Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 1af Mawrth, 2017 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

Ystyried adroddiadau gan y Pwyllgorau Dethol (dim)

4.

Ystyried yr adroddiadau canlynol (copiau ynghlwm):

4a

Adroddiad Diogelu Cynnydd pdf icon PDF 167 KB

Adrannau/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan

 

Diben: Rhoi adolygiad o gynnydd diogelu i aelodau’r Cabinet.

 

Awdur: Claire Marchant, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol ac Iechyd; Jane Rogers, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Diogelu

 

Manylion Cyswllt:janerodgers@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn nodi cynnydd a her hunanasesiad y Gr?p Cydlynu Diogelu Awdurdod Cyfan (WASCG)

 

Bod y Cyngor yn cefnogi'r bwriad i ffocysu'r rhaglen diogelu a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2016 o gymharu â'r pum maes blaenoriaeth..

4b

Effeithlonrwydd Gwasanaethau Cyngor – Diweddariad Cynnydd Chwarter 3 pdf icon PDF 514 KB

Adrannau/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan

 

Diben: Rhoi’r diweddariad chwarterol diweddaraf i’r Cabinet ar sut mae’r cyngor yn perfformio ar set o fesurau sy’n bwysig wrth ffurfio barn ar effeithlonrwydd presennol gwasanaethau’r cyngor.

 

Awdur: Sian Schofield, Dadansoddydd Data; Richard Jones, Swyddog Polisi a Pherfformiad

 

 

Manylion Cyswllt: richardjones@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn defnyddio'r adroddiad hwn i helpu eu monitro a gwerthusiad parhaus o effeithlonrwydd gwasanaethau ac i ba raddau y maent yn cyfrannu at flaenoriaethau'r cyngor ar addysg plant, cefnogaeth i bobl agored i niwed, menter a chreu swyddi a chynnal gwasanaethau lleol cyfleus.

 

Bod y Cabinet yn defnyddio'r adroddiad fel cyfle i ddynodi unrhyw gamau y gall fod angen eu cymryd i hybu gwelliant, gan sicrhau fod gwasanaethau mor effeithlon ac effeithiol ag sydd modd yng nghyd-destun yr adnoddau cyfredol.

4c

Gwasanaethau Gwastraff a Stryd: Newidiadau Sefydliad – Mireinio i Drawsnewid pdf icon PDF 697 KB

Adrannau/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan

 

Diben: Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y strwythur diwygiedig fel y’i cynigir yn yr adroddiad hwn i’w weithredu o fewn yr adran Gwasanaethau Gwastraff a Stryd.

 

Awdur: Rachel Jowitt, Pennaeth Gwasanaethau Gwastraff a Stryd

 

Manylion Cyswllt: racheljowitt@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Cymeradwyo'rstrwythur arfaethedig a newidiadau i'r sefydliad craidd.

 

Cymeradwyo dirprwyo mân addasiadau, a all ddigwydd ar ôl i ymgynghoriad staff ddod i ben, i Bennaeth Gwasanaethau Gwastraff a Stryd yn dilyn ymgynghoriad gyda'r Aelod Cabinet Gweithrediadau ar y ddarpariaeth y cynhelir yr amlen cyllid fel yr amlinellwyd..

4d

Kingfisher Rise Cyllid Adran 106 pdf icon PDF 95 KB

Adrannau/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Magwyr gyda Gwndy

 

Diben: Cytuno ar ddyraniad cyllid hamdden oddi-ar-safle Adran 106 (A106) o safle datblygu Kingfisher Rise (Gorllewin Magwyr)

 

Awdur: Mike Moran, Cydlynydd Seilwaith Cymunedol

 

Manylion Cyswllt: mikemoran@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Creu cyllideb gyfalaf o £219,710 yn 2017/18 i gyfrannu tuag at gost prosiectau a nodir yn 2.2 islaw ac y caiff hyn ei gyllido gan gyfraniad cyfatebol o falansau Adran 106 a gedwir gan y Cyngor Sir yng nghyswllt datblygiad Kingfisher Rise, Magwyr (cod Cyllid N57).

 

Bod £73,236.50 yn cael ei ddyrannu i bob un o'r tri phrosiect dilynol a bod swyddogion yn gweithio’n agos gyda'r sefydliadau perthnasol i helpu dod â'r prosiectau i ffrwyth:

 

·         Datblygiad Safle Tri Chae

·         Gwelliannau Hamdden Cae Sycamorwydden

·         Gwelliannau Cae Chwarae Gwndy

 

Bod y grantiau i Glwb Athletau Gwndy a Chyngor Cymuned Magwyr gyda Gwndy yn cael eu gwneud yn amodol ar delerau ac amodau safonol A106 y Cyngor ac yn amodol i'r ymgeiswyr perthnasol yn cyflwyno cynllun busnes boddhaol cyn rhyddhau unrhyw daliadau i gefnogi eu cynigion, yn cynnwys manylion defnydd presennol a defnydd a ragwelir ar gyfer y dyfodol.

 

Bod yn rhaid cyflwyno pob cynllun busnes a'u cymeradwyo gan Aelod Cabinet Adnoddau a Phennaeth Cyllid erbyn 31 Rhagfyr 2017 fan bellaf..

4e

Cynnig i Drosglwyddo Ased Gymunedol Caeau Chwarae Clwb Pel-droed Gwndy pdf icon PDF 135 KB

Adrannau/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Gwndy

 

Diben: Ystyried y cynnig i drosglwyddo ased gymunedol Meysydd Chwarae Clwb Pel-droed Gwndy i Glwb Pel-droed Gwndy Athletig i roi darpariaeth barhaus i’r meysydd chwarae cymunedol a datblygu mwy o gyfleusterau chwaraeon cymunedol.

 

Awdur: Ben Winstanley, Rheolwr Stadau; Nicola Howells, Syrfewyr Stadau

 

Manylion Cyswllt: benwinstanley@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunogwaredu â'r diddordeb rhydd-ddaliad yng Nghaeau Chwarae Clwb Pêl-droed Gwndy ar Ddim Gwerth i Glwb Pêl-droed Gwndy Athletig yn defnyddio'r pwerau a roddwyd drwy Orchymyn Cydsyniad Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003.

4f

Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS) Cynllun Busnes 2017-2020 pdf icon PDF 153 KB

Adrannau/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan

 

Diben: Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno Cynllun Busnes 2017-2020 Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru. Mae’r cynllun yn nodi blaenoriaethau, rhaglenni a’r deilliannau i’w cyflawni gan EAS ar ran Consortiwm De Ddwyrain Cymru. Mae’r adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar y deilliannau a ddisgwylir yn Sir Fynwy, caiff y rhain eu cynnwys yn Atodiad yr Awdurdod Lleol.

 

Awdur:Debbie Harteveld (Rheolwr Gyfarwyddwr EAS)

 

Manylion Cyswllt: Debbie.harteveld@sewaleseas.org.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Busnes EAS a'r atodiad Awdurdodau Lleol.

4g

2017/18 Strategaethau Buddsoddi a Chronfa Addysg a Chronfa’r Degwm pdf icon PDF 758 KB

Adrannau/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan

 

Diben: Diben yr adroddiad yma yw cyflwyno stratetgaeth Buddsoddi a Chronfa 201/18 ar gyfer Cronfeydd yr Ymddiriedolaeth y mae’r Awdurdod yn gweithredu fel unig neu ymddiriedolydd geidwad ar gyfer mabwysiadu a chymeradwyo dyraniad grant 2017/18 I fuddiolwyr Awdurdod Lleol Cronfa’r Degwm.

 

Awdur: Joy Robson, Pennaeth Cyllid

 

Manylion Cyswllt: joyrobson@monmouthshire.gov.uk

 

 

Penderfyniad:

Cymeradwyo'rStrategaeth Buddsoddi a Chronfa arfaethedig ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy.

 

Cymeradwyo'r Strategaeth Buddsoddi a Chronfa arfaethedig ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa Degwm Cymru.

 

Dirprwyo cyfrifoldeb am weithredu a gweinyddu penderfyniadau rheoli trysorlys i'r Pennaeth Cyllid (swyddog A151) fydd yn gweithredu yn unol â'r strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd (atodiad 2).

 

Cymeradwyodyraniad grant 2017/18 i fuddiolwyr yr Awdurdod Lleol i Gronfa Degwm Cymru Sir Fynwy o £20,000 i'w ddosbarthu yn unol â chyfrannau poblogaeth fel yng Nghyfrifiad 2010.

 

Cymeradwyo’r egwyddor bod dyraniad grant 2017-18 yng nghyswllt Cronfa Ymddiriedolaeth Ffermydd Sir Fynwy yn cydymffurfio'n agos gydag adenilliad buddsoddiad blynyddoedd blaenorol ar ddiwedd mis Mawrth 16 i osgoi erydu'r gronfa gyffredinol. Fel canllaw, rhagwelir y bydd adenillion buddsoddi tua £15,000.

 

Cymeradwyo Egwyddorion, Ystyriaethau Polisi a Meini Prawf Dyrannu Grantiau Cronfa Degwm Cymru 2017-18 (Atodiad 7) fel y'u hystyriwyd gan Bwyllgor Cronfa Degwm Cymru ar 19 Ionawr 2017.

 

4h

Gweithgor Cronfa’r Degwm pdf icon PDF 132 KB

Adrannau/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan

 

Diben: Diben yr adroddiad yma yw gwneud argymhellion i’r Cabinet ar y Rhestr Ceisiadau ar gyfer cyfarfod 4 blwyddyn ariannol 2016/17 gweithgor Cronfa’r Degwm a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2016.

 

Awdur: David Jarrett – Uwch Gyfrifydd – Cymorth Busnes Cyllid Canolog

 

Manylion Cyswllt: davidjarrett@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dyfarnu'r grantiau dilynol fel rhan o'r rhestr ceisiadau, gan nodi'r diwygiad dilynol:

 

Gwnaeth Eglwys Fethodistaidd Trefynwy gais am £4,000 i gynorthwyo i adnewyddu'r Gegin a'r' 'Ystafell Uchaf' ar gyfer clybiau brecwast a chinio rheolaidd ar gyfer pensiynwyr a'r gymuned ehangach yn ogystal â darparu clwb ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion Sir Fynwy.

 

Argymhelliad - Dyfarnwyd £2,000 i gynorthwyo gydag adnewyddu'r ased cymunedol i ddarparu cyfleusterau gwell ar gyfer darpariaeth gymunedol..

.

4i

Rheolwr Gwasanaeth Diogelu a Sicrwydd Ansawdd pdf icon PDF 84 KB

Adrannau/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan

 

Diben: Diben yr adroddiad yw ceisio cymeradwyaeth i greu Rheolwr Gwasanaeth Diogelu a Sicrwydd Ansawdd i roi arweinyddiaeth diogelu awdurdod cyfan a rheoli’r Uned Diogelu a Sicrwydd Ansawdd.

 

Awdur: Claire Marchant, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol ac Iechyd                  

 Jane Rodgers, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Diogelu

 

Manylion Cyswllt: clairemarchant@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod Aelodau'n cymeradwyo a chadarnhau'r cynnig i greu Rheolwr Gwasanaeth Diogelu a Sicrwydd Ansawdd a'r strwythur diwygiedig ar gyfer yr Uned Gwasanaeth Diogelu a Sicrwydd Ansawdd a nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Bod Aelodau'n cytuno y caiff y gost ychwanegol ei thrin drwy'r flwyddyn ac y bydd y galwad cyntaf ar unrhyw allberformiad mewn cyllidebau cyllid corfforaethol.

 

Bod Aelodau'n cytuno i gronfa wrth gefn o tua £60k ar gyfer 2017/18, sy'n cynrychioli’r pwysau adnoddau fel canlyniad i greu'r swydd. Bydd angen cadarnhau'r gyllideb yng nghyllideb Cyngor 2018/19.