Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 11eg Ionawr, 2017 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

Ystyried adroddiadau gan y Pwyllgorau Dethol (dim) pdf icon PDF 354 KB

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cydnabod cyfraniad Pwyllgorau Dethol y Cyngor at ddatblygu polisi a gwneud penderfyniadau.

 

Bod Aelodau'r Cabinet yn dod yn gyfarwydd gyda chanlyniadau'r Pwyllgorau Dethol i sicrhau eu bod yn ymateb mewn modd priodol i'r argymhellion a cheisiadau'r Pwyllgorau Dethol, yn unol â Phrotocol Craffu a Gweithrediaeth y Cyngor.

4.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copïau ynghlwm):

4a

Gweithgor Cronfa Eglwysi Cymru pdf icon PDF 131 KB

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt:  Dim

 

Diben: Diben yr adroddiad yma yw gwneud argymhellion i'r Cabinet ar y Rhestr Ceisiadau ar gyfer cyfarfod 3 Gweithgor Cronfa Eglwysi Cymru blwyddyn ariannol Cymru a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2016.

 

Awdur: David Jarrett – Uwch Gyfrifydd – Cefnogaeth Busnes Canolog Cyllid

 

Manylion cyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd dyfarnu'r grantiau dilynol yn ôl y rhestr ceisiadau..

4b

Ailstrwythuro'r Adran Trwyddedu pdf icon PDF 145 KB

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Dim

 

Diben: Ystyried ailstrwythuro adran Trwyddedu yr Awdurdod.

 

Awdur: David H Jones, Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd

 

Manylion cyswllt: davidjones3@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytuno ar y newid mewn swyddi fel yr amlinellir yn Atodiad 1, sef dileu swyddi presennol 'Uwch Swyddog Trwyddedu' (2) a 'Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu' (2), a rhoi 3 swydd 'Swyddog Trwyddedu' yn lle hynny.

 

PennaethDiogelu'r Cyhoedd yn gweithredu'r ailstrwythuro mewn ymgynghoriad gyda'r swyddogion yr effeithir arnynt, SC&H DMT, Cyllid ac yn y blaen, yn unol â 'Phrotocol Ailstrwythuro/Ailddylunio Gwasanaeth' y Cyngor.

4c

Gwasanaethau Plant - Ailddylunio Gwasanaeth

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Diben: Diben yr adroddiad yw ceisio cymeradwyaeth i ailgyflunio'r ffordd yr ydym yn cyflenwi ein gwasanaethau o fewn Gwasanaethau Plant.

 

Awdur: Jane Rodgers, Pennaeth Gwasanaethau Plant

 

Manylion cyswllt: janerodgers@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod Aelodau'n cymeradwyo a chadarnhau'r cynnig ar gyfer ailddylunio model cyflenwi Gwasanaethau Plant.

 

Cymeradwyo a chadarnhau strwythur newydd Gwasanaethau Plant.

 

Cymeradwyo'rgalwad ar gronfeydd cadw yn 2017/18 hyd at £86,000, gan gydnabod y bydd Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant yn sicrhau cydbwysedd ariannol erbyn 2018/19.

 

Cymeradwyo'r newid  yn statws 4 swydd gweithiwr cymdeithasol o dros dro i barhaol.

 

4d

Astudiaeth Ailddylunio Canolfan Hamdden Trefynwy ac Astudiaeth Dichonolrwydd Pwll Nofio pdf icon PDF 401 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Trefynwy

 

Diben: Cyflwyno'r achos busnes amlnelllol am gomisiynu gwaith dylunio a dichonolrwydd perthnasol i ddarparu ar gyfer cynnig hamdden estynedig a darparu pwll newydd yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy, yn gysylltiedig gyda datblygiad cyd-leoli 'Ysgol y Dyfodol' newydd.

 

Awdurr: Kellie Beirne, Prif Swyddog, Arloesedd a Menter

 

Manylion cyswllt: kelliebeirne@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Buddsoddi'r £204,050 angenrheidiol o danwariant a ddynodwyd o fewn Rhaglen Ysgolion y Dyfodol i gynnal y gwaith dylunio manwl fydd yn trosi'r achos busnes amlinellol yn achos buses llawn, gan sefydlu'r sicrwydd cost sydd ei angen i ddatblygu'r cynnig hamdden, yn cynnwys pwll newydd, yn llawn.

 

Aeth y Cabinet i bwyllgor i drafod atodiadau 2 a 3.

4e

Cynllun Strategol Cymreg mewn Addysg 2017-20 pdf icon PDF 231 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan

 

Diben: Ceisio cymeradwyaeth aelodau i Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) 2017-2020 Cyngor Sir Fynwy.

 

Awdur: Sharon Randall-Smith - Pennaeth Gwasanaeth Cyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc

 

Manylion cyswllt: sharonrandall-smith@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn derbyn Drafft Gynllun WESP 2017-2020 Sir Fynwy ac yn cytuno i'r cynigion o fewn Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Fynwy (WESP) 2017-2020