Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 4ydd Gorffennaf, 2018 2.00 pm

Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: You can view this meeting online at the following link: https://join-emea.broadcast.skype.com/monmouthshire.gov.uk/1ba98d5ae53a44dabe1c7b729bfe8a75 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm):

3a

CYLLID ADRAN 106 Y KNOLL, Y FENNI pdf icon PDF 91 KB

Isadrannau/Wardiau yr Effeithir arnynt: Y Fenni

 

Pwrpas: Ceisiocymeradwyaeth yr Aelodau i ddefnyddio balans oddi- ar y safle Adran 106 o ddatblygiad Y Knoll, y Fenni a chynnwys y cyllid hwn yn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2018/19.

 

 

Awdur: Mike Moran, Cydgysylltydd Seilwaith Cymunedol

 

ManylionCyswllt: mikemoran@monmouthshire.gov.uk

.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod cyllideb gyfalaf o £26,082 yn cael ei chreu yn 2018/19 i ariannu'r prosiectau canlynol yn rhannol a bod hyn yn cael ei ariannu o gyfraniad cyfatebol o'r balansau Adran 106 a ddelir gan y Cyngor Sir mewn perthynas â'r datblygiad yn The Knoll, Y Fenni (Cod Cyllid N583).

 

Bod grantiau yn y symiau a ddangosir yn cael eu dyrannu i'r prosiectau canlynol:

1. Cyfeillion Parc Bailey £3,300

2. Cyfeillion Linda Vista Gardens £1,590

3. Ymddiriedolaeth Gymunedol y Fenni £2,140

4. Côr Synergy £3,300

5. Astudiaeth ddichonoldeb Beicio Oddi ar y Ffordd £5,000

6. Gwelliannau Castle Meadows a Linda Vista (balans) £10,752

 

Cyfanswm am 26,082

Total 26,082

3b

DATGAN BOD ODDEUTU 36 ERW O DIR AMAETHYDDOL YN WEDDILL I'R GOFYNION A CHEISIO CANIATÂD I'W WAREDU pdf icon PDF 103 KB

Isadrannau/Wardiau yr Effeithir arnynt: Trellech Unedig

 

Pwrpas:Pwrpas yr adroddiad hwn yw datgan bod oddeutu 36 erw o dir amaethyddol yn weddill i’r gofynion a cheisio caniatâd i’w waredu

 

Awdur: Gareth King MRICS – Prif Syrfëwr Ystadau

 

ManylionCyswllt: garethking@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod yr ased o'r enw Tryleg 2/3/8, sy'n cwmpasu tua 36 erw o dir rhwng Llanisien a Thryleg, yn cael ei ddatgan yn ddiangen ar ôl i'r tir gael ei drosglwyddo'n ôl i'r Cyngor yn gynharach eleni.

 

Rhoi caniatâd i'r tir gael ei waredu ar y farchnad agored gan Dîm Ystadau'r Cyngor.

 

Rhoi’r cydsyniad i’r Rheolwr Ystadau, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, i gytuno ar y dull gwaredu ac unrhyw faterion cysylltiedig eraill mewn perthynas â'r gwarediad hwnnw.

 

Bod y cyllidebau a nodir isod yn cael eu neilltuo i ariannu'r costau angenrheidiol o waredu'r tir.

 

3c

AILSTRWYTHURO ATYNIADAU pdf icon PDF 143 KB

Isadrannau/Wardiau yr Effeithir arnynt: Pob un

 

Pwrpas:Cynnig newidiadau yn y Gyfarwyddiaeth Fenter o fewn Twristiaeth,  Hamdden, Diwylliant a’r Gwasanaethau Ieuenctid  i’r strwythur staffio yng Nghastell Cil-y-coed, Canolfan Groeso Cas-gwent, Neuadd y Sir a Hen Orsaf Tyndyrn.

 

Awdur: Ian Saunders, Pennaeth Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant a Gwasanaethau Ieuenctid

Marie Bartlett, Rheolwr Cyllid

 

ManylionCyswllt: iansunders@monmouthshire.gov.uk; richardsimpkins@monmouthshire.gov.uk; mariebartlett@monmouthshire.gov.uk

; mariebartlett@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo'r newidiadau i'r strwythur staffio fel y'u hamlinellir yng nghorff yr adroddiad i'r hyn a welir yn Atodiad 1.

 

Cymeradwyo y bydd unrhyw gostau dileu swyddi a phensiwn cynnar yn cael eu talu

Cyllideb Diswyddo Corfforaethol.

 

3d

GADAWYR GOFAL - EITHRIAD I'R DRETH GYNGOR pdf icon PDF 121 KB

Isadrannau/Wardiau yr Effeithir arnynt: Pob un

 

Pwrpas:Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i eithrio’r holl adawyr gofal hyd at 25 mlwydd oed rhag talu’r dreth gyngor.   

 

Awdur: Ruth Donovan, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid, Refeniw, Systemau a Thrysorlys

 

ManylionCyswllt: ruthdonovan@monmouthshire.gov.uk

.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dyfarnu gostyngiad o 100% yn y dreth gyngor yn ôl disgresiwn i bawb sy'n gadael gofal rhwng 18 a 25 oed sy'n byw yn y sir.

 

Mabwysiadu'r cynllun cymorth arfaethedig a nodwyd yn 4.4.2.

3e

POLISI A GWEITHDREFN ADENNILL DYLEDION PRYDAU YSGOL YN Y SECTOR CYNRADD pdf icon PDF 83 KB

Isadrannau/Wardiau yr Effeithir arnynt: Pob un

 

Pwrpas:Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r problemau sy’n ymwneud â  rheoli dyledion prydau ysgol o fewn y sector cynradd. Ystyriwyd adroddiad ar y pwnc yn y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc ar 17eg Mai 2018 a chynhwysir adborth o’r cyfarfod yn yr adroddiad hwn.

 

Mae’radroddiad hwn yn ceisio penderfyniad y Cabinet ar y modd y dylid rheoli dyledion prydau ysgol yn y sector cynradd a rhoi cyfrif amdanynt yn y flwyddyn academaidd newydd.

 

Awdur: Roger Hoggins, Pennaeth Gweithrediadau

 

ManylionCyswllt: rogerhoggins@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y ddyled sy'n gysylltiedig â darparu prydau ysgol i blant y sector cynradd a chlybiau cyn-ysgol yn cael ei rheoli gan ddefnyddio'r polisi a'r weithdrefn ganlynol:

 

1.     Na chymerir unrhyw gamau i adennill dyledion nes bod gwerth y ddyled yn fwy na £10.

2.     Bod y sawl sy'n gyfrifol am dalu am y gwasanaeth (y rhiant neu warcheidwad mwy na thebyg) yn derbyn cyngor ysgrifenedig o’r ysgol yngl?n â’r ddyled ar 3 achlysur dros gyfnod o 3 wythnos.

3.     Os bydd y ddyled yn parhau heb ei thalu, bod y person sy'n gyfrifol am dalu am y gwasanaeth yn cael ei wahodd i gyfarfod gyda'r ysgol i drafod pam mae'r ddyled yn bodoli.

4.     Ysgolion i ddarparu tystiolaeth o erlid dyledion a chymryd pob cam i gasglu'r ddyled, gan gynnwys llythyron at rieni a chyfarfodydd lles.

5.     Rhaid i unrhyw gynlluniau talu gael eu cytuno gyda'r awdurdod lleol a gall unrhyw wyriad o'r cynllun talu hwn arwain at dynnu'r gwasanaeth yn ôl os cytunir arno gyda'r Prif Swyddog Addysg a'r Pennaeth Gweithrediadau.

6.     Ar ôl i'r ddyled gael ei uwchgyfeirio i'r awdurdod lleol, mae'n rhaid i'r ysgol ddarparu tystiolaeth o geisio adennill y ddyled honno.  Os yw'r dystiolaeth yn gadarn ac nad yw'r awdurdod lleol wedyn yn gallu adennill y ddyled, bydd yr awdurdod lleol yn talu'r gost.

7.     Os na all ysgolion ddarparu'r dystiolaeth honno, neu os nad yw'n gadarn, bydd unrhyw ddileu dilynol yn gost i gyllideb yr ysgol.

8.     Cyflwynir adolygiad o'r weithdrefn a lefel y ddyled i'r Cabinet ymhen chwe mis.

 

Bod yr holl ddyledion eraill yn cael eu cyfrif drwy gyllidebau ysgolion unigol (e.e. teithiau ysgol)

 

 

3f

PAPUR YMGYNGHORI AR GYFER ADOLYGIAD O GYNHWYSIANT pdf icon PDF 96 KB

Isadrannau/Wardiau yr Effeithir arnynt: Pob un

 

Pwrpas:Mae'r adroddiad hwn yn ceisio rhoi diweddariad i'r Cabinet ar yr ymarfer ymgynghori statudol a wnaed mewn perthynas â'r model darparu gwasanaethau arfaethedig newydd ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant ar draws Sir Fynwy.

 

Mae'radroddiad hwn hefyd yn ceisio  caniatâd y Cabinet i ddiwygio'r amserlen ymgynghori, gan ganiatáu cyfle i fyfyrio ymhellach ar yr adborth a gafwyd yn ystod y broses ymgynghori ac ystyried sut y gallai hyn effeithio ar y model cyflawni arfaethedig yn y dyfodol.

 

Awdur: Will McLean

 

ManylionCyswllt: willmclean@monmouthshire.gov.uk

 

@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo'r amserlen ddiwygiedig sy'n gysylltiedig â'r broses ymgynghori statudol hon, sy'n cynnig bod y Cabinet yn gwneud ei benderfyniad terfynol ar 5edRhagfyr 2018 yn hytrach na’r 7fed Tachwedd 2018 fel y'i cynigiwyd yn wreiddiol.

 

3g

CYCHWYN DA I BAWB - STRATEGAETH LEIHAU SIR FYNWY AR GYFER DRAFFT NEET (HEB FOD MEWN ADDYSG, CYFLOGAETH NA HYFFORDDIANT) pdf icon PDF 1 MB

Isadrannau/Wardiau yr Effeithir arnynt: Pob un

 

Pwrpas:Cyflwyno Strategaeth Leihau Drafft NEET Sir Fynwy ar gyfer ei chymeradwyo yn dilyn craffu arni yn y  Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc ar 28ain Mehefin 2018

 

Awdur: Hannah Jones, Rheolwr Menter Ieuenctid Cyngor Sir Fynwy

 

ManylionCyswllt: hannahjones@monmouthshire.gov.uk

 

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r fersiwn ddrafft terfynol o

Strategaeth Leihau Sir Fynwy drafft ar gyfer Pobl Ifanc NEET (Heb Fod Mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant).

 

3h

GWEITHGOR CRONFA'R EGLWYS YNG NGHYMRU pdf icon PDF 59 KB

Isadrannau/Wardiau yr Effeithir arnynt: Pob un

 

Pwrpas:Pwrpas yr adroddiad hwn yw gwneud argymhellion i’r Cabinet ar y Rhestr o Geisiadau ar gyfer cyfarfod 2 Gweithgor yr Eglwys yng Nghymru ym mlwyddyn ariannol 2018/19 a gynhaliwyd ar 21ain Mehefin 2018.

 

Awdur:David Jarrett – Uwch Gyfrifydd - Cymorth Busnes Cyllid Canolog

 

 

ManylionCyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y grantiau canlynol yn cael eu dyfarnu yn unol â'r rhestr ceisiadau.