Agenda, decisions and draft minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 7fed Mawrth, 2018 2.00 pm

Lleoliad: Conference Room - Usk, NP15 1AD. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: This meeting is available to watch online on the following link: https://join-emea.broadcast.skype.com/monmouthshire.gov.uk/dcd90c240fb74caea49ba34182655573 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm):

4.

CYNLLUN BUSNES Y GWASANAETH CYFLAWNI ADDYSG (GCA) (2018-2020) ac ATODIAD AWDURDOD LLEOL 2018-2019 pdf icon PDF 137 KB

Is-adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Pob un

 

Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno Cynllun Busnes Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) De-ddwyrain Cymru 2018-2021. Mae’r cynllun yn amlinellu’r blaenoriaethau, y rhaglenni a’r canlyniadau i’w cyflawni gan y GCA ar ran Consortiwm De-ddwyrain Cymru. Mae’r adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar y canlyniadau disgwyliedig yn Sir Fynwy, cynhwysir y rhain yn Atodiad yr Awdurdod Lleol (ALl).    

 

Awdur: Debbie Harteveld (Cyfarwyddwr Rheoli GCA)

 

ManylionCyswllt:

Debbie.harteveld@sewaleseas.org.uk

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Busnes GCA ac Atodiad yr Awdurdod Lleol.

 

Cofnodion:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Busnes GCA ac Atodiad yr Awdurdod Lleol.

 

5.

CYLLID CYNNAL A CHADW ADEILADAU AR GYFER YSGOLION NEWYDD pdf icon PDF 133 KB

Is-adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Pob un

 

Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn cynnig newid yng nghyllido cynnal a chadw adeiladau ar gyfer ysgolion newydd drwy welliant i’r fformiwla cyllido.

 

Awdur: Nikki Wellington

 

ManylionCyswllt:

nicolawellington@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’rnewidiadau i’r fformiwla ariannu ar gyfer ysgolion a nodir yn  3.3.

 

Nodi, os caiff hwn ei gytuno, y caiff ei weithredu unwaith y bydd angen benthyca i ariannu adeiladau Cyfalaf Ysgolion y Dyfodol. Bydd hyn ar sail pro rata dros y flwyddyn ariannol.

 

6.

PAPUR YMGYNGHORI AR GYFER ADOLYGIAD CYNHWYSIANT. pdf icon PDF 87 KB

Is-adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Pob un

 

Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig ar gyfer Cynhwysiant ar draws Sir Fynwy.

 

Author: Will McLean – Prif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc

 

ManylionCyswllt:

willmclean@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo'r ddogfen ymgynghori ar gyfer y Ddarpariaeth Cynhwysiant arfaethedig ar draws Sir Fynwy, er mwyn caniatáu ymgynghori llawn â phartneriaid ar y newidiadau arfaethedig.

 

Bod yr Aelod Cabinet dros Addysg, a'r Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn cytuno ar y ddogfen ymgynghori derfynol, gan gynnwys mân newidiadau nad ydynt yn newid y cynnig yn sylweddol.

 

7.

DISODLI'R SYSTEM RHEOLI DOGFENNAU AR GYFER REFENIW pdf icon PDF 130 KB

Is-adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Pob un

 

Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth I ddisodli system rheoli dogfennau’r Tîm Refeniw ac mae’n gofyn am fuddsoddiad cyfalaf rhag blaen o Arian wrth Gefn TGCh. Nodir yr achos busnes i gefnogi’r buddsoddiad hwn o fewn yr adroddiad hwn.

 

Awdur: Ruth Donovan – Pennaeth Cynorthwyol Cyllid: Refeniw, Systemau a’r Trysorlys

 

ManylionCyswllt:

ruthdonovan@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytuno i ddisodli system rheoli dogfennau'r Tîm Refeniw, fel y gwelir yn yr adroddiad hwn a'r achos busnes cysylltiedig.

 

Contractioar y cyd gyda'r Gwasanaeth Budd-daliadau a Rennir ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Northgate i ddarparu system rheoli dogfennau - Information @ Work.

 

Cytuno i ryddhau arian wrth gefn untro o £54,000 o Gronfa Wrth Gefn TGCh i dalu am y buddsoddiad cyfalaf cychwynnol gofynnol.

 

7a

Asesiad Risg Strategol yr Awdurdod Cyfan pdf icon PDF 247 KB

Is-adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Pob un

 

Pwrpas: Rhoddi i’r Cabinet drosolwg o’r risgiau strategol cyfredol sy’n wynebu’r awdurdod.

 

Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet o asesiad risg yr awdurdod cyfan.

 

Awdur:Richard Jones, Swyddog Polisi a Pherfformiad

ManylionCyswllt:

richardjones@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod aelodau'r Cabinet yn cymeradwyo'r asesiad risg a ddangosir yn atodiad 1 fel gwerthusiad realistig â thystiolaeth o’i blaid o'r risgiau strategol sy'n wynebu'r awdurdod dros y tair blynedd nesaf.

 

Cofnodion:

Bod aelodau'r Cabinet yn cymeradwyo'r asesiad risg a ddangosir yn atodiad 1 fel gwerthusiad realistig â thystiolaeth o’i blaid o'r risgiau strategol sy'n wynebu'r awdurdod dros y tair blynedd nesaf.

 

8.

BUDDSODDIAD CRONFEYDD ADDYSG AC YMDDIRIEDOLAETH EGLWYS CYMRU A STRATEGAETHAU CRONFEYDD 2018/19 pdf icon PDF 525 KB

Is-adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Pob un

Pwrpas:Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno i’r Cabinet am gymeradwyaeth strategaeth Fuddsoddiadau a Chronfeydd 2018/19 ar gyfer Cronfeydd Ymddiriedolaeth y mae’r Awdurdod yn gweithredu ar eu cyfer fel ymddiriedolwr sengl neu warcheidiol ar gyfer mabwysiadu a chymeradwyo dyraniad grant 2018/19 i fuddiolwyr yr Awdurdod Lleol o Gronfa Eglwys Cymru..

 

Awdur: Peter Davies – Pennaeth Adnoddau

 

ManylionCyswllt:

peterdavies@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Bod y Strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd arfaethedig ar gyfer 2018/19 yn cael ei chymeradwyo ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Fferm Ysgol Sir Fynwy.

 

Bod y Strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd arfaethedig ar gyfer 2018/19 ar gyfer Cronfa Eglwys Cymru’n cael ei chymeradwyo. .

 

Dirprwyo’rcyfrifoldeb am weithredu a gweinyddu penderfyniadau rheoli’r trysorlys i'r Pennaeth Cyllid (Swyddog S151) a fydd yn gweithredu yn unol â'r Strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd (atodiad 2).

 

Cymeradwyodyraniad grant 2018/19 i fuddiolwyr yr Awdurdod Lleol i Gronfa Deddf Eglwys Cymru Sir Fynwy o £200,000 i'w ddosbarthu yn unol â’r cyfrannau poblogaeth yn ôl Cyfrifiad 2010.

 

Cymeradwyo'regwyddor bod dyraniad grant 2018-19 mewn perthynas â chronfa ymddiriedolaeth Ffermydd Sir Fynwy yn cyd-fynd yn agos ag enillion buddsoddiad y flwyddyn flaenorol ar ddiwedd mis Mawrth 2017, er mwyn osgoi erydu'r gronfa gyffredinol.

CymeradwyoEgwyddorion Cronfa Eglwys Cymru, Ystyriaethau Polisi a Meini Prawf Dyrannu Grantiau ar gyfer 2018-19 (Cyfanswm yr enillion buddsoddi oedd £24,816 yn ôl y cyfrifon terfynol a archwiliwyd ar gyfer 2016-17.

 

Atodiad 6) fel y'u hystyriwyd a'u cymeradwyo gan Bwyllgor Cronfa Eglwys Cymru ar 18fed  Ionawr 2018.