Cyngor Sir mewn perthynas â datblygiad Gavenny Gate (Cod Cyllid N581).
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/06/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 02/08/2019
Effective from: 06/06/2018
Penderfyniad:
Bod cyllideb gyfalaf o £3,749 yn cael ei chreu yn 2018/19 i ran-ariannu'r prosiect canlynol a bod hwn yn cael ei ariannu o gyfraniad cyfatebol gan falansau adran 106 a ddelir gan y Cyngor Sir mewn perthynas â'r datblygiad yn Nh?r Mihangel, Llanfihangel Crucornau.
Bod grant yn y swm hwn yn cael ei ddyrannu i Gyngor Cymuned Crucornau er mwyn gwella a darparu rhagor o offer yn y man chwarae sy'n ffinio â Neuadd Bentref Pandy.
Bod y cyfraniadau pellach o'r datblygiad hwn yn cael eu cynnwys yn y gyllideb gyfalaf pan gânt eu derbyn heb gyfeirio pellach yn ôl at y Cabinet, i'w defnyddio tuag at y prosiect ardal chwarae a/neu at brosiectau hamdden eraill a nodwyd ac a allai elwa ohonynt.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/06/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 02/08/2019
Effective from: 06/06/2018
Penderfyniad:
Bod Cabinet yn derbyn yr adroddiad perfformiad diweddaraf (fel y'i cyflwynwyd yn flaenorol i bwyllgor dethol Plant a Phobl Ifanc ar 17eg Mai 2018) ac yn cadarnhau bod adroddiadau perfformiad yn y dyfodol yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc yn unig.
Bod aelodau'n cael crynodeb cyfrinachol o'r adroddiad annibynnol ar wahanol agweddau ar ymchwiliad Swyddfa Archwilio Cymru i Kerbcraft (adroddiad i'r Cyngor ym mis Mawrth 2017) a'r argymhellion a ddeilliodd o'r ymchwiliad annibynnol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/06/2018 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 02/08/2019
Effective from: 06/06/2018
Penderfyniad:
Cytuno ar y cynnig i drosglwyddo'r asesiad o Brydau Ysgol Am Ddim i'r gwasanaeth buddiannau a rennir am gyfnod o ddwy flynedd o 1af Medi 2018.
Y gost i gytuno hyn yw £15,500 y flwyddyn, caiff ei dalu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen am ddarparu'r gwasanaeth hwn. Bydd hyn yn cael ei ariannu gan swydd wag bresennol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/07/2019 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/07/2019
Effective from: 24/07/2019
Penderfyniad:
Cytunodd y Cabinet yn ffurfiol i symud i rannu gwasanaeth ar gyfer Refeniw, cyn gynted ag sy'n ymarferol a chytuno ar y ddogfen cwmpasu a roddir yn Atodiad 1.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn darparu trefniadau rheolaeth interim ar gyfer Refeniw nes bydd swyddogion yn trosglwyddo'n swyddogol i'r gwasanaeth rhannu newydd.
Caiff gweithrediad terfynol y gwasanaeth rhannu ei ymgorffori i'r Memorandwm Dealltwriaeth cyfredol rhwng y ddau awdurdod ar gyfer y Gwasanaeth Rhannu Buddion.
Cytunodd y Cabinet i drosglwyddo'r staff perthnasol dan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth (TUPE) i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn dilyn proses ddyladwy a'r trefniant rhannu gwasanaeth yn ei gwmpas estynedig ei ymwreiddio'n llwyr.
Awdurdododd y Cabinet y Prif Swyddog Adnoddau a Phennaeth Cynorthwyol Cyllid ar gyfer Refeniw, Systemau a Thrysorlys, mewn ymgynghoriad gydag Aelod Cabinet Adnoddau Cyfan, i gwblhau'r Memorandwm Dealltwriaeth a threfniadau TUPE mewn trafodaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Cytunodd y Cabinet y caiff unrhyw gostau dilynol dileu swyddi neu straen pensiwn eu talu o'r gyllideb gorfforaethol, nid yw'n bosibl rheoli'r costau hyn o fewn cronfa gyffredinol y Gyfarwyddiaeth.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/07/2019 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/07/2019
Effective from: 24/07/2019
Penderfyniad:
Penderfynwyd cytuno ar argymhellion yr Adroddiad.
Wards affected: Croesonen; Mardy;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/07/2019 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/07/2019
Effective from: 24/07/2019
Penderfyniad:
I nodi cynnwys y rhaglen.
Wards affected: (All Wards);