Cofnodion

Pwyllgor Ardal Severnside - Dydd Mercher, 27ain Ebrill, 2016 10.00 am

Lleoliad arfaethedig: Innovation House Magor - Room 8 Innovation House Magor. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr J. Crook a F. Taylor.

 

2.

Declaration of Interest

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd un.

 

3.

Public Forum

Cofnodion:

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

4.

Minutes of previous meeting pdf icon PDF 160 KB

Cofnodion:

Llofnodwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15ted Mawrth 2016.

 

5.

Whole Place Update

Cofnodion:

 

Darparodd y Swyddogion ddiweddariad ar y gweithgareddau a gefnogodd y Cynllun Lle Cyfan yng Nglan Hafren. 

 

Y rhain oedd:

 

Gweithgareddau’n gysylltiedig â Thîm Tref Cil-y-coed, gan nodi y byddai  dau achos busnes yn mynd i’r Cabinet i’w cymeradwyo ar 4ydd Mai.

 

Diweddariad yn gysylltiedig â datblygiad Ysgol yr 21ain Ganrif . Roedd yr ysgol yn dal ar y llwybr iawn i’w hagor ym Medi 2017 fel y cynlluniwyd yn wreiddiol. Bu cyfarfod gyda’r contractwr a SEWSCAP (darparwr fframwaith Adeiladu) ynghylch manteision cymunedol yr wythnos hon . Roedd nifer o gyfleoedd ar gyfer prentisiaid, profiad gwaith ayyb. Ar y safle dros y 2 flynedd nesaf a hefyd swm o arian y gellir ei gyrchu ar gyfer prosiectau a chynlluniau cymunedol.

 

Roedd y Gr?p Trafnidiaeth Gynaliadwy yn y broses o gael ei sefydlu, yn cael ei arwain gan Mr Paul Turner a fu’n ymwneud â Gr?p Gorsaf Magwyr. Roedd Paul wedi’i gefnogi mewn ymarfer mapio rhanddeiliaid i gefnogi datblygiad y gr?p.

 

Mae Hyb Cil-y-coed bellach wedi’i ailfodelu’n fewnol i wneud y gofod yn haws i’w ddefnyddio a’r pwyntiau gwasanaeth cwsmer yn fwy hygyrch. Derbyniwyd adborth cadarnhaol iawn gan y cyhoedd hyd yn hyn.

 

 

 

6.

Town Team Update with Aaron Weeks

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor ddiweddariad gan Dîm y Dref oddi wrth Aaron Weeks, cynhwysai’r rhain:

 

Diweddariad Cyswllt

Yn ddiweddar galwodd Tîm Tref Cil-y-coed gyfarfod rhwng Cyngor Sir Fynwy, London & Cambridge a Waitrose, pan ddaeth yn eglur nad oedd gan y prosiect unrhyw fwriad i symud i’r cam nesaf o waith adeiladu yn Ionawr, prosiect y cawsom sicrwydd yn ei gylch fisoedd cyn y Nadolig. Daeth yn amlwg, yn ystod y cyfarfod bod y ffigyrau gan y ddwy ochr yn gwbl wahanol, yn amrywio o orwariant o £30+Mil i orwariant o £100+Mil. Yn ystod y bore cytunodd Waitrose a London & Cambridge i dalu costau’r gwaith o ail-wynebu maes parcio Waitrose, a fyddai’n lleihau’r gost. Gwnaeth L&C yn glir eu bod yn buddsoddi yn y prosiect a’u bod wedi ymrwymo iddo, ond nid oeddent yn barod i roi unrhyw gyllid pellach i’r prosiect. Dywedodd Waitrose hefyd eu bod wedi ymrwymo, ond ni fyddent yn rhoi unrhyw incwm pellach i’r prosiect. Dywedodd CSF hefyd fod y Cyngor wedi ymrwymo i’r prosiect. .

 

Gorffennodd y cyfarfod gyda’r holl bartïon yn cytuno i fynd ymaith a dod yn ôl ymhen wythnos wedi ystyried y canlynol:

·         Union gostau a gorwariant y prosiect

·         A oedd yn hyfyw i Waitrose godi unrhyw incwm pellach o’r prosiect.

·         A oedd unrhyw opsiynau cyllid pellach y gellid eu hymchwilio, megis vvp, arian cyfatebol ayyb. 

·         Mae’r costau wedi dod yn ôl, sy’n dangos bod y gorwariant yn £90 mil neu oddeutu £90 mil . Nid yw Waitrose yn gallu codi unrhyw incwm pellach, ond mae wedi cytuno i gymryd hanner cost y prosiect i roi wyneb newydd.

 

Bydd diweddariad i ddod.

 

Prosiect Marchnadoedd

Yn dilyn ymlaen o’n prosiect peilot yn 2015, mae Tîm Tref Cil-y-coed yn rhedeg 10 marchnad bellach yn 2016 ac wedi cyflwyno achos busnes i gyfarfod diwethaf y bwrdd rhaglenni, a argymhellwyd i’w gymeradwyo. Cynhwysai hyn ymgyrch marchnata eang i hyrwyddo marchnad Cil-y-coed a’n marchnadoedd arbenigol. Mae hefyd yn cynnwys prynu stondinau marchnad, wedi’u brandio â logo tîm tref Cil-y-coed, a bydd yn helpu i leihau costau ac amser yn sylweddol wrth gynnal marchnadoedd. Bydd y rhain hefyd ar gael i’w llogi am £4 y dydd yn unig.

Ein marchnad gyntaf eleni oedd marchnad Gymreig er budd yr Eisteddfod, yn ystod y digwyddiad fe godwyd £250 i’r Eisteddfod, sy’n cynnwys ffioedd y llain. Fe godwyd oddeutu £50 gennym wrth werthu tocynnau raffl i ennill y car.

 

Siopau Codi’n Chwap yn bwrw Cil-y-coed

Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiect i agor siop codi’n chwap o fewn y canol tref (yr uned drws nesaf i deithio Morgan)  Bydd busnesau’n gallu rhentu’r siop oddi wrthym ni ar gost o £10 y dydd neu £50 yr wythnos, hyd at fwyafswm o bythefnos.  Bydd hyn yn rhoi cyfle iddynt brofi – masnachu o fewn y dref, heb y risg o orbenion uchel neu brydlesau maith. Os, wedi cyfnod, y dymuna’r busnes aros yn hwy, rydym eisoes wedi gosod cytundebau yn eu lle i gynnig tenantiaethau  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Super Fast Business Wales

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Leigh Gripton o Super-Fast Business Wales.

 

Mae Mr Gripton mwn cyswllt rheolaidd gyda Chyngor Sir Fynwy a’r Swyddog arweiniol ar y mater hwn, James Woodcock.

 

Roedd yn eiddgar i’r Pwyllgor ddefnyddio’u gwybodaeth leol a’u cysylltiadau lleol i annog busnesau lleol i gymryd mantais o’r cynllun newydd, a ddechreuodd yn Ebrill 2016, a ddynodwyd i ddarparu cyngor digidol a chefnogaeth yn rhad ac am ddim. Mae’n hapus i fynychu cyfarfodydd pan fydd yn gyfleus i fusnesau lleol a gadawodd ei fanylion cyswllt gyda holl aelodau’r pwyllgor.

 

8.

Pigeons

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddog o’r Adran Iechyd Amgylcheddol ddiweddariad i’r pwyllgor ynghylch colomennod yn nhref Cil-y-coed. .

 

Roedd 15 o gwynion wedi’u derbyn ynghylch y colomennod a chwyn am berson yn bwydo’r adar yn gyson.

 

Dywedwyd wrthym fod Cyngor y Dref wedi cymeradwyo didol a difa, yn amodol ar gymeradwyaeth yr Heddlu, a rhoddir diweddariad i’r pwyllgor ar y mater hwn maes o law.

 

 

 

9.

To confirm date and time of the next meeting

Cofnodion:

Dyddiad y cyfarfod nesaf yw 27ain Mehefin 2016 am 10am.