Lleoliad: Remote Attendance
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Dim wedi’u derbyn.
|
|
Cofnodion: Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 17eg o Orffennaf yn gofnod cywir.
|
|
Cofnodion: Gwaharddwyd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod wrth i’r pwyllgor ystyried yr eitem busnes canlynol yn unol ag Adran 100A y Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd, ar y sail y byddai gwybodaeth esempt, fel y’i diffinnir ym mharagraff 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf, yn debygol o gael ei datgelu.
|
|
Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc ar geisiadau a dderbyniwyd ar gyfer Cronfa’r Ymddiriedolaeth ar gyfer y Flwyddyn Academaidd 2023/24. Cofnodion: Ystyriom y 51 cais a dderbyniwyd yn erbyn y gronfa ymddiriedolaeth, a gyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.
Penderfynodd y Gronfa:
(i) y dylid rhoi gwobrau i’r 51 ymgeisydd, yn ddarostyngedig i dderbyn derbynebau a thystiolaeth o bresenoldeb;
(ii) Fod Technegydd Cyfrifo dan Hyfforddiant Cyngor Sir Fynwy’n gwneud cais am fwy o eglurder gan ymgeisydd mewn perthynas â’u cais am gyllid o ran llety;
(iii) Fod Technegydd Cyfrifo dan Hyfforddiant Cyngor Sir Fynwy’n gwneud cais am fwy o eglurder gan ymgeisydd mewn perthynas â’u cais, gan yr ystyriwyd y gallai’r ymgeisydd fod â chyflwr meddygol a allai olygu bod angen cymorth TG ychwanegol arnynt. Os yw hyn yn wir, gellir ystyried rhoi mwy o gyllid i’r ymgeisydd, drwy’r gronfa, yn y cyfarfod nesaf.
(iv) Fod Technegydd Cyfrifo dan Hyfforddiant Cyngor Sir Fynwy yn adolygu’r ffurflen gais am gyllid drwy’r Gronfa gyda’r bwriad o’i gwneud yn haws i fyfyrwyr ei defnyddio.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf. Cofnodion: Dydd Llun y 29ain o Ionawr 2024 am 11.00am.
|