Manylion Pwyllgor

Pwyllgor Craffu Oedolion

Diben y Pwyllgor

Mae'r Pwyllgor Dethol Oedolion yn sicrhau fod gwasanaethau yn berthnasol ac yn ymatebol i anghenion oedolion, yn diogelu a hyrwyddo iechyd a llesiant, yn cynnwys y meysydd perthnasol dilynol ymysg eraill:

 

           Diogelu Oedolion, yn cynnwys gwasanaethau Iechyd Meddwl a gwasanaethau Anabledd.

           Gofal Cymdeithasol Oedolion, yn cynnwys Gofal yn y Cartref, Gofal Preswyl, Gofal Cartref Nyrsio, Gofal Cymunedol, Therapi Galwedigaethol, Ail-alluogi, Technoleg Cymorth, Gwasanaeth Prydau Cymunedol, Gwasanaethau Nam ar y Synhwyrau.

           Cefnogaeth i Deuluoedd a Gofalwyr, yn cynnwys Seibiant a Gwyliau Byr.

           Addysg Oedolion, yn cynnwys Gwasanaethau Anabledd Dysgu.

           Gwasanaethau Oedolion Integredig gyda Phartneriaid Iechyd.

           Cyd Asesiad Anghenion Strategol.

           Diogelu a chefnogi oedolion agored i niwed.

           "Agenda pontio" o bobl ifanc i Oedolion.

           Diogelu Oedolion Agored i Niwed a Chefnogi Pobl.

           Atal digatrefedd.

           Gwasanaeth Trais yn y Cartref, Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol.

           Hyrwyddo iechyd cyhoeddus a llesiant drwy'r Cynllun Integredig Sengl.

           Gwasanaethau hamdden yn nhermau canlyniadau iechyd.

           Hawliau llesiant.

           Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol.

 

 

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol

 

 

Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy

 

 

Os hoffech i rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon



·      Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud) neu os yn well gennych;

·      Cyflwynwch gynrychiolaeth ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

 


Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer
cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod.

 

Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

 

 

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

Aelodaeth

Gwybodaeth gyswllt

Swyddog cefnogi: Gwasanaethau Democrataidd.

Ffôn: 01633 644219