Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 1af Chwefror, 2017 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

Ystyried adroddiadau gan y Pwyllgorau Dethol (dim)

+

4.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copïau ynghlwm):

4a

Polisi Gofalwyr mewn Cyflogaeth pdf icon PDF 198 KB

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Diben yr adroddiad yw cyflwyno polisi newydd Gofalwyr mewn Cyflogaeth. Mae'r polisi hwn yn weithredol ar gyfer yr holl gyflogeion yn cynnwys y rhai sy'n seiliedig mewn ysgolion.

 

Awdur: Sally Thomas – Rheolwr Adnoddau Dynol

 

Manylion Cyswllt:sallythomas@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod polisi newydd Gofalwyr mewn Cyflogaeth yn cael ei dderbyn a'i gylchredeg i'r holl gyflogeion a'i gymeradwyo i gyrff llywodraethu i gael ei fabwysiadu cyn gynted ag sydd modd.

4b

Adeilad Canolfan Ieuenctid y Fenni pdf icon PDF 151 KB

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Trosglwyddo'r adeilad a ddefnyddir ar hyn o bryd gan y Gwasanaeth Ieuenctid o fewn y Gyfarwyddiaeth Menter i Stadau.

 

Awdur: Josh Klein – Rheolwr Dros Dro Gwasanaeth Ieuenctid

 

Manylion Cyswllt: joshklein@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio'reitem.

4c

Asesiad Risg Strategol Awdurdod Cyfan pdf icon PDF 740 KB

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Rhoi trosolwg i'r Cabinet o'r risgiau strategol cyfredol sy'n wynebu'r Awdurdod; ceisio cymeradwyaeth y Cabinet y'r asesiad risg awdurdod cyfan.

 

Awdur: Matthew Gatehouse – Rheolwr Polisi a Pherfformiad

 

Manylion Cyswllt: matthewgatehouse@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Bod Aelodau'r Cabinet yn cymeradwyo'r asesiad risg a ddangosir yn atodiad 1 fel gwerthusiad realistig a gyda thystiolaeth o'r risgiau strategol sy'n wynebu'r awdurdod dros y tair blynedd nesaf.

4d

Ardal Chwarae Chippenham Mead, Trefynwy pdf icon PDF 407 KB

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Pob ward yn Nhrefynwy.

 

Diben: Cytuno ar leoliad Ardal Chwarae Chippenham Mead yn Nhrefynwy.

 

Awdur: Mike Moran, Cydlynydd Seilwaith Cymunedol

 

Manylion Cyswllt: mikemoran@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio'reitem.

4e

Monitro Refeniw a Chyfalaf 2016/17 - Datganiad rhagolwg alldro Cyfnod 3

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Diben yr adroddiad yw rhoi gwybodaeth i Aelodau ar ragolwg sefyllfa alldroi refeniw yr Awdurdod ar ddiwedd cynfod 3 sy'n cynrychioli gwybodaeth ariannol mis 9 blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Caiff yr adroddiad hefyd ei ystyried gan y Pwyllgor Dethol fel rhan o'u cyfrifoldeb i:

 

           asesu os oes monitro effeithlon ar y gyllideb.

           monitro i ba raddau y gwerir cyllidebau, yn unol â'r gyllideb a fframwaith polisi a gytunwyd,

           herio os yw gorwariant neu danwariant yn rhesymol,

           monitro cyflawni enillion effeithiolrwydd a ragwelwyd neu gynnydd yng nghyswllt cynigion arbedion.

 

Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol

 

Manylion Cyswllt:markhowcroft@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn nodi maint y tanwariant refeniw a ragwelir yn defnyddio data cyfnod 3 o £79,000, gwelliant o £919,000 ar y sefyllfa flaenorol a adroddwyd yng nghyfnod 2.

 

Bod y Cabinet yn disgwyl i Brif Swyddogion barhau i adolygu lefelau gorwariant a thanwariant ac ailddyrannu cyllidebau i ostwng maint sefyllfaoedd iawndal sydd angen eu hadrodd ar gylchoedd chwarterol.

 

Mae'r Cabinet yn gwerthfawrogi maint  y defnydd a ragwelir ar gronfa gadw ysgolion, ei effaith ar lefelau rhagolwg cronfa gadw alldro a'r disgwyliad cysylltiedig y bydd 6 ysgol arall mewn sefyllfa diffyg erbyn diwedd 2016-17.

 

Mae'r Cabinet yn ystyried y monitro cyfalaf, gorwariant a thanwariant penodol ac yn bwysig mae'r Cabinet yn cydnabod y risg sy'n gysylltiedig gyda gorfod dibynnu ar ddefnydd derbyniadau cyfalaf ym mlwyddyn y gwerthiant a'r potensial i hyn gael pwysau refeniw sylweddol os caiff derbyniadau eu hoedi ac y gall fod angen benthyca dros dro.

 

Mae'r Cabinet yn cymeradwyo buddsoddiad ychwanegol o £30,000 i'r gyllideb cyfalaf Grant Cyfleusterau i'r Anabl er mwyn ymateb i'r galwadau a roddir ar yr agenda presennol, a gyllidwyd gan y trosglwyddiad o gyllidebau presennol Cynnal a Chadw Priffyrdd a Mynediad i Bawb.

 

Mae'r Cabinet yn cymeradwyo cynnydd o £30k i gynllun cyswllt Woodstock Way a fforddiwyd drwy danwariant cyfwerth i gynllun gwella ardal arall (y Fenni).