Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio islaw ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar a gymerwyd gan gyrff gwneud penderfyniadau y cyngor.

Gallech hefyd edrych ar tudalen penderfyniadau swyddogion i gael penderfyniadau a ddirprwywyd i swyddogion a gymerwyd gan swyddogion y cyngor.

Cyhoeddwyd y penderfyniadau

06/05/2020 - Coronavirus Response: Risk Management ref: 703    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/05/2020 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/07/2020

Effective from: 06/05/2020

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r trefniadau sydd gan y Cyngor yn eu lle a chytuno bod y risgiau’n cael eu rheoli o ran yr ymateb i bandemig y coronafirws.


04/03/2020 - SRS TACTICAL PLAN AND FUTURE DATA HOSTING ARRANGEMENTS ref: 691    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2020 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/07/2020

Effective from: 04/03/2020

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Tactegol SRS sy’n cefnogi cyflawni nodau strategol hir dymor yr SRS a’i bartneriaid fel yr amlinellir yn y strategaeth SRS 2016-20.

 

Bod y Cabinet yn cydnabod bwriad strategol Bwrdd Strategol y SRS i ddi-gomisiynu’r neuaddau data bresennol, gan symud y ddarpariaeth i neuadd ddata fasnachol, a symud at gwmwl Microsoft Azure neu atebion cwmwl SAAS eraill yn y dyfodol.

 

Yn ôl y gofyn bydd y Cabinet neu’r Cyngor yn derbyn achosion busnes yn y dyfodol a phan na fydd modd i ofynion buddsoddi gael eu hamsugno gan yr SRS heb adnoddau, i gynyddu cyfraniadau partneriaid neu fuddsoddiad un-tro gan bartneriaid.


19/02/2020 - OUTDOOR EDUCATION - SERVICE UPDATE ref: 685    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/02/2020 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/07/2020

Effective from: 19/02/2020

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn nodi’r sefyllfa gorwariant bresennol o 95k ar gyfer 2019/20 a’r posibilrwydd y bydd gan y gwasanaeth orwariant tebyg yn 2020/21. Nid yw hyn wedi ei gynnwys yn y rhestr o bwysau ar gyfer 2020/21 yn y CATC.

 

Bod y Cabinet yn symud at fodel cyflawni mwy cynaliadwy a allai, yn y pen draw, gynnwys ad-drefnu safleoedd. Os, ymhen amser, y bydd swyddogion yn argymell ad-drefnu safleoedd bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet.


19/02/2020 - WELSH CHURCH FUND WORKING GROUP ref: 688    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/02/2020 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/07/2020

Effective from: 19/02/2020

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod grantiau’n cael eu rhoi yn unol â’r cynllun ceisiadau.


19/02/2020 - 2020/21 EDUCATION AND WELSH CHURCH TRUST FUNDS INVESTMENT AND FUND STRATEGIES ref: 687    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/02/2020 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/07/2020

Effective from: 19/02/2020

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd 2020/21 arfaethedig ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy yn cael ei chymeradwyo.

 

Bod y Strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd 2020/21 arfaethedig ar gyfer Cronfa Eglwys Cymru’n cael ei chymeradwyo.

 

Dirprwyo cyfrifoldeb dros weithredu a gweinyddu penderfyniadau rheolaeth trysorlys i’r Pennaeth Cyllid (swyddog S151) a fydd yn gweithredu yn unol â’r Strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd (atodiad 2).

 

Cymeradwyo’r dyraniad o £210,000 o grant 2020/21 i fuddiolwyr Awdurdod Lleol i Gronfa Deddf Eglwys Cymru Sir Fynwy, i’w rannu yn unol â chyfrannau poblogaeth yn ôl Cyfrifiad 2010.

 

Bod Bwrdd Ymddiriedolaeth Ysgol Fferm Sir Fynwy’n penderfynu ar ddyraniad grant 2020-21 yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2020 yn seiliedig ar enillion ar fuddsoddiad y blynyddoedd blaenorol ar ddiwedd Mawrth 2019, ac y bydd unrhyw danwariant o ddyraniad grant 2019-20yn cael ei gario ymlaen er mwyn osgoi erydiad y gronfa gyfan.

 

Cymeradwyo’r Egwyddorion Cronfa, Ystyriaethau Polisi a Meini Prawf Dyrannu Grant Eglwys Cymru ar gyfer 2020-21 (Atodiad 6) a ystyriwyd a ac a gymeradwywyd ym Mhwyllgor Cronfa Eglwys Cymru ar y 16ain o Ionawr 2020.


19/02/2020 - PROPOSED CHANGES SCHOOLS FUNDING FORMULA ref: 686    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/02/2020 - Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/07/2020

Effective from: 19/02/2020

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i fformiwla ariannu ysgolion y manylir arno yn rhan 3 y ddogfen ymgynghori yn atodiad 1.


08/07/2020 - ARCHAEOLOGY IN PLANNING, PLANNING ADVICE ref: 711    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/07/2020 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/07/2020

Effective from: 08/07/2020

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r dilynol:

Mabwysiadu Archaeoleg mewn Cynllunio, Nodyn Cyngor Cynllunio

Mabwysiadu’r newid ffiniau i’r Fenni, Trefynwy a Thryleg

Mabwysiadu Ardal Sensitif o ran Archaeoleg (ASA) Tyndyrn

Wards affected: (All Wards);