Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 11eg Ebrill, 2018 2.00 pm

Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm):

3a

Polisi Coed pdf icon PDF 101 KB

Is-adrannau/Wardiau yr effeithir arnyntPob un

 

Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth gan y Cabinet ar gyfer mabwysiadu Polisi Coed newydd sy’n amlinellu cyfrifoldebau’r Cyngor Sir mewn perthynas â choed yn ei  berchnogaeth.

 

Awdur: Mark Cleaver

 

Manylion Cyswllt:

markcleaver@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

3b

Gwerthiant Neuadd y Sir, Cwmbrân pdf icon PDF 96 KB

Is-adrannau/Wardiau yr effeithir arnyntPob un 

 

Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer gwaredu safle cyn Neuadd y Sir yng Nghwmbrân i’r cynigydd a ffefrir.

 

Awdur: Ben Winstanley, Rheolwr Ystadau

 

Manylion Cyswllt:

benwinstanley@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn derbyn y cynnig "yn amodol ar gontract" ar gyfer prynu'r buddiant rhydd-ddaliadol 50% Cyngor Sir Fynwy yn safle hen Neuadd y Sir gan y cynigiwr a ffefrir.

 

Bod negodi'r contract terfynol yn cael ei ddirprwyo i'r Prif Swyddog Adnoddau ar y cyd a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau.

 

3c

STRATEGAETH DDRAFFT TRAIS YN ERBYN MENYWOD, CAM-DRIN YN Y CARTREF A THRAIS RHYWIOL (VAWDASV) pdf icon PDF 83 KB

Is-adrannau/Wardiau yr effeithir arnyntPob un 

Pwrpas: Cyflwyno Strategaeth Ddrafft Trais yn erbyn Menywod Gwent, Cam-drin yn y Cartref a Thrais Rhywiol (VAWDASV) i’r Cabinet cyn cael ei mabwysiada ar draws Gwent i’r cynigydd a ffefrir..

 

Awdur: Sharran Lloyd: Rheolwr Datblygu Cymunedau a Phartneriaethau 

 

Manylion Cyswllt: sharranlloyd@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn ystyried ac yn cytuno i fabwysiadu'r Strategaeth VAWDASV Gwent (Atodiad A) drafft fel rhan o gydweithrediad rhanbarthol Gwent wrth gyflawni Deddf VAWDASV (2015).

 

Bod y Cabinet yn cytuno i fabwysiadu'r Strategaeth ddrafft ar sail y ffaith y bydd y copi terfynol yn cynnwys argymhellion ar draws y 4 Pwyllgor Craffu Awdurdod Lleol arall a bwrdd craffu partneriaid Gwent. Cafodd y strategaeth ddrafft ei chymryd i Bwyllgor Dethol Cymunedau Cryf Cyngor Sir Fynwy ar 29ain Mawrth, lle gwnaed yr argymhellion canlynol:

·       Cynnwys rhif ffôn y llinell gymorth genedlaethol Byw Heb Ofn a gwybodaeth  am y wefan a'r cyfryngau cymdeithasol

·       Cynnwys gwybodaeth benodol am y prosiect a manylion y lleoliad ar gyfer y darllenwyr hynny nad ydynt yn gyfarwydd â'r dirwedd o bosibl

 

3d

Gweithgor Cronfa Eglwys Cymru pdf icon PDF 60 KB

Is-adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Pob un

 

Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw gwneud argymhellion i’r Cabinet ar yr Atodlen o Geisiadau ar gyfer cyfarfod 6 Gweithgor Cronfa Eglwys Cymru blwyddyn ariannol 2017/18 a gynhaliwyd ar 18fed Ionawr 2018 a chyfarfod 7 a gynhaliwyd ar 1af Mawrth 2018.

 

Awdur: David Jarrett, Uwch GyfrifyddCymorth Busnes Cyllid Canolog

 

Manylion Cyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y grantiau'n cael eu dyfarnu yn unol â'r rhestr ceisiadau.