Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Remote Attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Yr Athro Desmond Hayes

Cofnodion:

Hysbysodd Penri James yr Ymddiriedolaeth y bu farw’r Athro Desmond Hayes ym mis Rhagfyr 2022. Bu’r Athro Hayes yn cynrychioli Prifysgol Aberystwyth ar yr Ymddiriedolaeth am flynyddoedd lawer cyn ei ymddeoliad. Yn ystod ei gyfnod fel Ymddiriedolydd roedd wedi rhoi cyngor ac arweiniad gwerthfawr tu hwnt i’r Ymddiriedolwyr a swyddogion.

 

2.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

3.

Yn cadarnhau a’n llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy. pdf icon PDF 118 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2022.

 

4.

Adroddiad Blynyddol Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy ar gyfer y flwyddyn sydd yn gorffen 31ain Mawrth 2022 ac Archwiliad Annibynnol o’r Adroddiad Datganiad Ariannol - Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy. pdf icon PDF 341 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid y cyfrifon terfynol am y flwyddyn a ddiweddodd 2022.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cyfrifon.

 

5.

Ystyried a ddylid gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra’n ystyried yr eitemau canlynol o fusnes yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygir, ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth esempt fel sydd wedi ei ddiffinio ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf (mae Barn y Swyddog Priodol wedi ei hatodi). pdf icon PDF 190 KB

Cofnodion:

Cafodd y wasg a’r cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod pan ystyriwyd yr eitemau dilynol o fusnes yn unol ag Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail eu bod yn ymwneud â datgeliad tebygol ar wybodaeth eithriedig a diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

6.

Diweddariad llafar i Ymddiriedolwyr ar y cynnydd sydd wedi ei wneud o ran y twyll diweddar a nodwyd.

Cofnodion:

Cafodd yr Ymdddiriedolaeth ddiweddariad yn dilyn yr adroddiad i Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy ym mis Gorffennaf 2022 ynghylch y cais twyllodrus a wnawed i’r Ymddiriedolaeth mewn blynyddoedd diweddar.

 

Hysbyswyd yr Ymddiriedolaeth fod Heddlu Gwent wedi rhybuddio’r unigolyn. Roedd yr Ymddiriedolaeth hefyd wedi derbyn llythyr yn ymddiheuro a chafodd yr holl arian ei ad-dalu i’r Ymddiriedolaeth ym mis Rhagfyr 2022.

 

Roedd Cyngor Sir Fynwy wedi hysbysu’r corff cyfrifeg am yr unigolyn ac mae’r achos yn awr wedi cau.

 

7.

Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc am y ceisiadau sydd wedi eu derbyn am y Gronfa Ymddiriedolaeth ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2022/23.

Cofnodion:

Fe wnaethom ystyried 13 cais a gafwyd i’r Gronfa Ymddiriedolaeth, a gyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc.

 

Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth i wneud dyfarniadau i’r 13 ymgeisydd fel a gytunwyd, yn amodol ar gael y derbynnebau priodol a thystiolaeth o bresenoldeb.

 

8.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.

Cofnodion:

Dydd Llun 17 Gorffennaf 2023 am 11.00am.