Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim.
|
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd. Cofnodion: Dim.
|
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Ben Callard, yr Aelod Cabinet yr adroddiad gyda Jonathan Davies ac ateb cwestiynau aelodau gyda Nicola Wellington, Jane Rodgers a Will McLean:
Effaith fach iawn y byddai unrhyw newidiadau mewn cyfraddau llog yn y misoedd nesaf yn ei chael ar y flwyddyn ariannol gyfredol, gan fod y rhan fwyaf o ragolygon eisoes wedi ystyried gostyngiadau tebygol. Y prif gonsyrn yw cost benthyca, sy’n gysylltiedig â chynnyrch gild yn hytrach nag yn uniongyrchol gyda’r gyfradd banc. Mae’r rhan fwyaf o fenthyca’r cyngor ar gyfraddau hirdymor sefydlog felly dim ond cyfran fach sy’n agored i newidiadau tymor byr mewn cyfraddau. Cafodd y dull gweithredu ei gydbwyso i reoli risg, gan beidio bod yn or-ofalus nac agored i risg.
Pa ymyriadau penodol a gymerir gyda’r ysgolion mewn mwyaf o risg sydd mewn diffyg, a phryd y disgwylir y bydd nifer yr ysgolion mewn diffyg yn gostwng?
Mae’r cyngor yn gweithio gydag ysgolion i gyfarch diffygion yn y flwyddyn a hefyd ddiffygion cronnus, gan roi blaenoriaeth i sefydlogi cyllidebau blynyddol cyn gostwng y cyfanswm diffyg. Mae’r pwysau mwyaf yng nghlwstwr y Fenni a’r Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion, gyda chynlluniau adfer yn eu lle a chydweithio yn mynd rhagddo. Gweithredir ar gynnydd mewn cyllid ac arbedion ond bydd newidiadau yn raddol i osgoi effeithiau addysgol negyddol. Ychwanegodd swyddogion y gall diffygion waethygu cyn gwella oherwydd strwythur y flwyddyn academaidd ond caiff cynlluniau adfer eu monitro yn fisol, ac mae buddsoddiad £1 miliwn y llynedd yn help.
Sut mae’r cyngor yn trin diffygion strwythurol o gymharu â gorwariant yn y flwyddyn a beth gaiff ei ystyried y lefel ddiogel isaf o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio ar gyfer cydnerthedd ariannol?
Mae’r cyngor yn anelu i gadw cronfeydd wrth gefn ar gyfer argyfwng ar 5% o’r gyllideb refeniw net, sef yr isafswm lefel ddiogel, ac mae’n gweithio i ailadeiladu cronfeydd wrth gefn a neilltuwyd ar gyfer cydnerthedd tymor canol.
Pa gategori modelu cyllideb yw’r risg uchaf a pha gynlluniau lliniaru sy’n bodoli os yw risgiau’n gwaethygu?
Y risg uchaf mewn modelu cyllideb yw galw am wasanaethau, yn arbennig mewn gofal cymdeithasol, digartrefedd ac anghenion dysgu ychwanegol a fu’n fwy anwadal na risgiau traddodiadol fel tâl neu chwyddiant. Mae’r cyngor yn parhau yn hyblyg yn ei fodelu i addasu i newid mewn tybiaethau.
A ddisgwylir i Grant Trawsnewid Llwybrau Gofal Llywodraeth Cymru ariannu gwasanaethau ychwanegol neu yn syml lanw am ddiffygion i gynnal lefelau gwasanaeth cyfredol, a pha ddisgwyliadau sydd gan weinidogion a gweision sifil ar gyfer ychwanegedd?
Bwriedir i’r grant gefnogi capasiti ar draws y system, gyda phwyslais ar ryddhau o ysbytai, ond mae’n cydnabod fod angen cynnal capasiti system gyfan. Mae’r grant yn cefnogi cynyddu rhyddhau o ysbytai a hefyd anghenion ehangach y system, gyda monitro chwarterol ac adrodd i Lywodraeth Cymru.
Beth yw’r cynllun a’r amserlen ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
|
Diweddariad Cynllun Ariannol Tymor Canol – Adolygu sefyllfa’r gyllideb. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ben Callard, yr Aelod Cabinet gyda Jonathan Davies, ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Nicola Wellington, Will McLean a Jane Rodgers:
Cafodd yr holl gynlluniau adfer gofynnol eu cyflwyno erbyn hanner tymor mis Hydref, eu hadolygu’n fewnol a’u monitro’n fisol. Ni chaiff cynlluniau eu hailysgrifennu os collir targedau; gofynnir i ysgolion addasu blynyddoedd y dyfodol i ateb ymrwymiadau.
Beth yw’r amserlen nodweddiadol ar gyfer cynlluniau adfer ac a yw ysgolion gyda diffygion uchel yn wynebu heriau ariannol strwythurol?
Caiff cynlluniau adfer eu teilwra ar gyfer pob ysgol, gan anelu am ddisgyblaeth ariannol gadarn a chynaliadwy heb newidiadau sy’n tarfu. Rhoddir cymorth i alluogi adferiad graddol gan leihau’r effaith ar ddisgyblion.
Sut y gellir sicrhau’r cyngor bod arbedion newid arfer gofal cymdeithasol oedolion yn cael effaith a faint o becynnau gofal a gafodd eu gostwng drwy’r broses adolygu?
Mae’r rhaglen newid ymarfer yn gymhleth, gyda ffocws ar ymateb i gynnydd mewn galw a defnyddio adnoddau’n effeithlon. Caiff arbedion eu hadlewyrchu yn y llinell waelod ond mae’n anodd ynysu ffigurau penodol oherwydd anghenion deinamig a newidiadau mewn cyflenwi gofal. Caiff adolygiadau eu cynnal a bydd dyraniad mwy manwl ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Faint mae’r broses adolygu yn edrych yn holistig ar sefyllfa pob unigolyn?
Mae’r ymagwedd yn wir yn holistig, gan ystyried deilliannau llesiant, cymorth i ofalwyr, cysylltiadau cymunedol a thechnoleg gynorthwyol, nid dim ond gofal ffurfiol.
Beth yw’r blaenamcan o leoliadau preswyl erbyn diwedd y flwyddyn a’r flwyddyn nesaf, o gofio’r cynydd mewn dementia a gofal cymhleth?
Mae’r cyngor yn rhagweld tri lleoliad newydd bob mis yn seiliedig ar dueddiadau diweddar ond mae’n anodd rhagweld hyn a gall pwysau gaeaf effeithio arno. Mae’r cynnydd yn gysylltiedig â phoblogaeth sy’n heneiddio ac anghenion cynyddol gymhleth.
Pa gyfran o gostau cyfreithiol cynyddol mewn gwasanaethau plant y gellid eu hosgoi a pha fodelau cymorth cyfreithiol eraill a gafodd eu hystyried?
Rhoddodd y cyngor gynnig ar gomisiynu cymorth cyfreithiol allanol ond fe gynyddodd y costau. Defnyddir eiriolaeth mewnol lle’n bosibl a bwriedir cynnal dadansoddiad pellach i ddynodi cyfleoedd arbed costau. Caiff rhai costau eu gorfodi gan y llysoedd ac ni fedrir eu rheoli’n llwyr.
Beth yw’r rhaniad rhwng cyllid Llywodraeth Cymru a’r dreth gyngor ar gyfer y sir? Sut mae hyn yn cymharu gyda chyfartaledd Cymru ac a fedrai’r Cynllun Datblygu Lleol a thai fforddiadwy effeithio ar y gymhareb hon?
Mae’r rhaniad cyfartalog yng Nghymru tua 70% cyllid Llywodraeth Cymru a 30% treth gyngor, ond mae Sir Fynwy yn dibynnu mwy ar y dreth gyngor. Mae gwahanol ffactorau yn effeithio ar y gymhareb, yn cynnwys gostyngiadau, eithriadau a bandiau datblygu. Gallai’r Cynllun Datblygu Lleol a thai fforddiadwy ddylanwadu ar dybiaethau’r dyfodol ond mae’n faes cymhleth a caiff ei fodelu’n ddarbodus.
Sut fydd yr Aelod Cabinet yn sicrhau fod cynlluniau arbedion a thrawsnewid dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn wirioneddol realistig a chyraeddadwy, o gofio mai dim ond ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Kate Thompson ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Matthew Gatehouse:
A yw’r gyfradd uchel o ddyddiau gwaith a gollir oherwydd salwch yng Nghyngor Sir Fynwy (dros ddwywaith y cyfartaledd cenedlaethol) yn dueddiad a welir mewn awdurdodau eraill a beth yn fwy sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r ffigur hwn?
Mae’n anodd cael data i gymharu ond dywedodd Caerffili yn ddiweddar fod ganddynt ffigur uchel tebyg. Mae’r cyngor yn parhau i geisio cael data ar gyfer Cymru gyfan.
A yw cyfraddau salwch uchel yn effeithio mwy ar unrhyw gyfarwyddiaethau neilltuol e.e. gofal cymdeithasol?
Mae Gofal Cymdeithasol ymysg y cyfarwyddiaethau yr effeithir mwyaf arnynt a chynhaliwyd cyfarfodydd yn ddiweddar gyda rheolwyr ac Adnoddau Dynol i ddadansoddi data a datblygu cynlluniau gweithredu i ostwng absenoldeb salwch.
Pryd y caiff y dangosfwrdd iechyd a diogelwch ei rannu ac a yw’r data yn cynnwys preswylwyr sy’n defnyddio cyfleusterau’r cyngor yn ogystal â staff?
Mae’r dangosfwrdd yn cael ei ddatblygu a dylai fod yn barod erbyn diwedd y flwyddyn ar ôl ymgynghori. Mae’r data yn cynnwys staff, contractwyr a chwsmeriaid sy’n defnyddio cyfleusterau, ond dim ond digwyddiadau lle gwnaeth y gweithgaredd gwaith neu safle gyfrannu gaiff eu dosbarthu fel bod yn gysylltiedig â gwaith. Caiff pob digwyddiad eu cofnodi ond dim ond rhai cysylltiedig â gwaith gaiff eu hadrodd yn y ffigurau.
A fedrwch esbonio’r defnydd o’r term “salwch seicolegol” o gymharu â “iechyd meddwl” a beth sy’n cael ei wneud am iechyd meddwl, yn cynnwys cyrsiau rheoli straen a chysylltu straen gyda llwyth gwaith a thoriadau yn y gyllideb?
“Salwch seicolegol” yw’r dosbarthiad Adnoddau Dynol ac mae’n cynnwys ystod o gyflyrau (gorbryder, straen, iselder ac yn y blaen) gyda dadansoddiadau mwy manwl ar gael. Cafodd hyfforddiant llesiant Connect 5 ei ymestyn, mewn gofal cymdeithasol i ddechrau, gyda chynlluniau i’w ehangu ar draws y cyngor. Disgwylir i reolwyr gynnal asesiadau risg straen fydd yn helpu i ddynodi a thrin ffactorau straen cysylltiedig, yn cynnwys llwyth gwaith.
Beth sy’n cael ei wneud am achos gwraidd y cynnydd mewn trais yn erbyn athrawon gan ddisgyblion, ac a yw’r cyngor yn mynd i’r afael ag ymddygiad a rheoleiddio emosiynol mewn pobl ifanc?
Mae ffocws y swyddog ar gefnogi staff yr effeithir arnynt a sicrhau data dibynadwy. Mae tîm cyfarwyddiaeth Cymru yn trin materion cysylltiedig â phlant, yn cynnwys asesiadau a chymorth arbenigol. Mae’r swyddog yn cwrdd yn rheolaidd gyda chydweithwyr diogelu a’r gyfarwyddiaeth i gydlynu cefnogaeth ar gyfer staff a hefyd ddisgyblion.
Beth sy’n enghraifft o ddigwyddiad heb fod yn gysylltiedig â gwaith? A fedrwn bwysleisio pwysigrwydd cysylltu rheoli straen gyda chynllunio gwaith?
Er enghraifft, ni fyddai plentyn yn baglu dros garrai ei esgidiau yn y maes chwarae yn ddigwyddiad cysylltiedig â gwaith os nad oedd ffactor gweithle (fel twll yn y ffordd) wedi cyfrannu. Byddai asesiadau risg straen yn helpu i ddynodi materion cynllunio gwaith.
A yw “salwch seicolegol” yn gategori rhy eang ac a ddylid gwahanu straen cysylltiedig â gweithle oddi wrth gyflyrau gyda diagnosis meddygol? Sut all y cyngor gefnogi ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Caiff cwestiynau gan aelodau eu hanfon at Cath Fallon, Rhys James a’r Cynghorydd Callard ar gyfer ymateb – GWEITHREDU.
|
|
|
Cynllun Gwaith y Cyngor a’r Cabinet. Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Bond am yr Asesiad Perfformiad Panel. Esboniodd Matthew Gatehouse fod yr Asesiad Perfformiad Panel yn ofyniad statudol yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021, sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru benodi panel annibynnol a phanel cymheiriaid unwaith bob pum mlynedd i adolygu effeithlonrwydd eu trefniadau. Mae hyn yn atodi’r broses hunanasesu flynyddol. Bwriedir cynnal asesiad cyntaf Cyngor Sir Fynwy ym mis Chwefror 2026 a bydd adroddiad ar gael i’r pwyllgor er gwybodaeth.
|
|
|
Cynllun Gwaith a Rhestr Weithredu Craffu Perfformiad a Throsolwg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd swyddogion mai dim ond dwy eitem sylweddol a gaiff eu trafod mewn cyfarfodydd o hyn ymlaen lle’n bosibl, gyda Busnes Ychwanegol yn opsiwn ar gyfer materion ychwanegol. Tynnodd swyddogion sylw aelodau at yr eitemau Addysg a ddaw i Pobl ar 21 Ionawr, a gwahoddir aelodau’r pwyllgor i hynny. Mae aelodau yn hapus i dderbyn yr adroddiad Asesu Risg bob 6 mis (efallai mai dan Fusnes Ychwanegol y byddai orau cynnwys hynny).
Cododd y Cynghorydd Bond yr angen i adolygu’r broses dyrannu grantiau, gan gyfeirio at faterion blaenorol o’r Galw i Mewn yn gynharach yn y flwyddyn a nodi fod arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn parhau ar ôl yn ogystal â chyfleoedd Balchder Bro a Chronfa Effaith ar y gweill. Tanlinellodd bwysigrwydd tryloywder a chraffu amserol. GWEITHREDU: dilyn lan eto gyda swyddogion.
|
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cadarnhawyd y cofnodion.
|
|
|
Cyfarfod nesaf: Dydd Mercher 3 Rhagfyr 2025 am 10.00am. Cofnodion: Dydd Mercher 3 Rhagfyr 2025 am 10.00am. |
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Questions from members will be sent to Cath Fallon, Rhys James and Councillor Callard for a response – ACTION
|