Lleoliad: Innovation House Magor - Room 6 Innovation House Magor
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Sir D. Evans fel Cadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Ethol Is Gadeirydd Cofnodion: Gohiriwyd ethol yr Is-gadeirydd tan y cyfarfod nesaf.
|
|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Sir J. Crook.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion:
Mewn perthynas ag Eitem 7 - Datganodd y Cynghorydd Sir J. Higginson fuddiant personol, manteisiol fel Aelod o Glwb Rygbi Cil-y-coed a ffrind Swyddogion Band Jas Blue Phoenix.
Mewn perthynas ag Eitem 7 - Datganodd y Cynghorydd Sir D. Evans fuddiant personol, manteisiol fel Cadeirydd Pwyllgor Digwyddiadau Cil-y-coed a Phwyllgorau Pentref Mwyaf Taclus Gwent.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.
|
|
Cadarnhau a llofnodi cofnodion y Pwyllgor Ardal Severnside a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2016 PDF 97 KB Cofnodion: Llofnodwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 27ain Ebrill 2016.
Gofynnodd y Cynghorydd Tref P. Stevens fod y cofnodion yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r cwestiynau a ofynnwyd i A. Reeks a’r rhesymau dros ddirwyn y Bwrdd Rhaglenni i ben. Mewn ymateb i’r olaf dywedodd y Cynghorydd Sir A. Easson i’r newid ddigwydd o ganlyniad i newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru.
|
|
Adolygiad o Ceisiadau Grant Ardal PDF 197 KB Cofnodion: 1. Tîm Tref Cil-y-coed
Gwrthodwyd y cais gan ei fod dan refeniw ac nid cyfalaf.
2. Pwyllgor Digwyddiadau Cil-y-coed
Cyfrannwyd £1000 (yn amodol ar ddarparu gwybodaeth ariannol)
3. Gr?p Plant Bach Wiggles a Giggles
Cyfrannwyd £100 (yn amodol ar ddarparu gwybodaeth ariannol)
4. Cystadleuaeth Pentref Mwyaf Taclus Gwent
Cyfrannwyd £100 (yn amodol ar ddarparu gwybodaeth ariannol)
5. Redwick Rainbows 1af
Cyfrannwyd £600 (yn amodol ar ddarparu gwybodaeth ariannol)
6. Cais Personol am Nawdd Chwaraeon
Cyfrannwyd £200 (yn amodol ar dderbyn ffurflen gais wedi’i chwblhau)
7. Clwb Rygbi Cil-y-coed
Cyfrannwyd £685 (cyfrannwyd hanner y swm y gwnaed cais amdano, yn amodol ar ddarparu gwybodaeth ariannol a’r clwb yn codi ac yn darparu prawf y codir y £685 arall )
8. Band Jas Blue Phoenix
Cyfrannwyd £1000
9. Brownies Magwyr
Cyfrannwyd £350 (yn amodol ar ddarparu gwybodaeth ariannol)
Cydnabu’r Aelodau y gallai fod ceisiadau hwyr i’w hystyried.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf Wednesday 20th July 2016 at 10am Room 6 – Innovation House, Magor Cofnodion: Dydd Mercher 20fed Gorffennaf 2016 am 10am Ystafell 6 T? Menter, Magwyr.
|