Lleoliad: Remote Meeting Via Microsoft Teams
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ethol cadeirydd ar gyfer cyfarfod heddiw Cofnodion: Gan nad oedd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gael i fynychu’r cyfarfod, etholwyd y Cynghorydd Sir David Jones yn Gadeirydd ar gyfer cyfarfod heddiw. |
|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Nid oedd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant.
|
|
Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22ain Gorffennaf 2024 fel cofnod cywir. |
|
Cofnodion: Gwnaethom wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes a ganlyn yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl pob tebyg fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf. |
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc yng nghyswllt ceisiadau a gafwyd ar gyfer Cronfa’r Ymddiriedolaeth am Flwyddyn Academaidd 2024/25. Cofnodion: Gwnaethom ystyried 11 o geisiadau a dderbyniwyd yn erbyn y Gronfa Ymddiriedolaeth, a gyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc.
Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth:
(i) dyfarnu gwobrau i naw o'r ymgeiswyr, yn amodol ar dderbynebau priodol a thystiolaeth o bresenoldeb. Byddai swyddogion yn cysylltu â rhai o'r ymgeiswyr hyn i ofyn am ragor o wybodaeth.
(ii) ni chafodd dau gais eu hariannu yn y cyfarfod heddiw. Byddai swyddogion yn cysylltu â'r ddau ymgeisydd i gael rhagor o wybodaeth. Pan fydd y wybodaeth ychwanegol wedi dod i law, bydd y ceisiadau'n cael eu hailgyflwyno i gyfarfod o'r Ymddiriedolaeth yn y dyfodol i'w hystyried.
(iii) bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf yr Ymddiriedolaeth yn amlinellu polisi trafnidiaeth gyhoeddus yr Awdurdod a chyfraddau ceiniog y filltir, gyda golwg ar gynorthwyo myfyrwyr wrth wneud cais am gyllid yn erbyn yr Ymddiriedolaeth mewn perthynas â’u costau teithio i’r coleg.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf. Cofnodion: Dydd Llun, 20fed Ionawr, 2025 2.00pm. |