Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 7fed Rhagfyr, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Sir P.A. Fox fuddiant personol, di-ragfarn i God Ymddygiad yr Aelodau oherwydd roedd wedi cynrychioli'r Cyngor ar Fwrdd CMC².

 

Datganodd y Cynghorydd Sir R.J.W. Greenland fuddiant personol, di-ragfarn i God Ymddygiad yr Aelodau oherwydd roedd wedi cael ei benodi'n Gyfarwyddwr CMC² gan y Cyngor.

3.

Ystyried adroddiadau gan y Pwyllgorau Dethol (dim)

4.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm):

4a

Cynnig Ailstrwythuro Cyflogres a Chefnogaeth Adnoddau Dynol pdf icon PDF 479 KB

Diben: Ceisio cymeradwyaeth aelodau i'r cynnig i ailstrwythuro'r gwasanaeth cyflogres/adnoddau dynol presennol.

 

Awdur: Tracey Harry, Pennaeth Llywodraethiant Pobl a Gwybodaeth

 

Manylion Cyswllt: traceyharry@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Mae'r Cabinet yn cymeradwyo'r ailstrwythuro arfaethedig a amlinellir yn Atodiad 2, a fydd yn darparu gwasanaeth gweithrediadol y gyflogres/Adnoddau Dynol gydag ychydig o wydnwch a gallu datblygu cymedrol, sydd ei angen i gyflwyno agweddau o raglen waith gwasanaethau pobl, sy'n gysylltiedig â datblygiad y sefydliad cyfan, fel y cytunwyd eisoes gan y Cyngor.

 

Mae aelodau'n cytuno i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn ar gyfer cost rhan o'r flwyddyn, sef tua 25k, gan ddibynnu ar yr amserlen o roi popeth ar waith, sy'n gysylltiedig â'r ailstrwythuro a argymhellir a gan gydnabod pwysau blwyddyn lawn o'r strwythur diwygiedig yn rownd cyllideb 17/18.

4b

Effeithlonrwydd Gwasanaethau'r Cyngor - Diweddariad Chwarter 2 pdf icon PDF 381 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan

 

Diben: Rhoi'r diweddariad chwarterol diweddaraf i'r Cabinet ar sut mae'r cyngor yn perfformio ar set o fesurau sy'n bwysig wrth ffurfio barn ar effeithlonrwydd presennol gwasanaethau'r cyngor.

 

Awdur: Sian Schofield, Dadansoddydd Data

             Richard Jones, Swyddog Polisi a Pherfformiad

 

Manylion Cyswllt: richardjones@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn defnyddio'r adroddiad hwn i helpu gyda'u monitro a gwerthuso parhaus o effeithlonrwydd gwasanaethau ac i ba raddau y maen nhw'n cyfrannu at flaenoriaethau'r cyngor o addysgu plant, cefnogaeth i bobl agored i niwed, menter a chreu swyddi a chynnal gwasanaethau lleol hygyrch.

 

Bod y Cabinet yn defnyddio'r adroddiad hwn i adnabod unrhyw gamau gweithredu sydd angen eu cymryd i yrru gwelliannau, gan sicrhau bod gwasanaethau mor effeithlon ac effeithiol â phosib yng nghyd-destun adnoddau cyfredol.

4c

Sylfaen Treth Gyngor 2017/18 a Materion Cysylltiedig pdf icon PDF 98 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Cytuno ar ffigur sylfaen y Dreth Gyngor i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ynghyd â'r gyfradd gasglu i'w weithredu ar gyfer 2017/18 ac i wneud penderfyniadau statudol cysylltiedig eraill.

 

Awdur: Ruth Donovan – Pennaeth Cynorthwyol Cyllid: Refeniw, System a Thrysorlys; Sue Deacy - Rheolwr Refeniw

 

Manylion Cyswllt: ruthdonovan@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth) (Cymru) 1995, y swm a gyfrifwyd gan y Cyngor fel ei Sylfaen Treth ar gyda 2017/18 yw £45,537.71 ac fe osodwyd y Gyfradd Gasglu ar 99.0%.

 

Ni fydd unrhyw Benderfyniad Arbennig yn datgan Cyfraddau Draenio fel Treuliau Arbennig yn cael ei wneud.

 

Ni fydd unrhyw dreuliau a aethpwyd iddynt gan y Cyngor wrth berfformio mewn rhan o'i ardal, swyddogaeth a berfformir mewn man arall yn ei ardal gan Gyngor Cymunedol, yn cael ei drin fel traul arbennig at ddibenion Adran 35 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

Bod gosod y Dreth Gyngor yn parhau i fod yn swyddogaeth o'r Cyngor llawn

4d

Adran 106 - Adroddiad GRIP 3 Magwyr pdf icon PDF 165 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Magwyr a Gwndy

 

Diben: Ceisio cymeradwyaeth am gomisiynu rhannau 1 a 2 proses Llywodraethiant Prosiectau Buddsoddi Rheilffordd (GRIP 3) o falansau cyfalaf Adran 3.

 

Awdur: Mike Moran, Cydlynydd Seilwaith Cymunedol

 

Manylion Cyswllt: mikemoran@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cyngor yn parhau i gomisiynu rhan 1 a 2 o broses GRIP 3, (prosiect 97362) ar gyfer llwybr newydd i orsaf drenau Magwyr am gyfanswm o £62,352 gan ddefnyddio ariannu o weddill Adran 106 o Lôn Greenmoor, cyfraniad Magwyr (£32,346) ynghyd â chyfraniadau ariannol o Gyngor Cymunedol Magwyr a Gwyndy (£10,000), y Gronfa Railfuture (£10,000) a Gr?p Rheilffordd lleol Magwyr (£1,500).

 

Y dylid ychwanegu £12,000 i god cyllideb 97362 i fodloni'r diffyg a nodwyd yn yr ariannu ar gyfer rhan 2 o broses GRIP 3 ac amcangyfrifir bydd y cyfraniad hwn yn cynnwys treuliau ymgynghori ychwanegol o £3,944. Bod y costau hyn yn mynd i gael eu hariannu gan gyfraniad cyfatebol o weddill Adran 106 sydd dan ofal y Cyngor o ddatblygiad Gorllewin Magwyr (Kingfisher Rise) (Cod Cyllid N579);

 

Os yw Llywodraeth Cymru yn cytuno i ad-dalu'r ariannu ar gyfer rhan o GRIP 3, neu'r cyfan, yna dylai'r cyllid a nodwyd yn 2.1 uchod gael ei gadw wrth gefn i gefnogi cyfnodau pellach o broses GRIP ar gyfer y llwybr arfaethedig newydd i orsaf Magwyr, heb yr angen i gyfeirio yn ôl i'r Cabinet;

 

Y dylid diffinio'r ardal o fudd ar gyfer defnyddio gweddill y cyllid hamdden oddi ar y safle o Gytundeb Kingfisher Rise S106 (£219,710) fel "ffin weinyddol Cyngor Cymunedol Magwyr a Gwyndy".

4e

Gwasanaeth Cymorth Unigol - Gweithredu Arfaethedig Trefniadau Contractiol Diwygiedig pdf icon PDF 411 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan

 

Diben: Ceisio cymeradwyaeth gan y Cabinet i weithredu trefniadau staffio diwygiedig yn y Gwasanaeth Cymorth Unigol.

 

Awdur: Ceri York, Rheolwr Gr?p Comisiynu a Datblygu Gwasanaeth; Shelley Welton, Comisiynydd Arweiniol - Trawsnewid

 

Manylion Cyswllt: shelleywelton@monmouthshire.gov.uk

 

 

Penderfyniad:

Mae'r Cabinet yn cymeradwyo creu'r swyddi canlynol ar Fand D o fewn y Gwasanaeth Cefnogaeth Unigol:

 

 

           7 X 7 awr

           6 X 14 awr

           1 X 21 awr

           1 X 28 awr

4f

Amgueddfeydd Sir Fynwy - Cynllun Trosiant a Blaen-gynlluns pdf icon PDF 325 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan

 

Diben: Cyflwyno canfyddiadau Adolygiad Gwasanaethau Diwylliannol Amion;  gwneud cais am gymeradwyaeth Cabinet ar gyfer Blaengynllun 2017-2022 sydd ei angen ar gyfer achrediad parhaus Amgueddfeydd Sir Fynwy, yn amodol ar gyflwyno cynigion achos busnes unigol i'w cymeradwyo fel sy'n briodol.

 

Awdur: Cath Fallon – Pennaeth Economi ac Arloesedd  

 

Manylion Cyswllt: cathfallon@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet:

           Yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion Adolygiad Gwasanaethau Diwylliannol Amion, yn benodol yr argymhellion allweddol yn ymwneud ag Amgueddfeydd Sir Fynwy (Atodiad Un);

           Yn cymeradwyo Cynllun Amgueddfeydd Sir Fynwy 2017-2022 (Atodiad Dau) a'r Siart Trosiant cysylltiedig yn dynodi'r ymagwedd gam wrth gam at gyflwyno (Atodiad Tri);

           Yn cymeradwyo canoli'r gwasanaeth i gynnwys strwythur tîm canolog newydd (manylion i ddilyn yn adroddiad ailstrwythuro Menter Mawrth 2017); cydlyniad cyllidebau a chyfleoedd i gynhyrchu incwm; wedi'i adolygu ac yn gyson gydag oriau agor diwrnod cyfan a rhoi polisi gweithio unigol ar waith gydag amddiffyniadau priodol;

           Yn derbyn ceisiadau yn y dyfodol o achosion busnes unigol gan alluogi cyflwyniad llawn o'r Cynllun at y Dyfodol.

4g

Diweddariad Y Prentis a Diweddariad CMC2 pdf icon PDF 314 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Rhoi diweddariad ar weithgareddau Y Prentis a'i fanteisio i Dde Ddwyrain Cymru yn ehangach. Cymeradwyo diddymu CMC2.

 

Awdur: Cath Fallon – Pennaeth Economi ac Arloesedd

 

Manylion Cyswllt: cathfallon@monmouthshire.gov.uk

 

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet:

           Yn derbyn diweddariad llawn ar weithgareddau Y Prentis;

           Yn cymeradwyo diddymiad CMC²;

           Yn cytuno i adnewyddu'r ddyled sy'n ddyledus i'r Cyngor at ddibenion casglu;

           Yn sgil y symudiadau uchod, yn cytuno i basio perchnogaeth o'r Prentis yn swyddogol o CMC² i Gyngor Sir Fynwy.

4h

Sefydlu Swyddfa Rhaglen Digidol pdf icon PDF 473 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Dim

 

Diben: Ceisio cymeradwyaeth i sefydlu Swyddfa Rhaglen ddigidol fydd yn galluogi'r Cyngor i hybu'r blaenoriaethau a chamau gweithredu sy'n ymwneud â gwella gallu digidol mewnol ac allanol. Bydd y ffocws a'r crynhoad adnoddau a hyfedredd a ddarperir drwy Swyddfa Rhaglen Ddigidol yn hyfforddi a pharatoi staff i gyflwyno gwasanaethau effeithol ac effeithlon sy'n ymateb yn y ffordd orau i alw gan gwsmeriaid a'r gymuned. Bydd hyn yn cynnwys:

·         Ailstrwythuro'r swyddi presennol o fewn y Tîm Prosiectau Digidol i greu'r hyblygrwydd i ymateb i anghenion a blaenoriaethau;

·         Creu dwy swydd ychwanegol cyfwerth ag amser llawn o fewn y Swyddfa Rhaglen Ddigidol sy'n anelu i godi lefelau galluedd presennol a chymhwysedd adeiladu yn yr ardaloedd gyda'r potensial mwyaf ar gyfer gwella;

·         Ail-alinio swyddi digidol ar draws y Cyngor, o fewn Swyddfa Rhaglen Ddigidol; cydlynu adnoddau a galluoedd fydd yn galluogi gweithlu gyda llythrennedd digidol. Yn ei dro bydd hyn yn helpu i ysgogi mwy o effaith ar gwsmeriaid a'r llwyfannau technoleg integredig sy'n rheoli'r data sydd ei angen i ddatrys problemau cymhleth; a

·         Buddsoddiad mewn seilwaith meddalwedd a chaledwedd hanfodol sy'n galluogi gwasanaethau i ymateb yn well i anghenin cwsmeriaid mor agos i'r amser go iawn ag sydd modd.

 

Awdur: Sian Hayward (Pennaeth Digidol) a Peter Davies (Prif Swyddog, Adnoddau)

 

Manylion cyswllt: sianhayward@monmouthshire.gov.uk; peterdavies@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

Penderfyniad:

Sefydlu Swyddfa Rhaglen Ddigidol trwy ailstrwythuro'r Tîm Prosiectau Digidol cyfredol er mwyn creu'r rolau a'r gweithgareddau priodol sydd eu hangen er mwyn dangos yr enillion mwyaf i'r Cyngor a'r gymuned.

 

 

Creu dwy swydd ychwanegol gyfwerth ag amser llawn i gefnogi ac atgyfnerthu gallu o fewn Swyddfa'r Rhaglen Digidol, sydd angen:

a) Buddsoddiad net ychwanegol o £52,000 o 17-18 ymlaen.

b) Buddsoddiad untro o £20,500 ar gyfer 16-17, wedi'i gyllido gan Gronfeydd Wrth Gefn Trawsnewid TGCh.

 

Cael mynediad at swm unigol o £100,000 o Gronfeydd Wrth Gefn Trawsnewid TGCh i alluogi datblygu meddalwedd sy'n cysylltu ein rhyngwynebau gwasanaethau i gwsmeriaid gyda'r systemau sy'n cefnogi ein gwasanaethau a swyddogaethau craidd. Byddhyn yn caniatáu i wasanaethau fod yn fwy ymatebol i anghenion, galw a disgwyliadau cwsmeriaid.

 

Sicrhau £50,000 ychwanegol yn rheolaidd o 17-18 ymlaen i ddarparu'r adnoddau ar gyfer diweddariadau rheolaidd i'r gweinydd, adnewyddu offer a gwaith cynnal a chadw hanfodol o fewn SRS wrth i isadeiledd ac offer gyrraedd diwedd ei oes defnyddiol yn raddol.

To secure a further recurrent £50,000 from 17-18 onwards to provide the resource for ongoing server updates, refresh and essential maintenance within SRS as infrastructure and equipment progressively reaches the end of its useful life.