Lleoliad: Remote Microsoft Teams Meeting
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Sir D. Jones yn Gadeirydd.
|
|
Penodi Is-gadeirydd. Cofnodion: Penodwyd y Cynghorydd D. Havard yn Is-gadeirydd.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant..
|
|
Cofnodion: Cadarnhaodd a llofnododd y Cadeirydd gofnodion Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy dyddiedig 27 Ionawr 2020.
|
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid yr adroddiad blynyddol am y flwyddyn a ddiweddodd 31 Mawrth 2020.
Wrth wneud hynny, byddai’r Rheolwr Cyllid yn cysylltu â’r Trysorydd am ba mor hir y byddai Ymddiriedoaleth Roger Edwards yn parhau i dalu i Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy.
Derbyniwyd yr adroddiad blynyddol am y flwyddyn a ddiweddodd 31 Mawrth 2020.
|
|
Cofnodion: Derbyniwyd y Strategaeth Buddsoddi a Risg ar gyfer Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy 2020/21.
Nodwyd yr adroddiad.
|
|
Cytuno ar gyllideb grant ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21. Cofnodion: Penderfynwyd y byddai Cyllideb Grant Ymddiriedolaeth Gwaddol Sir Fynwy ar gyfer 2020/21 yn £30,000.
|
|
Cofnodion: Penderfynwyd eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod pan ystyriwyd yr eitem ddilynol o fusnes yn unol ag Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn cynnwys y datgeliad debygol o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf..
|
|
Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc ynghylch ceisiadau a dderbyniwyd yn erbyn y Gronfa Ymddiriedolaeth ar gyfer y Flwyddyn Academaidd 2019/20. Cofnodion: Ystyriwyd pedwar cais a dderbyniwyd ar gyfer y gronfa ymddiriedolaeth a gyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc.
Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth:
(i) gwneud dyfarniadau i’r pedwar ymgeisydd, fel y cytunwyd, yn amodol ar derbyn derbynebau priodol a thystiolaeth o fynychu;
(ii) ychwanegu eitem at agenda cyfarfod nesaf Ymddiriedolaeth gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy i drafod cyllido prentisiaethau mewn galwedigaethau seiliedig ar y tir.
|
|
Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc ynghylch ceisiadau a dderbyniwyd yn erbyn y Gronfa Ymddiriedolaeth ar gyfer y Flwyddyn Academaidd 2020/21. Cofnodion: Ystyriwyd naw cais a dderbyniwyd ar gyfer cronfa’r Ymddiriedolaeth, a gyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc.
Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth:
(i) gwneud dyfarniadau i’r naw ymgeisydd, fel y cytunwyd, yn amodol ar dderbyn derbynebau priodol a thystiolaeth o fynychu;
(ii) bod un o’r ymgeiswyr yn rhoi manylion i swyddogion am eu benthyciad Addysg Uwch.
Roedd cyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd i fyfyrwyr yn y cyfarfod yn £7696.62.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf Cofnodion: Dydd Llun 1 Chwefror 2021 am 11.00am.
|