Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
GWEITHGOR CRONFA EGLWYSI CYMRU CABINET MEMBER: County Councillor Ben Callard
AUTHOR: David Jarrett – Senior Accountant – Central Finance Business Support
CONTACT DETAILS: Tel. 01633 644657 e-mail:
davejarrett@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynodd y Pwyllgor ddyfarnu’r grantiau canlynol yn unol â’r rhestr ceisiadau. RHESTR CEISIADAU A YSTYRIWYD 2023/24 – CYFARFOD 3
Eglwys y Santes Fair, Magwyr a wnaeth gais am £1,500 i atal mwy o dd?r rhag mynd i mewn i gôr yr Eglwys sy’n achosi cracio a hefyd osod pibelli newydd y mae difrod iddynt. Argymhelliad: £1,500
Eglwys Sant Bartholomew, Llanofer a wnaeth gais am £5,000 i gynorthwyo gyda gwaith ailwampio i ardal y gegin, toiledau a gosod toiled newydd i’r anabl. Adnewyddu ardal ystafell gyfarfod ar gyfer defnydd y gymuned. Argymhelliad: Dyfarnu £2,500 i wella’r cyfleusterau i’r anabl yn yr eglwys i’w defnyddio gan blwyfolion a defnydd ehangach gan y gymuned.
Eglwys Gatholig y Santes Fair a Sant Mihangel, Llanarth a wnaeth gais am £3,000 am waith atal drafftiau (cadwraeth ynni) i’r adeilad drwy osod drysau dwbl mewnol yn gwahanu prif gorff yr eglwys oddi wrth y brif fynedfa. Argymhelliad: Dyfarnu £1,500 i gynorthwyo gydag addasiadau cadwraeth ynni i’r eglwys.
Capel Bedyddwyr Llanddewi Rhydderch a wnaeth gais am £5,000 i osod to newydd ar y capel i atal d?r rhag mynd i mewn, gan fod arddangosfa o hanes lleol yn cael ei chynnal a fydd ar agor i’r cyhoedd. Argymhelliad: Dyfarnu £2,500 i gynorthwyo i osod to newydd ar y capel i atal d?r rhag mynd i mewn a chadw ffabrig mewnol y capel.
Eglwys Ddiwygiedig Unedig Gilwern a wnaeth gais am £2,500 ar gyfer ailbwyntio waliau’r eglwys gyda morter calch ac atgyweirio ffenestri yr eglwys. Argymhelliad: Dyfarnu £1,500 i gynorthwyo gyda gwaith ar du allan yr eglwys i’w gwarchod rhag y gwynt a’r tywydd.
Y Fenni Wyrddach a wnaeth gais am £500 i gynorthwyo wrth gynnal Ffair Neuadd y Farchnad yn 2024 ar gyfer diben codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r argyfwng hinsawdd ac i helpu pobl ar sut y gallant gymryd rhan. Argymhelliad: Gohiriwyd y cais i alluogi’r ymgeisydd i roi eglurhad pellach ar fanylion y cais am grant. . Canolfan Dyledion Cristnogion yn erbyn Tlodi Cas-gwent a’r Cylch a wnaeth gais am £2,150 i gynorthwyo wrth gyflogi Rheolwr proffesiynol i’r Gronfa Dyledion ar sail 2 ddiwrnod yr wythnos. Argymhelliad: Gwrthodwyd y cais ar y sail nad oedd yn cyflawni’r meini prawf ar gyfer dyfarnu grant.
Eglwys Sant Nicholas, Grysmwnt a ofynnodd am £9,500 ar gyfer cymorth i adfer organ brin Baril a Bys 1845 J W Walker yn yr eglwys. Argymhelliad: Dyfarnu £2,400 i gynorthwyo wrth adfer mecanwaith Baril yr organ.
|
|
CABINET MEMBER: County Councillor Sara Burch
AUTHOR:
Rachael Rogers, Museums and Arts Manager
CONTACT DETAILS
Tel. 01291 440938 e-mail: rachaelrogers@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: I drosglwyddo Archif Dixton o Amgueddfeydd Sir Fynwy i Swyddfa Cofnodion Henffordd. |