Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod. Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud. Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau.
|
|
Dyletswydd Trais Difrifol: Strategaeth Ranbarthol PDF 279 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd a chyflwynodd y Rheolwr Partneriaethau Strategaeth Dyletswydd Trais Difrifol Gwent, a ddatblygwyd mewn ymateb i'r ddeddfwriaeth newydd sy'n gofyn am gydweithio amlasiantaethol er mwyn atal a mynd i'r afael â thrais difrifol. Esboniodd y diffiniad o drais difrifol, y ffynonellau data, yr heriau, y pedair blaenoriaeth, y camau gweithredu, y trefniadau llywodraethu ar gyfer y strategaeth a'r cyllid. Amlygodd yr angen am gydweithredu amlasiantaethol, dulliau lleol ac ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Esboniodd Martin Smith o Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu y cyd-destun cenedlaethol a lleol a dywedodd fod y ffocws ar ddynladdiad a throseddau’n ymwneud â cyllyll, a'r gwaith ymyrryd ac atal a wneir gyda phobl ifanc a throseddwyr. Cynorthwyodd y Prif Arolygydd Amanda Thomas hefyd wrth ateb cwestiynau’r Aelodau
Cwestiynau gan y Pwyllgor:
·
Gofynnodd Aelod sut mae'r cynghorau tref a chymuned yn cymryd
rhan yn y strategaeth a'r broses o gasglu data.
Eglurodd Sharon, Martin ac Amanda eu bod yn bartneriaid allweddol
a'u bod yn bwriadu gwella'r ymgysylltu â hwy a'r gymuned
ehangach trwy gyfarfodydd ac arolygon lleol.
· Gofynnwyd cwestiwn am ddadansoddi data a meincnodi, yn benodol, y dewis o 2019-2020 fel y flwyddyn a ddefnyddir fel llinell sylfaen, y canrannau yn yr adroddiad, cynnydd y system dadansoddi data, dyrannu cyllid, a'r gymhariaeth ag ardaloedd sy’n profi lefelau isel o droseddau. Atebodd y Rheolwr Partneriaethau mai’r Swyddfa Gartref a ddewisodd y flwyddyn, y bydd y data'n cael ei fireinio a'i ddiweddaru, y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau presennol ac anghenion lleol, a bod y data ar droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei fonitro a bod ymateb yn cael ei roi iddo’n rheolaidd. Eglurodd Martin ac Amanda fod y data'n seiliedig ar ffenestr pum mlynedd, ond roedd amrywiadau oherwydd COVID, bod y system dadansoddi data yn defnyddio porth a gasglodd ddata gan fyrddau iechyd a'r heddlu, bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ymyriadau presennol a lleol. Eglurwyd bod y data'n esblygu a'u bod yn defnyddio gwahanol ffynonellau, gan gynnwys data’r adran Damweiniau ac Achosion Brys, i gael darlun gwell. Dywedon eu bod yn edrych ar feysydd eraill ar gyfer dysgu a chymharu. Dywedon hefyd eu bod yn defnyddio'r cyllid i ymgorffori newid systemig ac i fynd i'r afael â phroblemau lleol.
· Gofynnodd Aelod pam fod Sir Fynwy wedi gweld cynnydd mewn trais difrifol a sut y gall y strategaeth ddylanwadu ar y newid o ystyried gostyngiad mewn gwasanaethau ac adnoddau dros y blynyddoedd. Cydnabu Martin ac Amanda effaith ffactorau fel aces, Covid, cam-drin domestig a throseddau’n ymwneud â cyllyll a dywedodd eu bod yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r ffactorau risg ac i ddarparu gwaith ymyrraeth ac atal.
· Gofynnwyd cwestiwn am gysondeb o ran cofnodi ac adrodd ar ddata ymhlith y sefydliadau partner a throsiant arolygwyr. Atebodd Martin ac Amanda eu bod yn gweithio i sicrhau bod y data'n ddibynadwy ac y gellir ei gymharu, mai’r PCC sy’n gyfrifol am ddwyn yr heddlu i gyfrif a sicrhau bod dyletswyddau’n cael eu trosglwyddo’n esmwyth.
· Cwestiynodd yr ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Plismona Cymunedol Cofnodion: Rhoddodd y Prif Arolygydd Amanda Thomas drosolwg o'i rôl a'i chyfrifoldebau yn Sir Fynwy a Chasnewydd, gan egluro ei bod yn gweithio'n agos gyda'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a'i bod yn goruchwylio timau'r gymdogaeth, yr hybiau datrys problemau, y tîm troseddau gwledig, a'r portffolio troseddau casineb. Soniodd hefyd am rai o'r problemau a'r mentrau cyfredol sy'n ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, megis troseddau cyllyll, swyddogion cyswllt ysgolion, a chyllid gan y llywodraeth ac eglurodd ei bod wedi ymrwymo i ddatrys problemau a gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i wneud Sir Fynwy yn sir ddiogel.
Cwestiynau gan yr Aelodau:
· Gofynnodd yr Aelodau beth yw prif flaenoriaethau'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (CSP) yn Sir Fynwy. Eglurodd Amanda fod gan y CSP bedwar maes thematig y mae'n canolbwyntio arnynt: troseddau cyfundrefnol difrifol, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chamfanteisio. Mae hefyd yn gweithio ar alinio ei waith gyda'r byrddau a'r strwythurau rhanbarthol, megis Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent a'r Ddyletswydd Trais Difrifol.
· Gofynnodd y Pwyllgor sut mae'r CSP yn gweithiogydag ysgolion a phobl ifanc i atal a mynd i'r afael â thrais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y CSP yn gweithio gydag ysgolion a phobl ifanc drwy amrywiol fentrau, megis rhaglen Headley Back, sef cynllun bychan gan yr heddlu sy'n anelu at addysgu ac ymgysylltu â phlant ysgolion cynradd ar faterion sy’n ymwneud â diogelwch cymunedol. Mae'r CSP hefyd yn cefnogi'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a'r rhaglen Gelfyddydol, sy'n gwneud gwaith ymyrraeth ac atal gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu neu sydd wedi troseddu. Mae'r CSP hefyd yn gweithio gyda'r swyddogion cyswllt ysgolion, sy'n darparu cymorth ac arweiniad i ysgolion ar atal, diogelu a chyfiawnder adferol.
· Gofynnodd y Cadeirydd sut mae'r cytundeb CSP yn delio gyda phroblemau o ran trosedd casineb ac amrywiaeth yn Sir Fynwy. Dywedodd Amanda fod gan y CSP bortffolio troseddau casineb, sy'n cael ei arwain ganddi fel Prif Arolygydd. Mae'r CSP yn gweithio gyda'r tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, sy'n ymgysylltu ag amrywiol grwpiau cymunedol, megis grwpiau ieuenctid LHDT, arweinwyr mosgiau, grwpiau menywod Asiaidd, grwpiau ffoaduriaid a cheiswyr lloches, er mwyn codi ymwybyddiaeth ac annog pobl i adrodd am droseddau casineb a digwyddiadau casineb.
·
Gofynnodd y Cadeirydd sut mae'r Heddlu yn ymdrin yn benodol
â throseddau casineb a beth yw eu perthynas
â'r ysgolion. Eglurodd Amanda fod troseddau casineb yn cael
eu cofnodi a'u hadrodd yn unol â chanllawiau'r Coleg Plismona
ac mae'r tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn
ymgysylltu â grwpiau bregus a lleiafrifol er mwyn eu hannog i
adrodd ac adeiladu ymddiriedaeth a hyder. Daeth Llywodraeth Cymru
â chyllid swyddogion cyswllt ysgolion i ben ac mae angen dod
o hyd i ffyrdd amgen o weithio gydag ysgolion ac addysgu pobl
ifanc. · Gofynnodd aelod sut mae'r heddlu yn ymgysylltu â'r cynghorau cymuned a'r gymuned ehangach. Esboniodd Amanda fod yr heddlu'n ceisio mynychu cyfarfodydd y cyngor cymuned a digwyddiadau lleol pan fo hynny'n bosib, ac yn ceisio cyfathrebu drwy e-bost, Facebook a gwefan Heddlu Gwent. Maent hefyd yn ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Ystyried blaenraglen gwaith a rhestr weithredu y Pwyllgor Gwasanaethau Cyhoeddus . PDF 367 KB Cofnodion: Cytunwyd y dylid ychwanegu’r canlynol i’r Flaenraglen Waith:
· Gwerthu fêps yn anghyfreithlon ~ iechyd yr amgylchedd a pheryglon fêps a werthir ar y farchnad ddu, gyda gwahoddiad i Safonau Masnach yn ogystal â chynrychiolydd o’r maes addysg.
· Iechyd meddwl a chysylltiadau â sefydliadau eraill fel Mind.
|
|
Cifbiduib t ctfarfid bkaebirik a gtbgakuwtd ar 11 Rhagfyr 2023. PDF 283 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 11eg Rhagfyr 2023.
|
|
Nodi dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf: 14 Hydref 2024. Cofnodion: I'w gadarnhau (Gohiriwyd cyfarfod 17eg Mehefin)
|