Skip to Main Content

Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gyflwyniadau.

 

3.

Gwasanaethau Dementia pdf icon PDF 598 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amanda Whent aNatasha Harris fu'n cyflwyno'r cyflwyniad ac ateb cwestiynau'r aelodau, gyda Clare Morgan a'r aelod Cabinet Tudor Thomas.

 

Her:

 

Cadeirydd: Diolch am ddod heddiw ac am eich cyflwyniad, sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn.  Hoffwn ganolbwyntio ar dair agwedd ar wahân heddiw, y rhain yw: yn gyntaf y cam cyn diagnosis o ran sut rydym yn addysgu'r cyhoedd ar ddementia ar yr arwyddion i fod yn ymwybodol ohonynt a sut rydym yn lliniaru risgiau, yna'r cam diagnosis ei hun a'r broses asesu a'r gefnogaeth a roddwyd ac yna'n olaf y cam ôl-ddiagnosis a'r daith gofal wedi hynny. Mae gennym rai cwestiynau penodol a nodwyd gennym yn ein cyn drafodaeth, felly fy nghwestiwn cyntaf yw i'n swyddogion a'n Haelod Cabinet o ran egluro sut mae'r Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid ac egluro rôl yr awdurdod?

 

Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos iawn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) a dyma'r unig awdurdod Gwent i fod â gweithwyr cymdeithasol wedi'u hymgorffori yn y tîm iechyd cymunedol, fel bod pobl yn cael gwasanaeth integredig gydag un asesiad, un cynllun iechyd ac o'r herwydd, mae canlyniadau i bobl yn llawer gwell. Mae gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda'r therapyddion galwedigaethol, y seiciatryddion, y seicolegwyr, y nyrsys seiciatrig a gwasanaethau asesu cof.  Mae'r gweithwyr cymorth wedi'u gwreiddio yn y tîm, felly mae wir yn fodel cydgysylltiedig sy'n cyflawni'r hyn y mae'r ddeddfwriaeth yn ei nodi. 

 

Pa gefnogaeth sydd yn cael ei darparu cyn ac ar ôl diagnosis?    Er enghraifft, yn eich cyflwyniad, rydych yn sôn o dan safonau 11-15, y "bydd cyswllt yn cael ei wneud ynghylch darparu cefnogaeth emosiynol 48 awr ar ôl cael diagnosis" ac "o fewn 12 wythnos ar ôl diagnosis, bydd cefnogaeth yn cael ei roi i ddiwedd oes".   Tybed a yw hyn yn realistig, o ystyried problemau staffio presennol?

 

Y gwir yw, er bod llawer iawn o waith yn cael ei wneud, mae llawer o waith o hyd i'w wneud. Mae ffrwd waith 2A yn llwybr ar gyfer gwasanaethau asesu cof ac yn ystyried sut y gallwn godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wasanaethau sydd ar gael cyn diagnosis, a chyfeirio pobl at sut i gael cefnogaeth bellach. Mae yna dîm amlddisgyblaeth/aml-asiantaeth sy'n cymryd rhan yn y broses o ailfodelu'r llwybr, gan edrych ar ble mae bylchau, pa swyddi, sgiliau, a gwasanaethau ychwanegol sydd eu hangen.  Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gael trwy'r gronfa fuddsoddi ranbarthol y gallwn wneud cais amdano, ond nid yw'n ymwneud â chyllid yn unig.  Mae angen i ni sicrhau bod gennym strwythurau mewn lle er mwyn ymateb i anghenion unigol.

 

Sut mae gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i'w cefnogi?

 

O safbwynt Cyngor Sir Fynwy, nid yw'n ymwneud dim ond â gwasanaethau sy'n cael eu disgrifio yn y cynllun gweithredu, ond os byddwn yn dod yn ymwybodol y gallai rhywun fod yn ei chael hi'n anodd, o dan ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant byddem yn cynnig asesiad iddynt er mwyn deall eu hanghenion a byddem yn eu cyfeirio at wasanaethau  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cynllun Lles Gwent Drafft

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Richard Jones yr adroddiad ac ateb cwestiynau'r aelodau gyda Sharran Lloyd.

 

Her/Adborth:

 

Mae'n anodd rhoi adborth ar yr adroddiad hwn gan nad oes digon o ddyfnder na manylion.  Mae’r ddogfen yn rhy annelwig a generig i ni wneud sylw.Mae angen mwy o eglurder ar y pwyllgor ar bwy sy'n gyfrifol am y rolau a ddisgrifir yn adran 2.8. Er enghraifft, sut bydd y nodau'n cael eu mesur?   Nid yw'n glir hefyd sut mae'r ymgysylltu â'r gymuned yn cael ei wneud.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Mae gen i ofn na allwn ychwanegu unrhyw werth drwy graffu ar yr adroddiad hwn o ystyried yr adborth yr ydym wedi ei roi bod y ddogfen yn rhy annelwig.  Rydym yn hapus i graffu ar adroddiad mwy manwl maes o law.

 

5.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 10fed Hydref 2022 pdf icon PDF 482 KB

Cofnodion:

Cafodd y cofnodion eu cadarnhau a'u llofnodi fel cofnod cywir, gafodd ei gynnig gan y Cynghorydd Butler a'u heilio gan y Cynghorydd Rooke.

 

 

6.

Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus pdf icon PDF 364 KB

Cofnodion:

Nodwyd y blaengynllun gwaith.   Dywedodd y Rheolwr Craffu i’r pwyllgor y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 19eg Ionawr 2023 i enwebu dau aelod i eistedd ar y Cydbwyllgor Craffu rhanbarthol ar gyfer Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Gwent. Awgrymodd er mwyn sicrhau llinell welediad rhwng gweithgaredd lleol yn Sir Fynwy a allai gael ei graffu gan y pwyllgor hwn, a gweithgaredd rhanbarthol a fyddai'n cael ei graffu gan y Cyd-bwyllgor Craffu, y byddai'n synhwyrol pe bai'r aelodaeth yn dod o'r pwyllgor hwn. Gofynnodd y cadeirydd a'r is-gadeirydd a oedd unrhyw ddiddordeb gan aelodau'r pwyllgor i ymgymryd â'r rôl hon.  Yn absenoldeb unrhyw arwydd o ddiddordeb, cytunodd y cadeirydd a'r is-gadeirydd y byddant yn fodlon ymgymryd â'r rôl graffu ar y cyd pe bai'r Cyngor yn cytuno i'w henwebu. 

 

7.

Cynllun Gwaith y Cabinet a'r Cyngor pdf icon PDF 459 KB

Cofnodion:

Nodwyd Blaenraglen Waith y Cyngor a'r Cabinet

 

8.

I nodi dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf: 20fed Chwefror 2023