Agenda and decisions

Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol - Dydd Mercher, 27ain Mehefin, 2018 5.00 pm

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

GORCHYMYN ADDASU MAP DIFFINIOL ADRAN 53 (C) (i) DEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981 CILFFORDD GYFYNGEDIG (53-16) GREAT PANTA DEVAUDEN pdf icon PDF 104 KB

CABINET MEMBER:-                     County Councillor B Jones

 

AUTHOR:

 

Paul Keeble Group Engineer Highways

 

CONTACT DETAILS:

 

            Tel: 01633 644733

            E-mail: paulkeeble@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad hwn, argymhellir y dylid dileu Gorchymyn Addasu Map Diffiniol heb ei gadarnhau dyddiedig 22 Ionawr 2018 i drin y materion technegol a godwyd yn dilyn gwneud y Gorchymyn a'r gwrthwynebiadau dilynol a dderbyniwyd a hysbysir pob parti perthnasol yn unol â hynny.

2.

SICRHAU RHAGORIAETH MEWN GWASANAETHAU PLANT: CEFNOGAETH I DEULUOEDD O FEWN GWASANAETHAU PLANT 'STATUDOL' pdf icon PDF 444 KB

CABINET MEMBER:          County Councillor P Jones

 

AUTHOR:   Charlotte Drury

CONTACT DETAILS

E-mail:   charlottedrury@monmouthshire.gov.uk

Penderfyniad:

Gwneir yr argymhellion dilynol, fel y manylir yn Adran 7, 'Goblygiadau Adnoddau':

1. Sefydlu Tîm Ymyrryd Teuluoedd i gyflwyno cefnogaeth deuluol i blant a theuluoedd sydd 'ar ymyl gofal'.

2. Gwneud y Gwasanaeth Cynadleddau Gr?p Teulu, a ddarperir ar hyn o bryd gan Action for Children, yn fewnol a lleoli'r gwasanaeth o fewn y Tîm Cymorth Dwys i Deuluoedd. 

3. Sefydlu swydd Gweithiwr Cefnogaeth 0.5 WTE sydd ar gontract dros dro ar hyn o bryd o fewn y Tîm Help Cynnar ac Asesu.

4. Sefydlu swydd 1.6 Gweithiwr Cymdeithasol Cynorthwyol WTE o fewn y Tîm Cefnogi a Diogelu Teuluoedd.

5. Parhau gyda Gweithiwr Cyswllt 0.6 WTE ar gontract dros dro ynghyd ag un swydd ychwanegol Gweithiwr Cyswllt 0.5 WTE o fewn y tîm cyswllt tra'n bod yn adolygu'r model cyflenwi.

6. Sefydlu Cymhorthydd Personol parhaol 0.5 WTE o fewn y Tîm Tymor Hir ar gyfer ymadawyr gofal.

7. Cyfuno'r strwythur rheoli a'r 'gyfres' o wasanaethau cefnogaeth i deuluoedd a therapiwtig o fewn Gwasanaethau Plant yn cynnwys BASE a chynyddu argaeledd therapi chwarae i blant sy'n derbyn gofal drwy greu swydd ychwanegol 1 diwrnod Therapydd Chwarae 0.2 WTE.

3.

AILDDYRANNU CYLLID ADRAN 106, TREFYNWY pdf icon PDF 90 KB

CABINET MEMBER:                      County Councillor P Murphy

 

AUTHOR

 

Mike Moran, Community Infrastructure Coordinator

Tel: 07894 573834   

Email: mikemoran@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae'r Cyngor yn gwneud grant pellach o £4,000 i brosiect Neuadd Gymunedol Sant Thomas ar gyfer cwblhau gwaith gardd yn y safle hwnnw;

 

Cynyddu darpariaeth cyllideb ar gyfer prosiect Ardal Chwarae Chippenham (Cod Cyllideb Cyfalaf) o £85,000 i £102,196;

 

Cyllido'r addasiadau cyllideb a osodir yn argymhellion (2) a (3) uchod o'r tanwariant o £20,000 ar brosiect Porth Trefynwy a £1,196 ar brosiect Tir Petanque Trefynwy (Codau Cyllideb Cyfalaf 90820 a 90818 yn yr un drefn).