Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim,
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod. Os hoffech fynychu un o'n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i'r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk.Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud. Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau.
|
|
Cynllun Lles Gwent Drafft PDF 278 KB Ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu ar Gynllun Llesiant Gwent drafft yn dilyn adborth gan y pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y swyddogion ddrafft Gynllun Lles Gwent ac esbonio y cafodd y cynllun ei ddiwygio yn dilyn craffu yn y cyfarfod blaenorol ac y gofynnir i bob un o’r pump Cyngor yn ardal Gwent ei gymeradwyo, er mai dim ond Sir Fynwy oedd wedi dewis ei graffu cyn ei fabwysiadu.
Her: · Mae’r ddogfen hon yn darllen fel unrhyw ddogfen gyffredinol arall ac nid yw’n teimlo ei bod yn berthnasol o gwbl i ardal Gwent. Mae’n teimlo fel datganiad o fwriad strategol, oherwydd y medrid canfod yr amcanion mewn unrhyw fan arall. · Os yw hyn yn gynllun, pam nad yw’n cynnwys unrhyw gamau gweithredu neu amserlenni i ni fonitro cyflenwi’r amcanion? Mae’n teimlo’n ysgafn iawn o ran sylwedd ac mae’n amheus sut y gellid ei ddefnyddio i werthuso perfformiad y bwrdd i gyflawni’r amcanion. · I ba raddau mae pob swyddog yn y bartneriaeth wedi cymryd rhan yn hyn ac yn nhermau’r broses llywodraethiant, lle caiff hyn ei gyflwyno ac a yw cynghorau eraill wedi ei graffu? · Nid oes unrhyw gyfeiriad at ffactorau diweddar sy’n cael effaith fawr ar bobl, tebyg i’r cynnydd mewn costau ynni a’r cynnydd mewn costau byw. Pryd y cafodd hyn ei lunio? A roddir ystyriaeth i’r ffactorau hyn i’w wneud yn fwy perthnasol a realistig? · Mae wyth egwyddor Marmot yn amrywio’n sylweddol ond i ba raddau mae’r cynllun yn cwmpasu eu hysbryd a’u hethos ac ar ba sail y cânt eu mesur? · Sut mae’r cynllun hwn yn alinio gyda ein Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol i sicrhau amcanion a darpariaeth cydnaws? Ymateb Swyddog: Diolch am eich adborth, y byddwn yn ei gyfleu yn ôl, gan ddeall y dymunwch hysbysu’r Arweinydd a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ffurfiol am hyn. Mae egwyddorion Marmot yn rhan o ddarn ehangach o waith sy’n mynd rhagddo gyda’r Sefydliad Iechyd a Thegwch i ddeall y camau gweithredu y gall y bwrdd eu cymryd i wella cydraddoldeb yn y rhanbarth, felly bydd argymhellion penodol yn deillio o’r adroddiad a ddylai wedyn cael eu hymwreiddio yn y cynllun hwn. Bydd mwy o gynlluniau cyflenwi a ddylai roi ystyriaeth i’r argymhellion hynny gyda chamau gweithredu penodol i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ganolbwyntio arnynt. Gall y Pwyllgor hwn graffu ar y cynlluniau cyflenwi hynny er mwyn dal y Bwrdd i gyfrif am gyflenwi y cynllun ehangach.
Mewn cyfeiriad at y cwestiynau am y dystiolaeth a lywiodd y cynllun hwn, defnyddiwyd Asesiad Llesiant Gwent a ddatblygwyd gan swyddogion ar draws y bartneriaeth, i lywio’r cynllun gwaith. Bydd gwaith yr Athro Marmot i drin tegwch yn dod ag arbenigedd a dirnadaeth i’r Bwrdd i lywio’r cynlluniau cyflenwi. Bu’r arbenigwyr yn bresennol ym mhob un o’r siroedd yn siarad gyda phobl i ddefnyddio’r wybodaeth i lywio eu gwaith.
Yn nhermau i ba raddau y bydd aliniad rhwng ein Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol a’r cynllun hwn, gan mai’r Asesiad Llesiant yw’r sylfaen tystiolaeth ar gyfer y ddau, dylai fod cysylltiad clir rhwng y camau gweithredu yng nghynllun cyflenwi Sir Fynwy â’n hamcanion yn y Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol.
Yng nghyswllt y broses ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Gwasanaethau Bysiau Stagecoach Gwahoddiad i Stagecoach i fynychu i drafod darpariaeth gwasanaethau yn Sir Fynwy.
Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod Stagecoach yn anffodus wedi gwrthod mynychu cyfarfodydd o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus. Dywedodd y Cadeirydd, gan mai gwaith y Pwyllgor Craffu yw gwasanaethu’r gymuned, gyda Stagecoach yn darparu gwasanaethau i’r gymuned, mae’n siomedig iawn nad oeddent yn fodlon cael sgwrs agored am yr heriau a wynebir gan ddarparydd masnachol wrth ddarparu cludiant mewn sir wledig mewn sefyllfa o gyllid gostyngol gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd fod Stagecoach yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau mewn ysgrifen a chytunodd y Pwyllgor y byddant yn dilyn yr opsiwn hwn.
Dywedodd Rheolwr Trafnidiaeth Cyngor Sir Fynwy wrth yr aelodau fod problemau tymor byr a hirdymor gyda darpariaeth trafnidiaeth. Y broblem tymor byr yw fod y cyllid ychwanegol a roddwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig i gyllido gwasanaethau i ddod i ben a’r broblem tymor hirach yw fod gan Sir Fynwy fel sir wledig bryderon am drafnidiaeth hyd yn oed cyn y pandemig. Cytunodd y swyddog i baratoi adroddiad am gyfarfod o’r pwyllgor yn y dyfodol i hysbysu’r Pwyllgor fel y gallent wedyn gyfleu eu pryderon yn ysgrifenedig i Stagecoach (Gweithredu: Christian Schmidt).
|
|
Troseddau casineb yn Sir Fynwy Trafod y data ar gyfer Sir Fynwy.
Cofnodion: Cyflwynodd y Tîm Diogelwch Cymunedol y data ar gyfer troseddau casineb a gyflawnwyd yn Sir Fynwy, gan nodi:
· Bu gostyngiad bach mewn troseddau casineb a adroddwyd eleni i gymharu gyda’r llynedd. · Dengys ein data yr adroddwyd llai o droseddau o gymharu gydag awdurdodau cyfagos. · Yn nhermau’r ardaloedd lle mae’r troseddau yn digwydd, maent wedi eu lledaenu’n wastad ar draws y sir.
Rhoddodd swyddogion gyd-destun ychwanegol am y ffigurau a roddwyd, gan esbonio eu bod yn gymharol ar gyfer ffigurau poblogaeth cyffredinol ym mhob un o’r siroedd, felly er enghraifft tra bod poblogaeth Sir Fynwy yn 93,000 a Thorfaen yn 92,300, mae niferoedd y troseddau casineb a adroddwyd yn Sir Fynwy yn hanner y rhai a adroddwyd yn Nhorfaen, er fod ganddynt lefelau poblogaeth tebyg ac mae ein niferoedd yn gymharol uchel o gymharu gyda’r awdurdodau eraill yng Ngwent.
Esboniodd y Tîm Diogelwch Cymunedol y cynhelir cyfarfodydd misol gydag ystod eang o bartneriaid, yn amrywio o addysg, diogelu, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, Ymddiriedolaeth Ambiwlans De Cymru a llawer arall ac nad yw’r Heddlu wedi tynnu sylw fod troseddau casineb yn broblem sy’n dod i’r amlwg. Hefyd yn eu cyfarfodydd wythnosol gyda’n swyddogion troseddu a gostwng, ni chafodd ei godi fel consyrn. Maent yn cydnabod, fodd bynnag, nad yw’r data ar ben ei hun yn rhoi’r darlun llawn, oherwydd tan-adrodd ar droseddau casineb oherwydd ofn dial a diffyg ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n cyfrif fel trosedd casineb. Dywedwyd y cynhelir digwyddiad ymwybyddiaeth ar gyfer gyrwyr tacsi, a all fod yn profi troseddau casineb ond nad ydynt yn gwybod am yr angen i wneud adroddiad amdano na sut i wneud hynny. Fe wnaethant hefyd yn esbonio nad yw troseddau casineb yn eistedd ar ei ben ei hun yn aml ond yn eistedd wrth ochr troseddau eraill.
Her/Trafodaeth: Mae gennyf ddiddordeb yn sut y gallwn esblygu’r sgwrs o amgylch hyn a chynyddu ymwybyddiaeth yn ogystal â chael tystiolaeth fwy penodol am lle mae troseddau yn digwydd.
Os mai dim ond troseddau casineb a adroddwyd sydd yn y ffigurau ac y gwyddom nad yw rhai pobl yn eu hadrodd, yna nid oes gennym ddarlun llawn. Beth ydyn ni’n wneud gydag ysgolion i sicrhau eu bod yn ei adrodd?
Rydym yn gweithio gydag ysgolion ar yr agenda bwlio a sut maent yn cofnodi digwyddiadau ac mae casineb yn un o’r categorïau, felly gallwn weithio gydag ysgolion i ddeall beth sy’n digwydd a’u cefnogi wrth fynd i’r afael ag ef.
Ydych chi’n meddwl fod tan-adrodd sylweddol ar droseddau casineb?
Mae’n anodd dweud hynny yn benodol am droseddau casineb, gan y gallech ddadlau fod tan-adrodd gyda phob troseddu. Pan siaradwn gyda’r gymuned gofynnwn os ydynt yn siarad gyda’r heddlu am ddigwyddiadau a gofynnant “beth yw’r pwynt?” felly mae cyswllt y cyhoedd gyda’r heddlu yn teimlo fel thema. Y cyfan a wnaiff y data a gyflwynwyd yw dangos i bobl oedd yn ddigon dewr i wneud adroddiad amdano, felly mae’n debyg y caiff troseddau casineb ei dan-adrodd i raddau helaeth iawn.
Deallaf y gall pobl fod yn ofnus ac ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Blaenraglen Waith a Rhestr Weithredu’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 351 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd y rhaglen waith a chytunwyd ar wahoddiadau ar gyfer y cyfarfod nesaf ar gyfer Llinellau Cyffuriau a Throseddau Casineb.
|
|
Cynllunydd Gwaith y Cyngor a'r Cabinet PDF 265 KB Cofnodion: Nodwyd.
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2022 PDF 341 KB Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.
|
|
I nodi dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf: 24 Ebrill 2023 Cofnodion: 24 Ebrill 2024.
|