Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd
Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod. Os hoffech fynychu un o'n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i'r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk.Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud. Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau.
|
|
Scrutiny of the School Catchment Review Cofnodion: Cyflwynodd Matt Jones, Rheolwr yr Uned Mynediad gynigion yn ymwneud â dalgylchoedd ysgolion cynradd a’r broses ymgynghori ar gyfer newid rhai o ddalgylchoedd Sir Fynwy. Eglurodd mai'r cynnig oedd newid dalgylch Tredynog, Llanhennog a Llandegfedd, sydd ag Ysgol Gynradd Charles Williams yng Nghasnewydd fel ysgol eu dalgylch ar hyn o bryd. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig alinio’r ardaloedd hyn â dalgylch cynradd Sir Fynwy ac Ysgol Gyfun Trefynwy, sef eu dalgylch uwchradd, fel bod plant Sir Fynwy yn cael mynediad cyfartal i ysgol yn Sir Fynwy. Lansiwyd yr ymgynghoriad ym mis Ionawr a daeth i ben yn ddiweddar, a bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y cabinet ar y 10fed o Ebrill, yn seiliedig ar adroddiad a fydd yn cynnwys manylion yr ymatebion i’r ymgynghoriad.
Her:
|
|
Cynnig i symud Ysgol Y Fenni i safle newydd PDF 132 KB Craffu ar y cynnig yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Matt Jones yr ail adroddiad a oedd yn ymwneud â’r cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Gymraeg y Fenni drwy ei hadleoli i hen safle Ysgol Gynradd Deri View. Eglurodd y cefndir, y broses statudol, a'r trefniadau ymgynghori. Eglurodd fod cynnig i adleoli'r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg o'i safle presennol i hen safle Ysgol Gynradd Deri View, ac y byddai hyn yn cynyddu ei chapasiti i 420 o leoedd. Mae'r cynnig yn rhan o raglen ysgolion yr 21ain ganrif a'i nod yw ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Y Fenni. Mae'r broses ymgynghori yn parhau a bydd y cabinet yn penderfynu ym mis Ebrill a ddylid symud ymlaen i gamau nesaf y broses statudol. Gofynnwyd i'r pwyllgor roi eu barn ar y cynnig a rhoi unrhyw adborth i'r cabinet.
Her:
Crynodeb:
Craffodd y Pwyllgor yn drylwyr ar y cynnig i adleoli Ysgol Gymraeg y Fenni a chynigiodd ei gefnogaeth.
|
|
Nodi Blaenraglen Waith a Rhestr Weithredu'r Pwyllgor Craffu Pobl PDF 356 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 23ain Ionawr 2024 PDF 247 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd.
|
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf: 16 Ebrill 2024 Cofnodion: 16eg o Ebrill, 2024 am 10yb.
|