Agenda and decisions

Special Meeting, Cabinet - Dydd Llun, 29ain Ionawr, 2018 2.00 pm

Lleoliad: Conference Room, County Hall, Usk

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Live streaming of this meeting is available: https://join-emea.broadcast.skype.com/monmouthshire.gov.uk/56e7f758121d43c9ae389852175d1744 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm):

3a

Cynllun Corfforaethol: 22 am 22 pdf icon PDF 344 KB

Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Pob un

 

Diben: I geisio cymeradwyaeth am y Cynllun Corfforaethol sy’n mynegi diben a gwerthoedd yr awdurdod yn ogystal â’r rhaglen uchelgeisiol bydd yn cael ei blaenoriaethu dros y pedair blynedd nesaf.

 

Awdur: Kellie Beirne, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol

 

Manylion Cyswllt: kelliebeirne@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Cynllun Corfforaethol cyn ei gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo mabwysiadu'r amcanion a gynhwysir yn y cynllun fel Amcanion Lles y Cyngor yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

3b

Model Darpariaeth Amgen pdf icon PDF 559 KB

Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Pob Ward

 

Diben: I nodi’r canlyniadau a’r argymhellion yn yr asesiad opsiynau cynhwysfawr a’r Achos Busnes Llawn bydd yn siapio darpariaeth gwasanaethau Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant ac Ieuenctid (TLCY) cynaliadwy yn y dyfodol.

 

Awdur:  Kellie Beirne, Dirprwy Brif Weithredwr

  Peter Davies, Prif Swyddog Adnoddau

 

Manylion Cyswllt: kelliebeirne@monmouthshire.gov.uk

                           peterdavies@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

I gymeradwyo'r Achos Busnes Llawn, y Cynllun Busnes a'r adroddiadau cysylltiedig i fod yn sail i sefydlu endid newydd - Model Darpariaeth Amgen (MDA) - i sicrhau'r dyfodol mor hyfyw a gorau posibl ar gyfer y gwasanaethau Twristiaeth, Hamdden, Diwylliannol ac Ieuenctid; gan sicrhau eu bod yn gallu ffynnu ac ymateb i anghenion, disgwyliadau a dyheadau presennol trigolion Sir Fynwy nawr ac yn y dyfodol.

 

Cytuno i dderbyn Cytundeb Rheoli pum mlynedd gychwynnol sydd wedi'i ddatblygu'n llawn, gan gynnwys Matrics Gwerthuso cyflawn a Fframwaith Llywodraethu manwl - i'w hystyried mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn cyn gweithredu'r MDA. Bydd y Cytundeb Rheoli yn rheoli'r rhyngweithio rhwng y Cyngor a'r MDA; a'r rhwymedigaethau a'r cyfrifoldebau a fydd yn sicrhau cynnal elfennau craidd o gyfreithlondeb democrataidd, atebolrwydd cyhoeddus a dyletswydd gofal y gweithlu. Ar ôl ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn, bydd y broses recriwtio i swyddi uwch yn cychwyn cyn y dyddiad 'mynd yn fyw'.

 

Cymeradwyo cronfa 'cychwyn' o £155,000, o'r Gronfa Buddsoddi Blaenoriaeth, a fydd yn caniatáu sefydlu'r endid newydd a rhoi sicrwydd o ran dwysedd a thrylwyredd y diwydrwydd dyladwy parhaus o ystyried gofynion y Cyngor a'r MDA. Bydd canlyniadau'r hyn yn sail i'r Cytundeb Rheoli yn unol â 2.2 uchod.

 

I gydnabod y swm sydd i'w gynnwys yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig am y 5 mlynedd nesaf o £388,000 a bydd angen ystyried hynny fel rhan o gynigion cyllideb 2018/19 - 2022/23 fel y dangosir yn y graff yn 6.1.