Lleoliad: Remote Meeting Via Microsoft Teams
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Gwnaethom ethol y Cynghorydd Sir Martyn Groucutt yn Gadeirydd. |
|
Penodi Is-gadeirydd. Cofnodion: Gwnaethom benodi’r Cynghorydd Sir Phil Murphy yn Is-Gadeirydd. |
|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant.
|
|
Cadarnhau’r Cofnodion. PDF 119 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23ain Ionawr 2024 fel cofnod cywir. |
|
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgolion Fferm Sir Fynwy am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024.
Cytunodd yr Ymddiriedolwyr y gellir trosglwyddo'r rhain i archwilwyr allanol i'w harchwilio'n annibynnol.
Gwnaethom weithredu yn unol â hynny. |
|
Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd. PDF 189 KB Cofnodion: Gwnaethom wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes a ganlyn yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth esempt yn ôl pob tebyg fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. |
|
Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc ynghylch ceisiadau a dderbyniwyd yn erbyn Cronfa Ymddiriedolaeth ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2024/25. Cofnodion: Gwnaethom ystyried pedwar cais a dderbyniwyd yn erbyn y Gronfa Ymddiriedolaeth, a gyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc.
Cytunwyd y bydd matrics o gostau’n cael ei lunio i’w drafod yn y cyfarfod nesaf a chysylltir â’r holl golegau i roi cyhoeddusrwydd i’r ymddiriedolaeth i bob myfyriwr newydd a phresennol ym mis Medi 2024.
Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth y dylid rhoi dyfarniadau i'r pedwar ymgeisydd, yn amodol ar dderbynebau priodol a thystiolaeth o bresenoldeb.
Cyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd i fyfyrwyr yn y cyfarfod oedd £4152.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf. Cofnodion: Dydd Llun, 21ain Hydref, 2024 11.00yb. |