Agenda and minutes

Pwyllgor safonau - Dydd Llun, 20fed Mehefin, 2016 10.30 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Doedd dim datganiadau i fuddiant.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 92 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2016 yn gofnod cywir ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

3.

Adroddiad Panel Dyfarnu Cymru pdf icon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe dderbyniom adroddiad er mwyn cynghori aelodau’r Pwyllgor Safonau o benderfyniad diweddar Panel Dyfarnu Cymru mewn perthynas â’r Cynghorydd Paul Cawley o Gyngor Cymunedol Magwyr a Gwyndy.

 

Argymhellwyd bod aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad a’r adroddiad atodedig ar benderfyniad Panel Dyfarnu Cymru yn atodiad 1 o’r adroddiad.

 

Yn ystod y trafodaethau, fe nodom y pwyntiau canlynol:

 

Roedd yn ddefnyddiol gweld sut mae’r Panel Dyfarnu yn gweithredu, ac yn bwysig i’r panel glywed achosion o’r fath er mwyn sicrhau hyder y cyhoedd. Ystyriwyd yr adroddiad ar y penderfyniad i fod yn astudiaeth achos dda, ac yn ymarfer pwysig ar gyfer gofynion hyfforddiant y dyfodol.

 

Fe nodom hefyd fod y Panel Dyfarnu yn gallu oedi penderfyniadau am hyd at chwe mis, ynghyd â chyhoeddi gwaharddiadau.

 

Cawsom ein sicrhau bod y Cynghorydd Cawley wedi derbyn hyfforddiant, er bod toriad clir o’r Cod Ymddygiad wedi bod, a diffyg dealltwriaeth o natur sylfaenol y Cod.

 

Roedd y Panel Dyfarnu wedi pwysleisio bod y Cynghorydd Cawley wedi datgan buddiant yn rhan breifat y cyfarfod, yn hytrach na gwneud datganiad yn y cyfarfod cyhoeddus, gan ddangos camddealltwriaeth o’r Cod unwaith eto. Fe nodom mai cyfrifoldeb yr aelodau yw dilyn y Cod.

 

Argymhellwyd tynnu sylw Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Cymunedol at y penderfyniad a wnaed gan y Panel Dyfarnu, sef, ar ôl clywed cynrychiolaeth gan y Cynghorydd Cawley a’r Ombwdsmon, fe benderfynodd y Tribiwnal Achos atal y Cynghorydd Cawley rhag gweithredu fel aelod o Gyngor Cymunedol Magwyd a Gwyndy am gyfnod o 3 mis. Nid yw’r Cynghorydd Cawley wedi apelio’r penderfyniad.

 

4.

Cod Canllawiau Ymddygiad pdf icon PDF 520 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe gyflwynodd y Swyddog Monitro dau adroddiad er mwyn cynghori aelodau’r Pwyllgor Safonau o’r cyfarwyddyd drafft diweddaraf a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru )”yr Ombwdsmon”) i helpu aelodau etholedig ddeall Cod Ymddygiad Aelodau.

 

Argymhellwyd bod aelodau’n nodi cynnwys y cyfarwyddyd drafft.

 

Mae’r cyfarwyddyd wedi cael ei gynhyrchu i gymryd addasiadau diweddar i’r Cod Ymddygiad i ystyriaeth a adroddwyd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ac a fabwysiadwyd gan y cyngor ar y 12fed o Fai 2016. Fe dderbyniodd aelodau dwy fersiwn o’r cyfarwyddyd, un ar gyfer cynghorwyr sir a’r llall ar gyfer cynghorwyr trefi a chymunedau.

 

Ystyrir y dogfennau cyfarwyddyd yn ddefnyddiol ac yn hawdd eu darllen, gan ddefnyddio esiamplau defnyddiol i esbonio diffiniadau o’r Cod.

 

Cawsom ein cynghori bod modd cael gafael ar y ddau gopi ar-lein. Bydd copi yn cael ei e-bostio at y 43 aelod etholedig, a bydd clercod trefi a chymunedau yn cael eu gwneud yn ymwybodol o’r cyfarwyddyd.

 

Cytunwyd bod cyhoeddiad y cyfarwyddyd wedi dod ar adeg dda gyda’r etholiad nesaf ar y gweill, gan sicrhau bod aelodau’n gwbl ymwybodol o’r Cod Ymddygiad.

 

5.

Nodi amser a dyddiad y cyfarfod nesaf fel Dydd Llun 19 Medi, 2016 am 9.30

Cofnodion:

Fe gytunom ar ddyddiad ac amser y cyfarfod nesaf, sef dydd Llun 19 Medi 2016 am 9.30am.