Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
GWEITHGOR CRONFA EGLWYS CYMRU CABINET MEMBER: County Councillor Ben Callard
AUTHOR: David Jarrett – Senior Accountant – Central Finance Business Support
CONTACT DETAILS Tel. 01633 644657 e-mail: davejarrett@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynodd y pwyllgor y dylai’r grantiau canlynol gael eu rhoi yn unol â’r amserlen ceisiadau:
AMSERLEN CEISIADAU A YSTYRIR 2022/23 – CYFARFOD 2
Neuadd Hamdden Porthsgiwed a Sudbrook Gwnaethant gais am £2,000 ar gyfer gosod goleuadau diogelwch PIR a pheintio’r adeilad er mwyn ei amddiffyn ymhellach yn erbyn y tywydd yn ogystal ag er mwyn gwneud iddo edrych yn fwy deniadol.
Argymhelliad: rhoi £1,000 er mwyn cynorthwyo’r gr?p cymunedol yma i uwchraddio’r cyfleusterau cymunedol a lleihau pryderon o ran diogelwch.
Eglwys y Santes Fair, Magwyr gwnaethant gais am £1,500 ar gyfer gosod goleuadau effeithlon LED fwy gwyrdd yn nho corff yr eglwys, rhes y Gogledd a rhes y De yn lle’r goleuadau Halogen sydd yno’n barod.
Argymhelliad: rhoi £1,500 i gynorthwyo i adnewyddu goleuadau’r eglwys a gosod goleuadau sy’n fwy effeithlon o ran ynni.
Cyfeillion Priordy Cas-gwent – gwnaethant gais am £3,000 er mwyn eu cynorthwyo i atgyweirio Cloc yr Eglwys ac adnewyddu grisiau’r t?r gan eu bod yn rhan o integredd yr adeilad.
Argymhelliad: Rhoi £3,000 er mwyn cynorthwyo gyda'r gwaith o atgyweirio Cloc yr Eglwys ac adnewyddu’r t?r hanesyddol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. |