Lleoliad: Remote Attendance
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Roedd Mr. Penri James, a oedd yn cynrychioli Prifysgol Aberystwyth, wedi datgan buddiant a diddordeb personol ar gyfer pedwar cais gan fyfyrwyr a oedd yn astudio cwrs Astudiaethau Ceffylau, sef cwrs breiniol gan Brifysgol Aberystwyth. Nid oedd wedi cymryd rhan felly yn y drafodaeth a’r bleidlais ar gyfer y ceisiadau yma.
|
|
Cofnodion: Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11eg Gorffennaf 2022 wedi eu cadarnhau fel cofnod cywrain.
|
|
Cofnodion: Roeddem wedi gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra’n ystyried yr eitem ganlynol o fusnes, a hynny yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygir, ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth esempt fel sydd wedi ei diffinio ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf.
|
|
Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc ynghylch ceisiadau a dderbyniwyd yn erbyn Cronfa Ymddiriedolaeth ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2022/23. Cofnodion: Roeddem wedi ystyried 32 cais a gyflwynwyd i’r Gronfa Ymddiriedolaeth, a hynny ar ran y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.
Cytunwyd y dylid:
(i) cymeradwyo 27 o’r ceisiadau, fel y cytunwyd, a hynny’n amodol ar dderbyn yr anfonebau priodol a thystiolaeth ohonynt yn mynychu
(ii) dylid gwneud dyfarniad dros dro i un o’r ceisiadau, a hynny’n amodol ar dderbyn yr anfonebau priodol a thystiolaeth ohonynt yn mynychu. Hefyd, bydd Technegydd Cyfrifeg dan Hyfforddiant Cyngor Sir Fynwy yn gofyn am fwy eglurder gan yr ymgeisydd yngl?n â’r cais am gyllid.
(iii) ni ddylid rhoi unrhyw gyllid i un ymgeisydd am ei fod wedi rhoi’r gorau i’r cwrs.
(iv) oedi ystyried tri chais tan y cyfarfod ym mis Ionawr 2023 o Gronfa Ymddiriedolaeth Waddol Ysgol Fferm Sir Fynwy gan nad oedd cworwm yn y cyfarfod mwyach, ac nid oedd modd ystyried y ceisiadau yma.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf. Cofnodion: Dydd Llun 30ain Ionawr 2023 am 11.00am.
|