Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
GWEITHGOR CRONFA'R DEGWM PDF 211 KB CABINET MEMBER: County Councillor Rachel Garrick
AUTHOR: David Jarrett – Senior Accountant – Central Finance Business Support CONTACT DETAILS Tel. 01633 644657 e-mail: davejarrett@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Fe wnaethom benderfynu dyfarnu’r grantiau dilynol yn unol â’r rhestr ceisiadau.
Gwnaeth Eglwys Santes Fair, Tregaer gais am £3,500 ar gyfer ail-bwyntio waliau allanol yr Eglwys i atal mwy o dd?r rhag mynd i mewn a thrwsio’r nenfwd i atal gwaethygiad pellach. Argymhelliad: Dyfarnu £1,500 i gynorthwyo gyda chynnal a chadw cyffredinol yr eglwys hanesyddol hon.
Gwnaeth Eglwys Santes Fair Llanfair Disgoed gais am £1,000 ar gyfer gwaith trwsio brys a hanfodol i do yr Eglwys. Argymhelliad: Dyfarnu £1,000 i gynorthwyo gydag adnewyddu to yr eglwys.
Gwnaeth Urdd Menywod Eglwys Santes Fair Cil-y-coed gais am £800 i brynu gliniadur ac offer ategol ar gyfer cyfarfodydd yr Urdd a’i defnyddio gan siaradwyr yn eu cyflwyniadau i’r urdd. Argymhelliad: Dyfarnu £800 i gynorthwyo i brynu gliniadur ac offer ategol cysylltiedig ar gyfer y gr?p cymunedol hwn.
Gwnaeth Cymdeithas Gwyliau Tyndyrn gais am £1,000 i brynu sied storio ddiogel ar gyfer diben storio asedau’r gymdeithas yn ddiogel. Argymhelliad: Dyfarnu £1,000 i gynorthwyo gyda darparu storfa ddiogel a chadarn ar gyfer asedau’r gymuned. |