Lleoliad: Remote Attendance
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Sir M. Groucutt fel Cadeirydd.
|
|
Apwyntio Is-Gadeirydd Cofnodion: Apwyntiwyd y Cynghorydd Sir D. Jones fel Is-Gadeirydd |
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant wedi eu derbyn.
|
|
Cofnodion: Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21ain Ionawr 2022 wedi eu cadarnhau fel cofnod cywrain.
|
|
Cofnodion: Roedd y Pwyllgor wedi derbyn Adroddiad Blynyddol Ymddiriedolaeth Waddol Ysgol Fferm Sir Fynwy ar gyfer y flwyddyn yn gorffen ar 31ain Mawrth 2022.
Wrth wneud hyn, nodwyd fod yna gais twyllodrus wedi ei gyflwyno i’r Ymddiriedolaeth yn y blynyddoedd diwethaf, a oedd yn werth £2590. Roedd manylion yr achos wedi eu trosglwyddo i Heddlu Gwent er mwyn cynnal ymchwiliad troseddol. Bydd y swm yn cael ei ad-dalu i’r Ymddiriedolaeth drwy gyfrwng cynllun talu.
Roedd archwilwyr Cyngor Sir Fynwy yn ymwybodol o hyn, ac o ganlyniad, mae gweithdrefnau cadarn wedi eu sefydlu ar gyfer y broses gais wrth i ni symud ymlaen.
Cynigwyd cymeradwyo’r cyfrifon.
|
|
Strategaeth Fuddsoddi a Chronfa Ymddiriedolaeth Waddol Ysgol Fferm Sir Fynwy 2022/23. PDF 631 KB Cofnodion: Roeddem wedi derbyn y Strategaeth Fuddsoddi a Chronfa ar gyfer Ymddiriedolaeth Waddol Ysgol Fferm Sir Fynwy 2022/23.
Roeddem wedi nodi’r adroddiad.
|
|
Cofnodion: Roeddem wedi gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra’n ystyried yr eitem ganlynol o fusnes, a hynny yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygir, ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth esempt fel sydd wedi ei diffinio ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf.
|
|
Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ynglŷn â cheisiadau sydd wedi eu derbyn gan y Gronfa Ymddiriedolaeth ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2022/23. Cofnodion: Roeddem wedi ystyried dau gais a dderbyniwyd gan y Gronfa Ymddiriedolaeth, a gyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.
Cytunodd yr Ymddiriedolaeth y dylid cymeradwyo’r ddau gais, a hynny’n amodol ar dderbyn yr anfonebau priodol a thystiolaeth ohonynt yn mynychu.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf Cofnodion: Dydd Llun, 17eg Hydref 2022 am 11.00am.
|