Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Bod cyllideb gyfalaf o £3,749 yn cael ei chreu yn 2018/19 i ran-ariannu'r prosiect canlynol a bod hwn yn cael ei ariannu o gyfraniad cyfatebol gan falansau adran 106 a ddelir gan y Cyngor Sir mewn perthynas â'r datblygiad yn Nh?r Mihangel, Llanfihangel Crucornau.
Bod grant yn y swm hwn yn cael ei ddyrannu i Gyngor Cymuned Crucornau er mwyn gwella a darparu rhagor o offer yn y man chwarae sy'n ffinio â Neuadd Bentref Pandy.
Bod y cyfraniadau pellach o'r datblygiad hwn yn cael eu cynnwys yn y gyllideb gyfalaf pan gânt eu derbyn heb gyfeirio pellach yn ôl at y Cabinet, i'w defnyddio tuag at y prosiect ardal chwarae a/neu at brosiectau hamdden eraill a nodwyd ac a allai elwa ohonynt.
Awdur yr adroddiad: Mike Moran
Dyddiad cyhoeddi: 02/08/2019
Dyddiad y penderfyniad: 06/06/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/06/2018 - Cabinet
Accompanying Documents: