Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
Datganiadau o Fuddiant |
|
I ystyried yr adroddiadau canlynol (copïau ynghlwm): |
|
MONITRO REFENIW A CHYFALAF 2020/21 PDF 379 KB Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben: Rhoi rhagolwg i Aelodau o sefyllfa all-dro refeniw a chyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.
Rhoi diweddariad ar effaith ariannol COVID-19 ar y Cyngor.
Awdur: Peter Davies, Prif Swyddog Adnoddau
Manylion Cyswllt: peterdavies@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cydnabod rhagolwg diffyg refeniw net ym mis 7 o £6.43m, gwelliant o £995k o fis 5 ac sy’n cynnwys a) Rhagolwg diffyg heb fod yn gysylltiedig â COVID-19 o £518k i gael ei reoli yn y flwyddyn, sy’n ostyngiad o £713k ers mis 5, gyda £675k yn ganlyniad uniongyrchol i’r penderfyniad i gyfalafu gwariant cymwys a chyllid o dderbyniadau cyfalaf dan gyfarwyddeb defnydd hyblyg o dderbyniadau cyfalaf. b) Rhagolwg diffyg o £5.91m sy’n uniongyrchol gysylltiedig gyda’r pwysau ariannol anghyffredin yn gysylltiedig â COVID-19 a lle tybir y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyllido’r holl golledion incwm a phwysau cost cymwys. Mae hyn yn welliant bach o £282k o’r rhagolwg sefyllfa ym mis 5.
Mae’r Cyngor yn cydnabod ers cynhyrchu rhagolygon y gyllideb ar gyfer mis 7 bod Llywodraeth Cymru wedi hysbysu’r Awdurdod y bydd swm pellach o £1.78m ar gael i’r Awdurdod ar gyfer colledion incwm ar gyfer chwarter 2 y flwyddyn ariannol a bydd yn ei dro yn gostwng rhagolwg diffyg cysylltiedig â Covid o £5.91m i £4.13m.
Mae’r Cabinet yn parhau i wneud sylwadau cryf i Lywodraeth Cymru i gadarnhau ad-daliad llawn o golledion incwm cysylltiedig â COVID o £4.13m a phwysau cost cyn gynted ag sydd modd ac i ddileu risg ariannol yn mynd i ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Mae’r Cabinet yn nodi y caiff diffyg heb fod yn gysylltiedig â COVID o £518k ei reoli drwy ostwng costau a chymryd camau ar unwaith i ostwng gwariant heb fod yn hanfodol, gan gydnabod y bydd gostyngiadau cost wedi’i dargedu ac wedi’i gynllunio yn her yn yr amgylchedd gweithredu presennol a gan y bydd y Cyngor bob amser yn mynd ati i ostwng effaith ar gyflenwi gwasanaeth.
Wrth ddilyn yr ymagwedd a nodir uchod, mae’r Cabinet yn cydnabod natur anghyffredin y flwyddyn bresennol ac yn derbyn y bydd angen i bwysau gwasanaethau sylweddol gael eu hymgorffori yn y broses barhaus o osod cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/os na chânt eu lliniaru fel arall.
Mae Cyngor yn nodi maint y symudiadau a ragwelir yn nefnydd cronfeydd wrth gefn Ysgolion yn atodiad 1.
Mae’r Cabinet yn ystyried y rhagolwg o wariant all-dro cyfalaf o £25.3m wrth ochr llithriad sylweddol o £37.4m a’r tybiaethau a wnaed o amgylch y canlyniadau cyllido, fel yr amlinellir yn atodiad 1.
Mae’r Cabinet yn cydnabod y bydd yn rhaid ailystyried y rhagolwg os nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflawni’r disgwyliad yn llawn i ddigolledu’r Cyngor am gostau a cholledion incwm cysylltiedig â COVID.
|
|
DEDDF RHEOLEIDDIO PWERAU YMCHWILIADOL 2000 (RIPA) PDF 122 KB Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben: Gofynnir i’r Cabinet gymeradwyo polisi RIPA Cyngor Sir Fynwy. . Gofynnir i’r Cabinet nodi Aroddiad Arolygu diweddar IPCO.
Awdur: Matt Phillips SRO RIPA Pennaeth y Gyfraith a Swyddog Monitro
Manylion Cyswllt: matthewphillips@monmouthshire.gov.uk Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Mae’r Cabinet yn cymeradwyo Polisi RIPA Cyngor Sir Fynwy.
Mae’r Cabinet yn nodi Adroddiad Arolwg diweddar IPCO. |
|
ASESIAD LLETY SIPSIWN A THEITHWYR PDF 156 KB Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben: Gofyn i’r Cabinet fabwysiadu Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr 2021-2026 yn rhoi manylion anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Fynwy.
Ceisio cymeradwyaeth am ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Awdur: Stephen Griffiths, Swyddog Strategaeth a Pholisi (Tai a Chymunedau)
Manylion Cyswllt: stephengriffiths@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD Mae’r Cabinet yn mabwysiadu Asesiad Llety Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn (GTAA) 2021 – 2026 a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. |