Agenda and minutes

Pwyllgor Ardal Severnside - Dydd Mercher, 20fed Gorffennaf, 2016 10.00 am

Lleoliad: Innovation House Magor - Room 6 Innovation House Magor

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Is Gadeirydd

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Sir J. Higginson fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

 

 

2.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnodion:

Derbyniasom ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Sir J. Crook.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Eitem 6 – Datganodd y Cynghorydd Sir J. Marshall fuddiant personol, manteisiol yn ystod y drafodaeth fel cyflogai Asda.

 

Eitem 7 - Datganodd y Cynghorydd Sir J. Marshall fuddiant personol, manteisiol yn ystod y drafodaeth gan fod ganddo ffrindiau sy’n mynychu Eglwys Bethania, fe briododd yno hefyd.  

 

 

4.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 11 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion fel rhai cywir ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

5.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn y cyfarfod.

 

6.

Diweddariad Tîm y Dref

Cofnodion:

Cyswllt

 

Y diweddariad diwethaf a dderbyniwyd gan landlordiaid neu Gyngor Sir Fynwy oedd ar Orffennaf 4ydd 2016, nodai’r e-bost, dros y ddwy wythnos nesaf, y dylai dogfennaeth gael ei chwblhau a’u bod yn hynod ymwybodol o’r angen i fwrw ymlaen gyda’r prosiect. Mae Aaron Weeks wedi e-bostio’r holl bartïon yn gofyn am ddiweddariad, ond heb dderbyn ymateb adeg y cyfarfod.

 

 

Siopau Codi’n Chwap yn bwrw Cil-y-coed

 

Gydag oedi maith o ganlyniad i ollyngiad d?r yn yr uned lle cynhelir y siop codi’n chwap, cyhoeddodd Tîm y Dref y bydd lansiad swyddogol y prosiect ar ddydd Mawrth, Awst 9fed 2016.  Bydd yr holl Aelodau’n derbyn gwahoddiad ffurfiol dros yr wythnos nesaf, bydd y lansiad yn gyfle i siarad mewn mwy o fanyldeb ynghylch y prosiect, beth yw’n deilliannau disgwyliedig a beth ellid ei wneud law yn llaw gyda’r prosiect i atal dirywiad y canol tref.

 

Store 21

 

Mae Store 21 yn ddiweddar wedi gosod arwyddion cau lawr. Nid symudiad lleol yw hwn, mae’r cwmni wedi bod mewn trafferthion am y 6 blynedd ddiwethaf, i amrywiol raddau.

Mae gan y cwmni tan 11eg Awst i benderfynu, gyda gweinyddwyr, a fyddai’r cwmni’n parhau. Roedd Aaron Weeks yn falch i ddweud eu bod ers ddoe wedi mynd mewn i Gytundeb Gwirfoddol Cwmnïau (CVA) fodd bynnag nid yw hyn heb ei broblemau  a gwelir nifer o siopau manwerthu  yn cau ar draws y wlad. Nid yw Tîm y Dref yn ymwybodol hyd yn hyn o unrhyw benderfyniadau’n gysylltiedig â siop Cil-y-coed , ond mae’n cadw i fyny ar newyddion sy’n dod o’r cwmni. Wedi dweud hynny, ar ôl sgwrs hir â’r landlord yr wythnos ddiwethaf, mae’n cymryd camau i gyfathrebu’n uniongyrchol gyda chwmnïau eraill sydd yn flaenorol wedi cofrestru diddordeb yng Nghil-y-coed. Mae e wedi cadarnhau hefyd y bydd Tîm Tref Cil-y-coed yn ymwneud ag unrhyw drafodaethau a gynhelir ac yn cymryd rhan ynddynt., am ei fod yn teimlo hy gallai’r cynlluniau ailddatblygu fod yn bwynt allweddol i ddod mewn â mwy o frandiau cenedlaethol.

 

Prosiect Dylunio Dinesig

Wedi cymryd seibiant o’r prosiect hwn, o ganlyniad i ymrwymiadau eraill, mae Tîm y Dref wedi trefnu cyfarfod ar gyfer 1pm heddiw i edrych ar symud y prosiect ymlaen, gwahoddwyd Aelodau i fynychu. Bydd Tîm y Dref yn canolbwyntio ar y ddau gam y dymunai’r cyhoedd eu gweld fwyaf, sydd hefyd yn gweddu i’w harolygon a gyflawnwyd yn 2013, 2014 a 2015. Gwahoddwyd landlordiaid i’r cyfarfod, fodd bynnag maent yn analluog i fynychu. Bydd Tîm y Dref yn aildrefnu cyfarfod i’w gynnal yn ystod Awst/yn gynnar ym Medi. Bydd gwaith yn parhau yn y cefndir yn ystod yr amser hwn.

 

Glanhau 

 

Mae glanhau’r dref wedi cychwyn eisoes, symudwyd yr holl chwyn. Mae Tîm y Dref yn siarad â landlordiaid ynghylch gweithredu cynlluniau newydd i ymdrin â mannau clwydo colomennod ac rydym yn ddiweddar wedi derbyn amcan brisiau gan Gumdrop Bins i redeg treial ar sbwriel cnoi gwm yn y dref. Yn ddiweddar, mae Tîm y Dref wedi anfon llythyrau i bob busnes  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Grantiau Ardaloedd

Cofnodion:

Dyrannwyd yr arian grant oedd yn weddill (£965) ers y llynedd i Eglwys Bethania fel y cytunwyd yng Nghyfarfod  Pwyllgor Ardal Glan Hafren Mehefin 2016.

 

Hysbysodd Pennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned y Pwyllgor, cyn y rownd nesaf o grantiau, y bydd yn cwblhau’r manylion ac unwaith y gwneir hynny ei bod yn bwriadu mynd â’r wybodaeth i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Y bwriad yw i’r ffurflenni fod ar gael ym Medi / yn Hydref 2016.

 

Gwnaeth Aelodau sylwadau y dylai grwpiau llai heb botensial manwerthu gael blaenoriaeth ac y dylai’r dyraniadau grant adlewyrchu cymuned Glan Hafren gyfan.

 

 

 

8.

Diweddariad Lle Cyfan

Cofnodion:

Derbyniasom ddiweddariad gan y Swyddog Lle Cyfan ynghylch y grwpiau amrywiol roedd y tîm Lle Cyfan eisoes wedi’u cefnogi gan gynnwys Ymddiriedolaeth Glan Hafren, Dell Park, cydweithwyr yn yr Hybiau a’r tîm polisi a greodd y wefan Made Open yn ddiweddar. Dywedwyd wrthym hefyd am waith paratoi yn digwydd i gefnogi ffoaduriaid fydd cyn bo hir yn symud i’r ardal.

 

Dywedwyd wrthym i’r cyfarfod clwstwr diweddar brofi’n gadarnhaol gyda phenderfyniadau’n cael eu gwneud cyn bo hir. Teimlwyd bod pawb gymerodd ran yn eiddgar i wella cyfathrebu a bod ganddynt weledigaeth gyffredin a rannwyd gan bawb, gyda’r prosiect yn cael ei ystyried yn ddarn o waith hir dymor.  

 

Cododd Aelod bryderon bod problem ehangach, yn gysylltiedig â’r Praesept, gyda 35% yn cael ei gymryd o’r Dreth Gyngor. Pwysleisiodd yr Aelod bwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned ar y pwynt hwn i sicrhau bod digon o ddeialog yn digwydd fel bod gan breswylwyr y cyfle i ddeall lle mae’u harian yn mynd a lleisio’u blaenoriaethau gan fod cynllunio gwasanaethau cyhoeddus yn hanfodol.

 

Cynghorodd Pennaeth Cymuned y pwyllgor fod angen i Dîm y Dref gyrchu arian Adran 106 i weithredu’u cynllun busnes a chaiff hwn ei gymryd i’r Cyngor llawn i’w gymeradwyo a gofynnodd a fyddai Pwyllgor Ardal Glan Hafren yn fodlon craffu’r gwariant. Croesawodd aelodau’r Pwyllgor hyn.

 

9.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Wednesday 19th October 2016 at 10am

Cofnodion:

Dydd Mercher 19eg Hydref 2016 am 10am – Lleoliad I’w benderfynu.

 

Gwnaeth Aelodau sylwadau y byddent yn hoffi gweld mwy o aelodau’r cyhoedd yn y cyfarfod a chrybwyllwyd syniadau amrywiol i godi proffil y cyfarfod. Penderfynir lleoliad y cyfarfod yn nes at amser y cyfarfod.