Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
GWEITHGOR CRONFA'R DEGWM PDF 127 KB CABINET MEMBER: County Councillor Ben Callard
AUTHOR: David Jarrett – Senior Accountant – Central Finance Business Support
CONTACT DETAILS
Tel. 01633 644657 e-mail: davejarrett@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynodd y Pwyllgor fod y grantiau canlynol yn cael eu dyfarnu yn unol â'r amserlen geisiadau.
RHESTR O GEISIADAU A YSTYRIWYD 2023/24 - CYFARFOD 1.
1. Neuadd Bentref Llanwenarth - maent wedi ceisio am £2,000 i amnewid to'r Neuadd sydd wedi methu, ac sy'n arwain at dd?r yn dod i mewn.
Argymhelliad: Dyfarnwyd £2,000 i gynorthwyo'r neuadd i amnewid y to ar yr ased cymunedol hwn.
2. Eglwys y Santes Fair, Llanfair Is Coed - maent wedi ceisio am £3,000 i ariannu'r gwaith o ailadeiladu Mur y Fynwent a gwympodd yn hydref 2023.
Argymhelliad: Dyfarnwyd £1,000 i helpu i atgyweirio wal mynwent yr eglwys.
3. Eglwys Sant Wonnow, Llanwarw - maent wedi ceisio am £2,000 i helpu i atgyweirio t?r yr eglwys.
Argymhelliad: Dyfarnwyd £1,500 i helpu i atgyweirio t?r yr eglwys.
4. Canolfan Gymunedol Goetre - maent wedi ceisio am £2,000 i brynu offer storio ar gyfer y Ganolfan Gymunedol ac offer arlwyo ar gyfer gwerthu lluniaeth i'r grwpiau cymunedol sy'n defnyddio'r ganolfan.
Argymhelliad: Gohiriwyd y cais gan fod y Pwyllgor wedi gofyn am ragor o wybodaeth oddi wrth yr ymgeisydd.
5. Eglwys Sant Pedr - maent wedi ceisio am £3,598 ar gyfer atgyweirio cofebau wal diffygiol / difrodedig, er diogelwch yr eglwys
Argymhelliad: Gohiriwyd y cais gan fod y Pwyllgor wedi gofyn am ragor o wybodaeth oddi wrth yr ymgeisydd.
6. Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Gresynni - maent wedi ceisio am £1,000 ar gyfer symud coed marw ym mynwent yr eglwys a thocio coeden leim heintiedig ym maes parcio'r eglwys
Argymhelliad: Dyfarnwyd £1,000 i helpu i gael gwared ar goed marw a chynnal y dail presennol ym maes parcio'r eglwys.
7. Gr?p Ieuenctid Cil-y-coed - maent wedi ceisio am £1,000 ar gyfer ailaddurno mewnol Canolfan Ieuenctid y Parth yng Nghil-y-coed.
Argymhelliad: Dyfarnwyd £750 i hwyluso adfywio ased cymunedol a ddefnyddir gan grwpiau ieuenctid lleol.
8. Pwyllgor Digwyddiadau Cil-y-coed - maent wedi ceisio am £1,532 ar gyfer prynu Gasebo Nadolig Chwyddadwy i'w ddefnyddio gan grwpiau Cymunedol yn ystod tymor yr ?yl.
Argymhelliad: Gohiriwyd y cais gan fod y Pwyllgor wedi gofyn am ragor o wybodaeth oddi wrth yr ymgeisydd. 9. Clwb Pêl-droed Iau Porth Sgiwed a Sudbrook - maent wedi ceisio am £1,500 i ariannu cyrsiau hyfforddiant gorfodol Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer hyfforddwyr gwirfoddol y clwb.
Argymhelliad: Dyfarnwyd £500 i alluogi hwyluso parhad clwb chwaraeon lleol yn wirfoddol er mwyn darparu gweithgareddau hamdden i bobl ifanc. |
|
FFIOEDD RHEOLIADAU ADEILADAU PDF 284 KB CABINET MEMBER: County Councillor Paul Griffiths
AUTHOR: Nigel George
CONTACT DETAILS:
Tel: 01291635718 E-mail: nigelgeorge@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd y cynnydd o 10% yn y Ffioedd Rheoliadau Adeiladau a osodwyd. |