Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Armand Watts, y Cynghorydd Jill Bond, y Cynghorydd Dale Rooke a’r Cynghorydd Malcom Lane, gyda’r Cynghorydd Louise Brown yn dirprwyo drosto.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Penny Jones fuddiant nad oedd yn rhagfarnu fel aelod annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Datganodd y Cynghorydd Alistair Neil hefyd fuddiant nad yw’n rhagfarnu, gan ei fod yn gweithio i GIG Cymru.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Caiff cyfarfodydd ein Pwyllgorau Craffu eu ffrydio’n fyw a bydd dolen i’r ffrwd fyw ar gael ar dudalen cyfarfodydd gwefanCyngor Sir Fynwy.
Os hoffech siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd mewn cyfarfod bydd angen i chi roi tri diwrnod gwaith o hysbysiad cyn y cyfarfod drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk
Y Cadeirydd fydd yn penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond er mwyn ein galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr gofynnwn nad yw cyfraniadau yn ddim hirach na 3 munud.
Yn lle hynny, os hoffech gyflwyno sylwadau ysgrifenedig, sain neu fideo, cysylltwch â’r tîm yn defnyddio’r un cyfeiriad e-bost i drefnu hyn os gwelwch yn dda. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i’r Cyngor yw 5 pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os yw cyfanswm y sylwadau a geir yn fwy na 30 munud, caiff detholiad o’r rhain yn seiliedig ar thema ei rannu yn y cyfarfod. Bydd yr holl sylwadau geir ar gael i’r cynghorwyr cyn y cyfarfod.
Cofnodion: Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.
|
|
Deintyddiaeth: Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Cofnodion: Rhoddodd Lloyd Hambridge (BIPAB) ddiweddariad i’r pwyllgor ar ddeintyddiaeth, gyda ffocws neilltuol ar y canlynol:
Wedyn atebodd Lloyd ynghyd â Rachel Prangley (BIPAB) gwestiynau Aelodau.
Cwestiynau allweddol a godwyd gan Aelodau:
Rhoddodd Lloyd ystadegau manwl ar nifer y plant yr oedd gwasanaethau deintyddol wedi eu gweld, gan sôn y cafodd 77,000 o blant eu gweld ers mis Ebrill 2024, gyda chyfanswm o 94,000 yn y flwyddyn flaenorol. Trafododd hefyd y rhaglen Cynllun Gwên, sy’n cynnwys gweithgareddau glanhau dannedd a farnais fflworid mewn ysgolion, gyda ffocws ar ardaloedd amddifadus. Caiff gwasanaethau penodol hefyd eu darparu ar gyfer grwpiau bregus, yn cynnwys plant mewn ysgolion arbennig, oedolion gydag anableddau dysgu a’r rhai y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio arnynt.
Esboniodd Lloyd y caiff asesiad o anghenion y boblogaeth ei gynnal i gefnogi darpariaeth gwasanaeth, yn cynnwys gwasanaethau deintyddol. Cynigiodd rannu gwybodaeth fwy manwl a dolenni i’r data perthnasol.
Dywedodd Lloyd fod Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ar y cyd gyda byrddau iechyd, deintyddion a rhanddeiliaid eraill wedi datblygu Cynllun Strategol y Gweithlu Deintyddol. Nod y cynllun yw darparu datrysiadau cynaliadwy ar gyfer dyfodol y gweithlu deintyddol yng Nghymru, gyda ffocws ar wasanaethau deintyddol cyffredinol a’r gweithlu deintyddol yn ehangach, yn cynnwys gwasanaethau deintyddol cymunedol. Dywedodd bod ymdrechion i wneud telerau ac amodau’r GIG yn ddeniadol i ddeintyddion, gan ystyried y gystadleuaeth o ddeintyddiaeth breifat ac y caiff rhwydweithiau deintyddol cymunedol i gefnogi ymarferwyr. Dywedodd hefyd fod yr Academi Gofal Sylfaenol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio i ddatblygu a chynnal y gweithlu deintyddol, gan drin anghenion timau deintyddol.
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2024 Cofnodion: Cadarnhawyd y cofnodion.
|
|
Blaenraglen Gwaith a Rhestr Gweithredu y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Crynodeb o’r Drafodaeth ar y Rhaglen Waith:
Dangosodd y drafodaeth yr angen am hyblygrwydd wrth drefnu cyfarfodydd arbennig pan fo angen.
|
|
Cynllunydd Gwaith y Cyngor a’r Cabinet Cofnodion: Nodwyd.
|
|
Nodi dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf: 7 Ebrill 2025 am 10.00am. Cofnodion: 7 Ebrill 2025 am 10.00am
|