Agenda and decisions

Special, Cabinet - Dydd Gwener, 16eg Rhagfyr, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

4a

Cyllid Adran 106 – Cae 3G ac Uwchraddio Ardal Chwarae Castell Cil-y-Coed pdf icon PDF 89 KB

Ward/Rhanbarth a Effeithir: Cil-y-Coed

 

Diben: Ceisio cymeradwyaeth aelodau i ddefnyddio gweddill cyllid Adran 106 a gedwir gan y Cyngor o ddatblygiad safle Taylor Wimpey yn Heol yr Eglwys, Cil-y-Coed.

 

Adolygu’r cymeradwyaeth a gytunwyd iddi eisoes mewn perthynas ag ardaloedd chwarae Castell Cil-y-Coed a Chas Troggy.

 

Awduron: Mike Moran, Cydlynydd Isadeiledd Cymunedol

 

Manylion Cyswllt mikemoran@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Argymell bod y Cyngor yn cynyddu cyllideb cyfalaf 3G (Cod Cyllideb Cyfalaf 90761) gan £26,335 i gynnwys y gwariant ychwanegol a aethpwyd iddo ar y prosiect hwn.

·         Y dylid defnyddio £26,335 o weddill Adran 106 Heol yr Eglwys i wneud yn iawn am y gorwariant a aethpwyd iddo wrth gynnal gwaith ychwanegol ar gae 3G Glan Hafren yng Nghil-y-Coed;

·         Bod £63,500 o weddill Adran 106 Heol yr Eglwys yn cael ei defnyddio i uwchraddio'r ardal chwarae i blant yng Nghastell Cil-y-Coed yn gyfan gwbl;

·         Y dylid oedi uwchraddio'r ardal chwarae i blant yng Nghas Troggy, Cil-y-Coed er mwyn rhoi ystyried pellach i ardaloedd chwarae yn gyffredinol ledled y Sir.

 

4b

Cytuno i ganiatáu mynediad i Gyngor Dinas Casnewydd rhan Partner Ychwanegol i’r SRS pdf icon PDF 288 KB

Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Dim

 

Diben: Uchelgais y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir (SRS) erioed oedd ehangu darpariaeth gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i bartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus. Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cwblhau a chymeradwyo achos busnes trwy ei brosesau awdurdodi a phwyllgorau ei hun, ac mae wedi gwneud cais ffurfiol i ddod yn bartner yn y SRS  Mae hwn yn garreg milltir arall yn nhaith SRS, ac yn un i ddathlu ehangiad y model gwasanaeth ar y cyd.

 

Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth o’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu (PCC) a Chabinetau partneriaid SRS i wahodd Cyngor Dinas Casnewydd i ymuno â SRS.

 

Awdur: Sian Hayward

 

Manylion Cyswllt: sianhayward@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

·         Bod pob partner yn cytuno bod Cyngor Dinas Casnewydd yn ymuno â SRS fel partner, gan arwain at fuddion i SRS a phob sefydliad sy'n bartner.

 

4c

Adolygiad o ffioedd a chostau arfaethedig yr Awdurdod i’w cynnwys yng nghyllideb 2017-18 pdf icon PDF 799 KB

Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pob un

 

Diben: Adolygu’r ffioedd a chostau a godir ledled y Cyngor ac adnabod cynigion i addasu costau o fis Ebrill 2017.

 

Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol

 

Manylion Cyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·         Bod y ffioedd a chostau arfaethedig ar gyfer 2017/18 a nodwyd ar gyfer pob math o wasanaeth â chost a wneir, fel yr amlinellir yn Atodiad 1, yn cael eu mabwysiadu. Gan eithrio cynnydd yng nghostau meysydd parcio.

·         Bod y cynnydd mewn costau yn dechrau dim hwyrach na'r 1af o Ebrill 2017, gydag unrhyw bwysau a ddaw o gynnydd yn digwydd ar ôl y dyddiad hwn yn cael ei reoli gan Brif Swyddogion o fewn dyraniadau cyllideb eu cyfarwyddiaeth berthnasol.

·         Bod Prif Swyddogion yn sylfaenol yn rheoli'r pwysau ar gyllidebau a amlygir gan wasanaethau nad sy'n cynyddu costau yn unol â'r cynnydd 2.5% a dybir yn MTFP 2017-21. Dylid hefyd ystyried effeithiolrwydd costau a'r costau gweinyddol a ddaw yn sgil ychwanegu cynnydd bach i gostau cyfredol.

 

4d

Cynigion cyllideb drafft 2017/18 am ymgynghoriad pdf icon PDF 318 KB

Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pob un

 

Diben: Darparu cynigion drafft manwl ar yr arbedion gofynnol yn y gyllideb er mwyn llenwi’r bwlch rhwng yr adnoddau sydd ar gael a’r angen i wario i 2017/18, at ddibenion ymgynghori.

 

Ystyried cyllideb 2017/18 o fewn cyd-destun y Cynllun Ariannol Tymor Canolig 4 blynedd (MTFP) a’r blaenoriaethau sydd wedi dod i’r amlwg er mwyn tywys gweithgareddau trwy Sir Fynwy y Dyfodol.

 

Awdur: Joy Robson – Pennaeth Cyllid

 

Manylion Cyswllt: joyrobson@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·         Bod y Cabinet yn cymeradwyo cyhoeddi'r cynigion drafft ar arbedion yn y gyllideb ar gyfer 2017/18 at ddibenion ymgynghori.

·         Bod y Cabinet yn cymeradwyo bod y cyfnod ymgynghori a'r cyfle i gyflwyno cynigion amgen sydd wedi cael eu hasesu o ran Effaith ar Gydraddoldeb yn dod i ben ar 31 Ionawr 2017.

·         Bod y Cabinet yn cytuno i barhau i weithio ar y meysydd sydd eu hangen i fantoli cyllideb 2017/18 a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (MTFP), trwy'r cyfleoedd hynny a nodwyd yn rhaglen Sir Fynwy y Dyfodol sydd ar y gweill.

 

4e

Cynigion cyllideb cyfalaf 2017/18 i 2020/21 pdf icon PDF 124 KB

Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pob un

 

Diben: Amlinellu’r gyllideb cyfalaf arfaethedig ar gyfer 2017/18 a’r cyllidebau cyfalaf dangosol ar gyfer y cyfnod rhwng 2018/19 a 2020/21.

 

Awdur: Joy Robson – Pennaeth Cyllid

 

Manylion Cyswllt: joyrobson@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·         Bod y Cabinet yn cyhoeddi ei gynigion drafft ar gyllideb cyfalaf ar gyfer 2017/18 i 2018/21 at ddibenion ymgynghori fel yr amlinellwyd a chyfeiriwyd at yn Atodiad 2.

·         Bod y Cabinet yn cadarnhau strategaeth gyfalaf sy'n ceisio blaenoriaethu rhaglen Ysgolion y Dyfodol y Cyngor ac ymrwymiadau eraill tra hefyd yn parhau i ariannu rhaglen cyfalaf craidd isafswm, a gan gydnabod y risgiau sydd ynghlwm â'r ymagwedd hon.

·         Bod y Cabinet yn adolygu blaenoriaethau'r rhaglen gyfalaf yn sgil y materion a godwyd yn 3.7 a gofynion eraill am adnoddau cyfalaf.

·         Bod y Cabinet yn ailddatgan yr egwyddor bod cynlluniau newydd yn gallu cael eu hychwanegu at y rhaglen, dim ond os yw'r achos busnes yn dangos eu bod yn hunan-ariannu neu os bennir bod y cynllun yn flaenoriaeth uwch na chynlluniau cyfredol yn y rhaglen ac felly yn eu disodli.

·         Bod y Cabinet yn cytuno i uchafu'r defnydd o dderbynebau cyfalaf pan y'u derbynnir i ariannu'r rhaglen cyfalaf (gan leihau'r angen i fenthyg trwy hynny), a/neu eu rhoi i'r neilltu i ad-dalu dyledion fel yr amlinellwyd ym mharagraff 3.10.

·         Bod y Cabinet yn cytuno i werthu asedau yn unol â'r Cynllun Rheoli asedau ac a nodwyd yn y papur cefndir ar eithriadau er mwyn cefnogi'r rhaglen gyfalaf, ac unwaith y cytunir arnynt, bod dim opsiynau eraill yn cael eu hystyried ar gyfer yr asedau hyn.