Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance
Rhif | eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Y Cynghorydd Watts, a enwebwyd gan y Cynghorydd Rooke ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Bond.
|
|
Penodi Is-gadeirydd. Cofnodion: Y Cynghorydd Jones, a enwebwyd gan y Cynghorydd Butler ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Rooke.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd datganiadau o fuddiant.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol
Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy
Os hoffech i rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
· Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud) neu os yw’n well gennych; · Cyflwynwch gynrychiolaeth ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod.
Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.
Cofnodion: Nid oedd fforwm agored.
|
|
Cofnodion: Rhoddodd Sue O’Brian a Beth Watkins ddiweddariad ac ateb cwestiynau aelodau.
Her:
Pwyntiau allweddol a godwyd gan aelodau’r Pwyllgor: · Nodwyd y canfyddiad ymysg rhai mamau newydd nad oedd cefnogaeth ar gael iddynt. · Mynegwyd sioc nad oes rheolwr ymwelwyr iechyd yn gyfrifol am Dechrau’n Deg. · Gofynnwyd pa gapasiti sydd ar gyfer cymryd mwy o achosion, a pham fod cofnodion papur yn dal i gael eu cadw · Gofynnwyd beth fedrir ei wneud i helpu gwireddu’r weledigaeth ar gyfer cyffredinoliaeth gymesur · Yng nghyswllt gweithwyr gofal iechyd heb fod ar gael yn rhwydd i deuluoedd ifanc, gofynnwyd os oes rhywbeth yn y cytundebau partneriaeth neu lefel gwasanaeth y dylid dal gweithwyr proffesiynol ato, ac os nad oes, os y gallai fod rhyw fath o gamau cyfreithiol · Dywedwyd fod trothwyon i gael mynediad i Dechrau’n Deg yn swnio fel ‘loteri cod post’, ac y dylid eu newid i adlewyrchu’r cynnydd mewn amddifadedd oherwydd yr argyfwng costau byw, yn neilltuol i ddod â hwy i’r un sefyllfa a gweddill y Deyrnas Unedig
· Gofynwyd beth fedrid ei wneud i wella’r cytundeb lefel gwasanaeth rhwng Cyngor Sir Fynwy a’r bwrdd iechyd · Gofynnwyd os gellid newid y cynllun peilot os nad yw’n gweithio · Eglurwyd y broses atgyfeirio a gofyn beth fydd yn digwydd i’r teuluoedd na chawsant eu cynnwys nad ydynt yn ardaloedd prif ffrwd Dechrau’n Deg · Gofynnwyd os bydd y gostyngiad mewn cyllid o ddiwedd y proses beilot yn lliniaru yn erbyn pobl sy’n ei chyrchu yn seiliedig ar angen yn hytrach nag oherwydd eu bod yn y cod post perthnasol · Nodwyd y byddai’n ddefnyddiol pe byddai gan aelodau well ymwybyddiaeth a gwybodaeth am y llwybr atgyfeirio at gyfer eu preswylwyr · Gofynnwyd sut y gellir sicrhau cysondeb dull gweithredu gyda theuluoedd, heb ymwelwyr iechyd, a sut y gellir sicrhau nad oes unrhyw blant yn llithro drwy’r rhwyd · Cael eglurdeb ar lle mae’r Ymwelwyr Iechyd yn seiliedig
Crynodeb y Cadeirydd: Cytunodd aelodau y byddwn yn gofyn i Brif Weithredwr a swyddogion y Bwrdd Iechyd ddod i gyfarfod. Byddwn yn hyrwyddo’r achos hwn a gofyn i Brif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy ei godi yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
|
|
Cofnodion: Cyflwynodd Christian Schmidt a Debra Hill-Howells yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau. . Her:
Pwyntiau allweddol a godwyd gan aelodau’r Pwyllgor: · Egluro dyddiadau a gwybodaeth yn yr adroddiad gan ofyn os oes gwybodaeth ddiweddarach mewn rhai achosion, tebyg i’r canran oedd yn teithio i’r gwaith mewn car yn 2012, ac os y gellir cymharu dyddiadau costau · Nodi fod syniadau rhagorol tebyg i 3.22, a gofyn sut y caiff y dadansoddiad bwlch ei ddefnyddio yn y dyfodol a sut mae bysus Grassroots yn ffitio i’r cynllun · Dweud fod defnydd yn annhebyg o gynyddu i’r lefelau cyn y pandemig gan nad yw pobl yn ymddiried yn y gwasanaeth ac nad yw’n gweddu patrymau gwaith pobl o ardaloedd gwledig sy’n teithio i’r gwaith, felly bydd y defnydd o geir yn parhau bob amser · Dweud nad yw amserau bysus a threnau wedi cydlynu gyda Fforest y Ddena a Swydd Caerloyw, gan arwain at amserau aros hir, ac y dylai Sir Fynwy fod yn gweld budd enfawr fel rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ond nad yw’n gwneud hynny · Gofyn os oes cwmpas o fewn cynlluniau’r dyfodol i gynnwys gwasanaeth cefnogi cludiant ar gyfer rhai sy’n teithio i’r gwaith ar shifftiau dros gyfnod 24 awr · Nodi bod y data yn yr adroddiad yn hen e.e. cyfeiriad at gynnal astudiaeth gorsaf Magwyr yn 2015, a bod angen diweddaru’r holl ddarnau i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol · Gofyn sut y byddwn yn rhoi pwysau ar Trafnidiaeth Cymru, Uned Cyflenwi Burns ac ati, pan ddaw i gynllunio gorsafoedd newydd, gan y bu ymgyrch am fwy na 10 mlynedd am orsaf rhodfa yn Mynegwyr, a mynegi siom am sut mae trafnidiaeth wedi llithro lawr agenda’r cyngor · Nodi nad yw rhuban isaf y sir yn wledig, a bod angen rhoi ystyriaeth i hynny mewn materion trafnidiaeth · Gofyn os gallia’r Aelod Cabinet egluro’r bwriadau ar gyfer y Gr?p Trafnidiaeth Strategol · Wrth siarad ar y dirywiad amlwg mewn mynedfeydd ac allfannau gorsafoedd rheilffordd, fod angen annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ond cytuno bod hyder yn isel. Mae’n arbennig o bwysig fod pobl sy’n byw lle mae trenau e.e. y Fenni, yn dychwelyd iddynt a bod gwasanaethau bws i drenau yn hanfodol, ac felly hefyd gael y data gywir ar ddefnyddwyr · Gofyn os oes rheswm da dros y gwahaniaeth amlwg mewn cost rhwng rheilffordd Sir Fynwy a rheilffordd y Cymoedd ac os ydym yn herio hynny · Gofyn os, gyda gorsaf New Inn yn agor yn fuan, y bydd y bws rhif 63 yn stopio ym Mrynbuga ac os bu cynnydd mewn amserlenni yng nghyswllt Brynbuga a’r Fenni, gan gysylltu Brynbuga gyda bysus rhif 63 a 69 yn Rhaglan · Gofyn os yr edrychir ar fynediad i Gyffordd Twnnel Hafren a gwelliannau cyfnewidfa yn cael eu hystyried fel rhan o Flaenoriaeth 1
Crynodeb y Cadeirydd: Diolchwyd i swyddogion. Dychwelir at hyn ym mis Hydref a gofynnir i’r Aelod Cabinet ddod i’r cyfarfod i ateb cwestiynau.
|
|
Blaenraglen Waith a Rhestr Weithredu’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus. PDF 353 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Caiff gweithdy ar Linellau Cyffuriau ei drefnu, cyn yr haf os oes modd, dan gadeiryddiaeth y Pwyllgor Pobl. Gwahoddir Christian Schmidt yn ôl i’r cyfarfod nesaf ym mis Hydref. Bydd swyddogion yn ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd i gytuno ar ddyddiad.
Strategaeth VAWDASV: gwahoddir swyddogion yn ôl yn yr hydref - maent angen amser i roi’r strategaeth ar waith fel y gallwn wedyn eu gwahodd i gyfrif ar eu perfformiad.
Diolchodd y Cynghorydd Bond i’r Arolygydd Williams am ddarparu gwybodaeth ar ôl y cyfarfod diwethaf ond nododd fod y pwyllgor hefyd wedi gofyn am gymarebau ar gyfer nodweddion gwarchodedig – GWEITHREDU.
|
|
Cynllunydd Gwaith y Cyngor a'r Cabinet PDF 216 KB Cofnodion: Cynigiwyd bod anghydraddoldeb cod post ar gyfer gwasanaethau optegol yn bwnc ar gyfer y dyfodol, yn arbennig y gwahaniaeth mewn amserau agos am driniaeth frys os y cyfeirir i Gasnewydd neu dros y ffin. Cynigiwyd Gwasanaethau Deintyddol hefyd gyda’r prif ffocws ar bobl ifanc, ond gyda phosibilrwydd ehangu’r drafodaeth i bob oed.
Awgrymodd Hazel Ilett y gallai’r Bwrdd Iechyd roi sylw i’r pwnc hwn ar yr un pryd pan gânt eu gwahodd am Dechrau’n Deg.
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24ain Ebrill 2023. PDF 368 KB Cofnodion: Cadarnhawyd y cofnodion. Cynigiwyd gan y Cynghorydd Butler ac eiliwyd gan y Cynghorydd Jones.
Nododd y Cynghorydd Jones nad oedd ei henw wrth ochr ‘Is Gadeirydd’ yn y rhestr presenoldeb.
|
|
Cyfarfod Nesaf: Dydd Llun 23ain Hydref 2023 am 10.00am. Cofnodion: Ceisir cyfarfod cyn hynny, yn dibynnu ar argaeledd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
|