Skip to Main Content

Agenda and decisions

Lleoliad: Conference Room - Usk, NP15 1AD. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm):

3a

YSTYRIED CYNIGION REFENIW A CHYLLIDEB CYFALAF TERFYNOL

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn argymell i’r Cyngor

·       Y gyllideb refeniw ar gyfer 2020/21 a geir yn Atodiad I

·       Y rhaglen gyfalaf o 2020/21 i 2023/24 a geir yn Atodiad J1

 

Bod y Cabinet yn cydnabod bod y cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb sy’n cael eu cynnig yn ceisio cefnogi blaenoriaethau’r cyngor ac yn benodol yn ceisio cydnabod yn llawn, yr holl bwysau o ran gwariant sydd ynghlwm â thâl a phensiynau o fewn ein system ysgolion a’r pwysau cynyddol ar gyllidebau gwasanaethau gofal cymdeithasol plant, gofal cymdeithasol oedolion a’n plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Y bydd cynnydd o 4.95% yn y band Treth Cyngor sy’n gyfystyr â Band “D” ar gyfer y Sir yn parhau i gael ei ddefnyddio fel y rhagdybiaeth cynllunio ym model y gyllideb ac i wneud cais am ddibenion y Sir yn 2020/21.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cynigion diwygiedig ar arbedion a phwysau, a ddiweddarwyd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, craffu a gwybodaeth mwy diweddar a ddaeth i law yn dilyn rhyddhau’r cynigion drafft ar gyfer ymgynghoriad ar yr 20fed o Ragfyr 2019.

 

Bod y Cabinet yn cydnabod y risgiau o ran absenoldeb cyllid gwaelodol yn y Setliad Llywodraeth Leol, a chamau ychwanegol y mae angen eu cymryd er mwyn rheoli’r diffyg sy’n weddill yn y gyllideb pe byddai hyn yn digwydd.

 

Bod y Cabinet yn nodi’r symudiadau a ddisgwylir o ran cronfeydd wrth gefn sydd wedi eu clustnodi yn ystod 2020/21 sy’n golygu rhagolwg o ran balans wrth gefn wedi ei glustnodi o £5.29 miliwn ar ddiwedd 2020/21.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo newidiadau i’r cynigion ar y gyllideb a’r rhaglen gyfalaf ddrafft ar gyfer 2020/21 ac fel yr amlinellir ym mharagraff 3.29.

 

Bod y Cabinet yn argymell bod y Cyngor yn cael gwared ag asedau sydd wedi eu nodi fel gwerth gorau yn y papur cefndir wedi ei eithrio.

 

Bod y Cabinet yn ystyried adroddiad y Swyddog Cyllid Cyfrifol ar gadernid y broses gyllido a digonolrwydd y cronfeydd wrth gefn a gyhoeddwyd o dan ddarpariaeth y Ddeddf Llywodraeth Leol 2003

 

Bod y Cabinet yn mabwysiadu adroddiad y Swyddog Cyllid Cyfrifol ar Ddangosyddion Darbodus.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r canlynol:

·       Bod gwaith pellach yn cael ei wneud i ddatblygu Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) cytbwys dros y cyfnod tair blynedd o 2021/22 i 2023/24.

Adolygiad rheolaidd o’r CATC er mwyn gwneud yn si?r ei fod yn parhau’n ddiweddar, a bod yr adolygiad yn cynnwys asesiad o bwysau a risgiau yn seiliedig ar dystiolaeth, rhagdybiaethau modelu dan yr wyneb a goblygiadau fforddiadwyedd parhaus y Cynllun Corfforaethol.

3b

CYNLLUN GWELLA MYNEDIAD I GEFN GWLAD pdf icon PDF 630 KB

Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt: Pob un

 

Diben: I ystyried cymeradwyaeth Cynllun Gwella Mynediad i Gefn Gwlad (Cynllun Gwella Hawliau Tramwy) a Pholisi, Protocol a Chanllaw Rheoli Gweithredol Mynediad i Gefn Gwlad yn dilyn terfyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Awdur: Ruth Rourke, Rheolwr Mynediad i Gefn Gwlad, Bywyd Mynwy

Matthew Lewis, Rheolwr yr Amgylchedd a Diwylliant, Bywyd Mynwy

 

Manylion Cyswllt:ruthrourke@monmouthshire.gov.uk; matthewlewis@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Gwella Mynediad i Gefn Gwlad (Cynllun Gwella Hawliau Tramwy) a’r Polisi, Protocol a Chanllaw Rheoli Gweithredol Mynediad i Gefn Gwlad.

 

 

3c

CYNLLUN CORFFORAETHOL 2017-22: ADFYWIAD CANOL TYMOR pdf icon PDF 134 KB

Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt: Pob un

 

Diben:I geisio cymeradwyaeth am adfywiad canol tymor o’r Cynllun Corfforaethol. Mae hyn yn dangos diben a gwerthoedd yr awdurdod, ynghyd â diweddariad yngl?n â’r rhaglen uchelgeisiol bydd yn parhau i gael ei gweithredu trwy gydol y Cyngor cyfredol sy'n rhedeg tan yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022.  

 

Awdur: Emma Davies, Swyddog Perfformiad

Richard Jones, Rheolwr Perfformiad

Matthew Gatehouse, Pennaeth Polisi a Llywodraethu

 

Manylion Cyswllt: matthewgatehouse@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Corfforaethol cyn iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo mabwysiadu’r amcanion sy’n cael eu cynnwys yn y cynllun fel Amcanion Llesiant ac Amcanion Gwella y Cyngor yn unol â gofynion y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol a’r Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

3d

ADDYSG AWYR AGORED - DIWEDDARIAD YNGL?N Â'R GWASANAETH pdf icon PDF 587 KB

Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt: Pob un

 

Diben: I roi cyngor yngl?n â safle ariannol cyfredol y Canolfannau Gweithgareddau Awyr Agored (Gilwern a Pharc Hilston)

 

Awduron:Ian Saunders, Prif Swyddog Gweithredu Bywyd Mynwy

Marie Bartlett, Rheolwr Cyllid ac Adnoddau Bywyd Mynwy

Nick John, Rheolwr Gwasanaethau Hamdden Bywyd Mynwy

 

Manylion Cyswllt:iansaunders@monmouthshire.gov.uk

mariebartlett@monmouthshire.gov.uk

nicholasjohn@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn nodi’r sefyllfa gorwariant bresennol o 95k ar gyfer 2019/20 a’r posibilrwydd y bydd gan y gwasanaeth orwariant tebyg yn 2020/21. Nid yw hyn wedi ei gynnwys yn y rhestr o bwysau ar gyfer 2020/21 yn y CATC.

 

Bod y Cabinet yn symud at fodel cyflawni mwy cynaliadwy a allai, yn y pen draw, gynnwys ad-drefnu safleoedd. Os, ymhen amser, y bydd swyddogion yn argymell ad-drefnu safleoedd bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet.

3e

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I FFORMIWLA ARIANNU YSGOLION pdf icon PDF 40 KB

Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt: Pob un

 

Diben:Diben yr adroddiad yw argymell newidiadau i fformiwla ariannu ysgolion yngl?n â sut y mae’n dosbarthu cyllid i ysgolion.

 

Awdur: Nikki Wellington

 

Manylion Cyswllt: nicolawellington@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i fformiwla ariannu ysgolion y manylir arno yn rhan 3 y ddogfen ymgynghori yn atodiad 1.

3f

STRATEGAETHAU BUDDSODDI A CHRONFEYDD AM ADDYSG A CHRONFA'R DEGWM 2020/21 pdf icon PDF 1001 KB

Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt: Pob un

Diben:Diben yr adroddiad hwn yw cyflwyno strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd 2020/21 i Gabinet i’w chymeradwyo ar gyfer Cronfeydd Ymddiriedolaeth y mae'r Awdurdod yn gweithredu fel ymddiriedolwr unigol neu'n geidwad ar eu cyfer i'w mabwysiadu ac i gymeradwyo dyraniad grant 2020/21 i fuddiolwyr Awdurdod Lleol o Gronfa’r Degwm.

 

Awdur: David Jarrett – Uwch Gyfrifydd Cymorth Busnes

Nicola Wellington – Rheolwr Cyllid Plant a Phobl Ifanc

 

Manylion Cyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd 2020/21 arfaethedig ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy yn cael ei chymeradwyo.

 

Bod y Strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd 2020/21 arfaethedig ar gyfer Cronfa Eglwys Cymru’n cael ei chymeradwyo.

 

Dirprwyo cyfrifoldeb dros weithredu a gweinyddu penderfyniadau rheolaeth trysorlys i’r Pennaeth Cyllid (swyddog S151) a fydd yn gweithredu yn unol â’r Strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd (atodiad 2).

 

Cymeradwyo’r dyraniad o £210,000 o grant 2020/21 i fuddiolwyr Awdurdod Lleol i Gronfa Deddf Eglwys Cymru Sir Fynwy, i’w rannu yn unol â chyfrannau poblogaeth yn ôl Cyfrifiad 2010.

 

Bod Bwrdd Ymddiriedolaeth Ysgol Fferm Sir Fynwy’n penderfynu ar ddyraniad grant 2020-21 yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2020 yn seiliedig ar enillion ar fuddsoddiad y blynyddoedd blaenorol ar ddiwedd Mawrth 2019, ac y bydd unrhyw danwariant o ddyraniad grant 2019-20yn cael ei gario ymlaen er mwyn osgoi erydiad y gronfa gyfan.

 

Cymeradwyo’r Egwyddorion Cronfa, Ystyriaethau Polisi a Meini Prawf Dyrannu Grant Eglwys Cymru ar gyfer 2020-21 (Atodiad 6) a ystyriwyd a ac a gymeradwywyd ym Mhwyllgor Cronfa Eglwys Cymru ar y 16ain o Ionawr 2020.

3g

GR?P GWEITHIO CRONFA'R DEGWM pdf icon PDF 125 KB

Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt: Pob un

 

Diben:Diben yr adroddiad hwn yw gwneud argymhellion i Gabinet yngl?n â’r Amserlen Ceisiadau ar gyfer cyfarfod 7 Gr?p Gweithio Cronfa’r Degwm a gynhaliwyd ar yr 16eg o Ionawr 2020.

 

Awdur: David Jarrett – Uwch Gyfrifydd – Cymorth Busnes Cyllid Canolog

 

Manylion Cyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod grantiau’n cael eu rhoi yn unol â’r cynllun ceisiadau.