Agenda and minutes

Special Meeting, Pwyllgor Dethol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - Dydd Mawrth, 3ydd Hydref, 2023 10.00 am

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant wedi’u derbyn.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol


Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud);  neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

Cofnodion:

Nid oedd dim aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

3.

Cynllun Peilot Integreiddio a Thrawsnewid Blynyddoedd Cynnar a Dechrau'n Deg

Gwahodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i drafod y peilot a'r goblygiadau ar gyfer Dechrau'n Deg

Cofnodion:

Rhoddodd Beth Watkins a Susan O’Brian y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y cynnydd diweddar. Atebodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Nicola Prygodzicz a Chris Overs gwestiynau’r aelodau gyda Beth Watkins.

 

Pwyntiau allweddol a grybwyllwyd gan Aelodau’r Pwyllgor:

 

·       Croesawodd yr Aelodau’r cynnydd cadarnhaol a wnaed wrth fynd i’r afael â rhai o’r materion ers i’r Pwyllgor graffu ar y mater yn yr haf. Dywedodd Aelod ei fod yn credu bod gormod o alw am gyrsiau ymwelwyr iechyd yn hanesyddol a holodd a oedd y nifer is o bobl sy'n hyfforddi'n dod yn ymwelwyr iechyd yn ymwneud â materion recriwtio a chadw cyffredinol a holodd sut y gellid unioni hyn. Tynnodd Aelod arall sylw at y ffaith bod staff wedi'u secondio i rolau gwahanol yn ystod y pandemig a'u bod yn gallu dysgu sgiliau newydd. Roeddynt yn cwestiynu a allai’r arfer hwn ddarparu cyfleoedd datblygu a hefyd ddod â sefydlogrwydd i’r gweithle drwy reoli bylchau mewn staffio. Tynnodd y Cadeirydd sylw hefyd at yr ymgyrch recriwtio rai blynyddoedd yn ôl mewn gwledydd Ewropeaidd a arweiniodd at gymwysterau trosglwyddadwy ac awgrymodd mewn perthynas ag argyfwng Wcráin, y gallai fod cyfle recriwtio posibl.

·       Roedd llwyth achosion ymwelwyr iechyd o 110 o blant yn cyferbynnu â'r llwyth achosion gofal cymdeithasol o 25-30, gyda'r Aelodau'n pryderu sut y gellid lleihau nifer yr achosion.

·       Teimlai'r Aelodau ei bod yn bwysig parhau i gael sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at unrhyw faterion adnoddau.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion, Beth Watkins a Susan O’Brian am eu gwaith caled parhaus a diolchodd i’r Bwrdd Iechyd am eu mewnbwn, gan gydnabod bod cynnydd wedi’i wneud ers y craffu blaenorol.

 

 

4.

Gwasanaethau Deintyddiaeth (gan gynnwys y gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc)

Trafod argaeledd gwasanaethau deintyddiaeth yn y sir

Cofnodion:

Siaradodd Lloyd Hambridge â’r Pwyllgor ac ateb cwestiynau’r Aelodau gyda Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Nicola Prygodzicz.

 

Pwyntiau allweddol a grybwyllwyd gan Aelodau’r Pwyllgor:

 

·       Dywedodd yr Aelodau fod gofalwyr maeth yn mynegi anhawster gwirioneddol i gael mynediad at wasanaethau i bobl ifanc yn eu gofal.

·       Tynnodd Aelod sylw at y modd yr oedd Glannau Hafren wedi colli practis deintydd yng Nghil-y-coed ac nad oes llawer o gapasiti ar gyfer gwasanaethau'r GIG yng Nghas-gwent a holodd beth oedd yn cael ei wneud i gymell deintyddion newydd gymhwyso i fynd i'r GIG yn hytrach na phractis preifat.

·       Roedd preswylydd wedi rhoi gwybod i Gynghorydd nad yw wedi gallu cael dannedd gosod ers bron i 2 flynedd, oherwydd nad yw'n gallu cael yr atgyfeiriad cychwynnol gan ddeintydd. CAM GWEITHREDU – Lloyd i ddilyn achos unigol i fyny gyda manylion gan y Cynghorydd Rooke.

·       Gofynnodd Aelod faint o bractisau deintyddol y GIG sydd yn y broses adfachu, a oedd hyn yn cael ei archwilio. Mae pryder y gallai deintyddion y GIG fod yn gwneud achosion brys yn unig, yn hytrach na gwaith ataliol, gan arwain at foddhad swydd gwael a phractisau ddim yn hyfyw. CAM GWEITHREDU – Lloyd i ddarparu manylion.

·       Gofynnodd Aelod a oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ymwybodol o ba mor enbyd yw'r sefyllfa ddeintyddol yng Nghas-gwent, gan ddadlau y gallai ardal 'gyfagos' edrych yn agos ar fap, ond nad yw o reidrwydd yn wir ar lawr gwlad, er enghraifft, os nad oes bysiau uniongyrchol. Gofynnodd yr Aelod pam fod cyfeiriadau yn cael eu gwneud i Drefynwy, os oes gwasanaethau eisoes ar gael yn yr ysbyty cymunedol yng Nghas-gwent? CAM GWEITHREDU – Lloyd i ddarparu ymateb.

·       Amlygodd Aelod fod y cyhoedd yn ansicr gyda phwy i siarad, i gael y wybodaeth berthnasol a bod angen i’r broses atgyfeirio at wasanaethau fod yn llawer cliriach.

·       Amlygodd aelod, gyda 450 o gartrefi newydd yn yr arfaeth ar gyfer Magwyr a Gwndy yn y 3 blynedd nesaf a dwy ddeintyddfa yn gwbl llawn, pa gynlluniau y bwriedir eu darparu ar gyfer yr ardal hon. CAM GWEITHREDU: Lloyd i ddarparu ymateb.

·       Awgrymodd y Cadeirydd ei bod yn ymddangos bod recriwtio Ewropeaidd wedi bod yn llwyddiannus yn flaenorol a holodd sut y byddem yn mynd i'r afael â'r diffyg posibl o recriwtio dramor ar ôl Brexit.

·       Gofynnodd Aelod arall a oes cymhellion i fyfyrwyr gael mynediad i'r GIG trwy leoliadau, gan ganiatáu i ddeintyddion wneud gwaith manylach.

·       Amlygodd Aelod y gallai defnyddio ‘Llaes’ fod yn fuddiol ar gyfer ymgynghori.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolchodd y Cadeirydd i Lloyd am ei gyflwyniad ac am ateb cwestiynau’r Aelodau a chytunwyd y byddai’r camau gweithredu’n cael eu hanfon ymlaen at BIPAB i ddarparu ymateb yn dilyn y cyfarfod.

 

5.

Uned Mân Anafiadau yn Nevill Hall: Sesiwn Holi ac Ateb

Cofnodion:

Cyflwynodd Nicola Prygodzicz y drafodaeth i’r Pwyllgor, a chafwyd cyflwyniad gan Paul Underwood a gyda’i gilydd, atebwyd cwestiynau’r Aelodau.

 

Pwyntiau allweddol a grybwyllwyd gan Aelodau’r Pwyllgor:

 

·       Amlygodd yr Aelodau fod y cyhoedd ar hyn o bryd yn aneglur iawn ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael a'r lleoliadau, gyda llawer o bobl yn ansicr ble i fynd. Mae angen cyfathrebu'n glir â'r cyhoedd sut i gael mynediad at yr holl wasanaethau. Soniodd yr Aelodau am brofiadau gwahanol iawn mewn ysbytai gwahanol, gyda phobl yn dweud nad yw'r gwasanaeth yn gydgysylltiedig neu'n gysylltiedig yn dda â gwasanaethau yn Lloegr.

·       Holodd yr Aelodau pam na ellir cyfeirio mân anafiadau i Nevill Hall yn y Grange, er mwyn osgoi ciwiau hir, gan nodi bod ymatebion i'r ymgynghoriad yn dangos pryder cyffredinol y cyhoedd am wasanaethau brys a rhestrau aros.

·       Cwestiynodd yr Aelodau effeithiolrwydd yr ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus ac awgrymwyd bod angen ymgyrch yn y cyfryngau wedi'i thargedu, yn hytrach na dosbarthu taflenni.

·       Gofynnodd yr Aelodau a yw'r Uned Mân Anafiadau yn Nevill Hall yn cael ei chwtogi oherwydd y problemau cyllidebol ehangach a beth yw'r arbedion cyllidebol y bydd y cynnig yn eu cyflawni, yn enwedig o ystyried na fydd gostyngiad mewn staff. Eglurwyd blaenoriaethau defnydd a gwariant.

·       Mynegodd Aelodau bod pryder mawr gan drigolion bod y Grange yn rhy bell mewn sefyllfa o argyfwng ac nad oes darpariaeth leol y gallant ddibynnu arni, yn enwedig yr achos yng ngogledd y sir a bod y modd y mae gwasanaethau wedi eu dosbarthu. gwaethygu'r sefyllfa.

·       Cynigiodd Aelod enghraifft o'i phrofiad anodd gyda pherthynas agos a chytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ymchwilio i hyn pe bai'r Aelod yn darparu rhagor o fanylion y tu allan i'r cyfarfod. CAM GWEITHREDU: Y Cynghorydd Sue Riley i roi rhagor o fanylion i Paul Underwood.

·       Amlygodd y Cadeirydd fod yna fater ehangach o ymgynghori a'r hyn y gellir ei wneud i argyhoeddi'r pwyllgor a'r cyhoedd y bydd BIPAB yn gwrando ar yr hyn y mae pobl ei eisiau.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Weithredwr a'i chydweithwyr am fod yn bresennol i ateb cwestiynau'r Aelodau a nododd fod y penderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud yn anodd iawn ac anogodd BIPAB i wrando ar adborth y cyhoedd.

 

6.

I nodi dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf: 23ain Hydref 2023