Agenda and minutes

Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy - Dydd Mawrth, 14eg Hydref, 2025 11.00 am

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy. pdf icon PDF 26 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Wrth wneud hynny, byddai’r Tîm Cyllid Plant a Phobl Ifanc yn cydlynu gyda Coleg Gwent i ddynodi ffyrdd o hyrwyddo Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy gyda golwg ar annog mwy o fyfyrwyr i wneud cais am gyllid drwy’r Ymddiriedolaeth.

 

3.

Ystyried p’un ai i eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod pan ystyrir yr eitem ganlynol o fusnes yn unol ag Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn debygol y bydd yn golygu datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. (Atodir barn y Swyddog Priodol). pdf icon PDF 190 KB

Cofnodion:

Fe wnaethom eithrio’r wasg o’r cyhoedd o’r cyfarfod pan ystyriwyd yr eitem ganlynol o fusnes yn unol ag Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn debygol y byddai yn golygu datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

4.

Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Plant a Pobl Ifanc yng nghyswllt ceisiadau a gafwyd ar gyfer Cronfa’r Ymddiriedolaeth ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2025/26.

Cofnodion:

Fe wnaethom ystyried saith cais a gafwyd ar gyfer y Gronfa Ymddiriedolaeth, a gyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc.

 

Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth:

 

(i)    rhoi dyfarniadau i’r saith ymgeisydd, yn amodol ar gael derbynebau a thystiolaeth briodol.

 

(ii)   y byddai’r Rheolwr Cyllid a Gwasanaethau Cymorth yn cydlynu gyda Thîm Cyfathrebu Cyngor Sir Fynwy gyda golwg ar hyrwyddo Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy drwy eu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

 

5.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Dydd Mawrth 20 Ionawr 2026 am 11.00am.