Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 5ed Hydref, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

Ystyried adroddiadau gan y Pwyllgorau Dethol (dim)

4a

Cyllid Adran 106 Gilwern pdf icon PDF 96 KB

Ward/Adran yr effeithir arni: Llanelli Hill

 

Diben:Ystyried cynyddu lefel y grant a gynigir i dri ymgeisydd o weddill Adran 106 a ddelir gan y Cyngor ar gyfer datblygiadau yn T? Mawr a Cae Meldon, Gilwern.

 

Awdur:Mike Moran, Cydlynydd Seiilwaith Cymunedol

 

Manylion Cyswllt:mikemoran@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

.       PENDERFYNWYD:

Gwneud cynigion grant diwygiedig i'r sefydliadau dilynol o falansau Adran 106 a ddelir gan y Cyngor yng nghyswllt Cytundebau Adran 106 T? Mawr a Cae Meldon:

Clwb Pêl-droed Clydach £7,128

Clwb Bowlio Gilwern £32,941

Clwb Pêl-droed Gilwern £37,391

 

Bod y lefel uwch o grant yn gyfanswm o £10,559 am y tri phrosiect yn cael eu talu o'r balans heb ei ddyrannu o £33,394 gan adael gweddill balans heb ei ddyrannu o £22,839.

 

4b

Cynnig i Drosglwyddo Ased Gymunedol Neuadd Pentref a Chaeau Chwarae Caerwent pdf icon PDF 332 KB

Ward/Adran yr effeithir arni: Caerwent

 

Diben: Ystyried y cynnig i Drosglwyddo Ased Gymunedol Neuadd Pentref a Chaeau Chwarae Caerwent i Gyngor Cymuned Caerwent i barhau i ddarparu neuadd pentref a chaeau chwarae cymunedol a datblygu'r adeilad am fwy o weithgareddau cymunedol.

 

Awdur:Ben Winstanley, Rheolwr Stadau

 

Manylion Cyswllt:benwinstanley@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

2.       PENDERFYNWYD:

Cytunwyd i waredu â'r budd rhydd-ddaliad yn Neuadd Pentref a Chaeau Chwarae Caerwent ar Nil Gwerth i Gyngor Cymuned Caerwent yn defnyddio'r pwerau a roddwyd drwy Orchymyn Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003.

4c

Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy pdf icon PDF 241 KB

Ward/Adran yr effeithir arni: y cyfan

 

Diben: Amlinellu diben, canfyddiadau allweddol a chasgliadau ail Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Awdur:Martin Davies (Rheolwr Polisi Cynllunio), Rachel Lewis (Prif Swyddog Polisi Cynllunio)

 

Manylion Cyswllt:martindavies@monmouthshire.gov.uk, rachellewis@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo ail Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2016.

 

Penderfynu dechrau adolygiad cynnar o Gynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy fel canlyniad i'r angen i drin y diffyg yn y cyflenwad tir tai a hwyluso dynodi/dyrannu tir tai ychwanegol.

 

Nodi'rsylwadau a godwyd gan y Pwyllgor Ethol Economi a Datblygiad (27 Medi 2016).

4d

Cynnig opsiwn am ddarpariaeth newydd ar gyfer Gwasanaethau Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant a Ieuenctid yn Sir Fynwy pdf icon PDF 374 KB

Ward/Adran yr effeithir arni: Y cyfan

 

Cynnig: Cynnig datblygu achos busnes llawn i ymchwilio'r opsiynau ar gyfer y gwasanaethau Hamdden, Twristiaeth, Diwylliant ac Ieuenctid yn dilyn gwerthusiad annibynnol o opsiynau gan Anthony Colins Cyfreithwyr.

 

Awdur: Cath Fallon – Pennaeth Economi a Menter; Ian Saunders – Pennaeth Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant; Marie Bartlett – Rheolwr Cyllid; Tracey Thomas – Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid.

 

Manylion Cyswllt:

Cathfallon@monmouthshire.gov.uk,  Iansaunders@monmouthshire.gov.uk

Mariebartlett@monmouthshire.gov.uk, Traceythomas@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Rhoi ystyraieth lawn i'r Achos Amlinellol Strategol a atodir yn seiliedig art ganfyddiadau annibynnol Anthony Collins Cyfreithwyr.

 

Cytuno i symud i gam nesaf datblygu Achos Busnes Llawn i'w ystyried ymhellach gan Aelodau.

 

Parhauâ'r broses ymgynghori gyda staff, y gymuned a defnyddwyr gwasanaeth.