Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 25ain Gorffennaf, 2018 2.00 pm

Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: This meeting is available to view online using this link: https://join-emea.broadcast.skype.com/monmouthshire.gov.uk/669a208ce16149628878cae9c2ada33c 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm):

3a

RHAGLENNI CRONFA GYMDEITHASOL EWROP Y FENTER IEUENCTID- ESTYN YSBRYDOLI I GYFLAWNI AC YSBRYDOLI I WEITHIO (I2A) A (I2W) pdf icon PDF 527 KB

Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt : Pob un

 

Pwrpas: Yn dilyn penderfyniad y Cabinet i weithredu rhaglen Ysbrydoli i Gyflawni  ac Ysbrydoli i Weithio  ym Mawrth 2016, a Gorffennaf 2017 mae Menter ieuenctid yn ceisio cymeradwyaeth am arian cyfatebol ychwanegol o gronfa wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio’r Awdurdod ar gyfer 2018-19 ac Ystyriaeth Cyllideb Sylfaenol o 2019-20 i 2022-23. Bydd y cyllid yn galluogi estyn y rhaglen I2A bresennol i Ragfyr 2021 sy’n darparu cymorth addysg a lles gyda’r nod o leihau’r risg o ddod yn NEET (Heb Gyfranogi mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) a’r rhaglen I2W bresennol i Ragfyr 2022 sy’n darparu cymorth ôl 16, ymyrraeth a chyfleoedd cyflogaeth gan ddefnyddio arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE).  

 

Awdur: Hannah Jones, Rheolwr Menter Ieuenctid CSF

 

Manylion Cyswllt: hannahjones@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Wedi’i ohirio.

 

3b

ARDAL CHWARAE CHIPPENHAM, TREFYNWY pdf icon PDF 130 KB

Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt :Wardiau Trefynwy

 

Pwrpas:Cytuno lleoliad ac adnewyddu’r ardal chwarae yn Chippenham Mead.

 

Awdur: Mike Moran, Cydgysylltydd Seilwaith Cymunedol

 

ManylionCyswllt: mikemoran@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn mabwysiadu'r ardal a ddangosir ar y cynllun sydd ynghlwm yn Atodiad B fel y lleoliad a ffafrir ar gyfer ailddatblygu man chwarae Chippenham Mead a'i fod yn mynd rhagddo i gyflwyno ceisiadau am ganiatâd cynllunio a chydsyniad lawnt y pentref i alluogi'r prosiect i fynd rhagddo;

 

Os a phan roddir caniatâd cynllunio a chydsyniad lawnt y pentref, bydd y Cyngor yn gweithio mewn ymgynghoriad â phartïon â diddordeb yn yr ardal ar gynllun manwl a chynnwys yr ardal chwarae sydd wedi'i hadnewyddu er mwyn sicrhau y darperir amgylchedd diogel, cynhwysol a man chwarae sefydlog cyffrous ar Chippenham Mead.

 

3c

THEATR BWRDEISTREF Y FENNI pdf icon PDF 284 KB

Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt :Pob un

 

Pwrpas:Cyflwynodiweddariad a blaengynllun ar gyfer Theatr Bwrdeistref Y Fenni yn dilyn penderfyniad y Cabinet i dderbyn ildio’r brydles, terfynu’r Cytundeb Rheoli a dychwelyd perchenogaeth a rheolaeth i’r  Awdurdod.

 

Awdur: Cath Fallon (Pennaeth Menter a Datblygu Cymunedol)

 

ManylionCyswllt: cathfallon@monmouthshire.gov.uk

 

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn ystyried y dadansoddiad o'r sefyllfa ac arfarniad o'r opsiynau ac yn cymeradwyo bod y cynnig i recriwtio Rheolwr Theatr cyfnod penodol, llawn amser, gyda Goruchwylwyr Blaen y T? cynorthwyol, yn cael ei ariannu o fewn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig cymeradwy, er mwyn rhoi'r Theatr ar sylfaen fwy sefydlog a phennu dyfodol tymor canolig/hwy i'r Theatr.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo datblygu Siartr neu Goncordat ffurfiol sy'n gweithredu dros y fwrdeistref (A4B), sef hen Bwyllgor Rheoli Theatr y Fwrdeistref.

 

3d

CAMAU NESAF - DIGWYDDIADAU A PHROSIECTAU ARBENNIG pdf icon PDF 395 KB

Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt : Pob un

 

 

Pwrpas:Rhoi gwybodaeth ar gynnydd yn dilyn adroddiad dilyniant ar Ddigwyddiadau ar ôl casgliadau adolygiad annibynnol ar Ddigwyddiadau; ac ystyried y dewisiadau a fydd yn  ategu’r blaengynlluna’r Strategaeth Ddigwyddiadau.

 

Awdur: Cath Fallon, Pennaeth Menter a Datblygu Cymunedol 

 

 

ManylionCyswllt: cathfallon@monmouthshire.gov.uk

 

.gov.uk

Penderfyniad:

Ystyried y dewisiadau a'r blaengynllun ar gyfer Digwyddiadau a chymeradwyo'r argymhellion i weithredu dull 'Hybrid' a fydd yn rhoi'r Tîm Digwyddiadau a Phrosiectau Arbennig ar sylfaen strategol a sefydlog.

 

Bod swyddogion yn dychwelyd i'r Cabinet gyda diweddariad 12 mis ar y rhaglen ddigwyddiadau.

 

3e

Strategaeth Fasnachol pdf icon PDF 74 KB

Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt :Pob un

 

Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth Strategaeth Fasnachol gyntaf  y Cyngor a’r camau gweithredu a’r cynllun sy’n mynd gydag ef.  Mae’r strategaeth yn adeiladu ar agweddau o ‘r strategaethau Caffael, Digidol a Rheoli ac mae’n gyfrwng allweddol drwy ba un y gall y Cyngor chwarae   rôl  yn hunan-benderfyniad ei hyfywedd a’i gynaliadwyedd yn y dyfodol.

 

Awdur: Peter Davies – Prif Swyddog  Adnoddau 

Debra Hill-Howells - Pennaeth Gwasanaethau Landlordiaid a Gwasanaethau Masnachol

 

Cyswllt: peterdavies@monmouthshire.gov.uk;

DebraHill-Howells@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn ystyried y strategaeth ddrafft a'r cynllun gweithredu i'w cymeradwyo.

 

3f

STRATEGAETH DDIGIDOL pdf icon PDF 76 KB

Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt :Pob un

 

Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad yw cyflwyno er cymeradwyaeth y Strategaeth Ddigidol a’r cynllun gweithredu ar gyfer 2018/21.

 

Awdur: Sian Hayward –    Pennaeth Gwasanaethau Digidol

 

Cyswllt: sianhayward@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn ystyried y strategaeth ddrafft a'r cynllun gweithredu i'w cymeradwyo.

 

3g

STRATEGAETH POBL pdf icon PDF 95 KB

Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt :Pob un

 

Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno ailadroddiad o Strategaeth Pobl y Cyngor a’rcynllun gweithredu sy’n mynd gyda’r strategaeth.   

 

Ceisiocymeradwyaeth i’r strategaeth fel y prif gyfrwng o sicrhau y cefnogir ein pobl a’n sefydliadau ac y galluogir hwy i ddatrys heriau sy’n hynod gymhleth a sicrhau gwelliant parhaus.

 

Awdur:Tracey Harry – Pennaeth Gwasanaethau Pobl a Rheoli Gwybodaeth

 

Cyswllt:traceyharry@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn ystyried y Strategaeth ddrafft a'r cynllun gweithredu i'w cymeradwyo fel ein fframwaith cyffredinol ar gyfer Pobl a Datblygu Sefydliadol. I gefnogi ei rôl o ran sicrhau bod gan y sefydliad y capasiti, y gallu a'r meddylfryd cyfunol i gyflawni heriau ariannol a gwella ac ymateb i gyfleoedd sy'n ymddangos.

 

3h

STRATEGAETH GAFFAEL pdf icon PDF 75 KB

Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt :Pob un

 

Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno’r  ailadroddiad nesaf o Strategaeth Gaffael y Cyngor a’r cynllun gweithredu sy’n mynd gyda’r strategaeth.  Mae’r Strategaeth yn adeiladu ar sesiynau gweithdai a fynychwyd gan y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu a’r nodau, y dyheadau a’r blaenoriaethau ar gyfer caffael, a adwaenir drwy’r broses gyfranogol.   

 

Awdur:Peter Davies – Prif Swyddog Adnoddau

Debra Hill-Howells – Pennaeth Gwasanaethau Landlordiaid a Gwasanaethau Masnachol  

 

Cyswllt: peterdavies@monmouthshire.gov.uk

DebraHill-Howells@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn ystyried y strategaeth ddrafft a'r cynllun gweithredu i'w cymeradwyo.

 

3i

DATGANIAD ALLDRO MONITRO REFENIW A CHYFALAF 2018/19

Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt :Pob un

 

Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw rhoddi i’r Aelodau wybodaeth ar sefyllfa alldro refeniw a chyfalaf yr Awdurdod ar ddiwedd cyfnod cofnodi 1 sy’n cynrychioli’r sefyllfa ariannol alldro ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19  yn seiliedig ar weithgareddau sy’n cynnwys  mis Mai. 

 

Caiffyr adroddiad hwn hefyd ei ystyried gan Bwyllgorau Dethol fel rhan o’u cyfrifoldebau i:

 

      asesu a yw monitro effeithiol o’r gyllideb yn digwydd,

      fonitro’rgraddau y mae cyllidebau’n cael eu gwario yn unol â’rgyllideb a’r fframwaith polisi a gytunwyd;

      heriorhesymoldeb gorwariant a thanwariant cynlluniedig, a

      monitrocyflawni enillion effeithlonrwydd disgwyliedig neu gynnydd mewn perthynas âchynigion i arbed.

 

Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol

 

Cyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod yr Aelodau'n ystyried y gorwariant refeniw net o £471,000 a rhagwelwyd.

 

Bod Aelodau'n ystyried gwariant alldro cyfalaf o £35.7 miliwn, sy'n unol â darpariaeth y gyllideb ar gyfer y flwyddyn, ar ôl y llithriant arfaethedig o £75,000. Mae hyn yn disgrifio'r sefyllfa o ran mantoli'r gyllideb yn gynnar yn y flwyddyn, er bod posibilrwydd o gostau ychwanegol i ysgolion yr 21ain ganrif o ran dileu mwy o asbestos a chostau trin nas rhagwelwyd, y mae cydweithwyr yn nodi gall fod gwerth tua £350,000.

 

Bod Cabinet yn ystyried y defnydd o gronfeydd wrth gefn a gynigir ym mharagraff 3.8.1,

 

Bod Aelodau'n nodi y bydd y lefel isel o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn lleihau’n sylweddol hyblygrwydd y Cyngor i gwrdd â her adnoddau prin yn y dyfodol.

 

Bod Aelodau'n nodi graddau'r symudiadau mewn cyllidebau unigol a gyllidebwyd ar gyfer balansau ysgolion, ac yn cydnabod diffyg rhagamcanol net a gofnodwyd o £622 mil sy’n ganlyniad i hynny, a chefnogi diwygiadau i Reoliadau Ariannu Tecach Cyngor Sir Fynwy fel y'u disgrifir ym mharagraff 3.8.13 ar gyfer ymgysylltu pellach â fforymau ysgolion a chyrff llywodraethu.