Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 27ain Gorffennaf, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

4a

RMonitro Cyfalaf a Refeniw 2016/17 - Cyfnod 1 Datganiad Rhagolygon Alldro pdf icon PDF 703 KB

Ward: Pawb

 

Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw rhoi gwybodaeth i Aelodau ar y safle alldro o refeniw rhagolygon yr Awdurdod ar ddiwedd cyfnod  1 sydd yn cynrychioli gwybodaeth ariannol mis 2 ar gyfer  blwyddyn ariannol 2016/17.  Mae’r rhagolygon ar gyfer Refeniw a Chyfalaf yn cael eu dwyn ymlaen gan fis yn erbyn yr amserlen arferol, a hynny er mwyn rhoi’r wybodaeth gyllidol berthnasol i Aelodau cyn gwyliau’r haf.

 

Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cynorthwyol Cyllid

 

Manylion Cyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae'r Cabinet yn nodi ystent y rhagolwg o orwariant refeniw yng nghyfnod 1 o £1.37 miliwn.

 

Mae'r Cabinet yn gofyn bod Prif Swyddogion yn darparu gwybodaeth ar sut fydd y sefyllfa o orwario yn cael ei gymryd yn ôl o fewn y gyllideb, gan gynnwys cynlluniau amgen i gyflwyno'r arbedion o £301,000 a fandadwyd nad sy'n gyraeddadwy o fewn y cyfnod monitro nesaf.

 

Mae'r Cabinet yn gofyn bod y Gyfarwyddiaeth yn adolygu lefelau gorwariant a thanwariant ac yn ail-ddyrannu cyllidebau i leihau'r ystent o orfod adrodd am sefyllfaoedd cydadferol cyn yr adroddiad 6 mis.

 

Mae'r Cabinet yn gwerthfawrogi ystent y defnydd o'r cronfeydd wrth gefn arfaethedig ar gyfer ysgolion a'r disgwyliad y bydd 13 ysgol mewn sefyllfa ddiffygiol erbyn diwedd 2016-17.

 

Ystyriodd y Cabinet y monitro cyfalaf sy'n dangos amrywiaeth fechan yn unig o'r gyllideb yn sgil cymeradwyaeth ddiweddar y Cabinet a'r Cyngor ar D? Caerwent.

 

Mae'r Cabinet yn cydnabod y risg sy'n gysylltiedig gyda gorfod dibynnu ar ddefnydd o dderbynebau cyfalaf yn y flwyddyn arfaethedig a'r potensial i hyn roi pwysau sylweddol ar refeniw pe byddai oedi gyda'r derbynebau a bod rhaid benthyg cyllid dros dro.

4b

Crick Road – Gwerthiant posib i Melin Homes pdf icon PDF 301 KB

Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pawb

 

Pwrpas: Ystyried penderfyniad o ran egwyddor i werthu safle Crick Road i Melin Homes er mwyn manteisio i’r eithaf ar y gwerth cymdeithasol a chyfalaf. 

 

Awdur: Deb Hill-Howells – Pennaeth Cyflenwi Cymuned

 

Manylion Cyswllt: debrahill-howells@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Mae'r Cabinet yn cytuno i'r Cyngor gychwyn trafodaethau gyda Thai Melin ar werthiant arfaethedig Heol Crick er mwyn datblygu Cynllun Busnes a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet maes o law. Bydd y costau a fydd Melin yn mynd iddynt wrth ddatblygu'r cynllun hwn yn cael eu gwarantu gan y Cyngor hwn os byddwn yn dewis peidio â pharhau gyda'r gwarediad.

 

Bydd canlyniad y trafodaethau hyn yn cael ei adrodd yn ôl i'r Cabinet am drafodaeth ar a ddylid parhau gyda'r gwerthiant ai peidio.

4c

Effeithiolrwydd Gwasanaethau Cyngor - 2015/16 Diweddariad pdf icon PDF 493 KB

Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pawb

 

Pwrpas: Rhoi diweddariad i’r Cabinet ar berfformiad y cyngor yn 2015/16, a hynny yn erbyn set o fesurau sydd yn bwysig wrth ffurfio barn ar wasanaethau cyfredol gwasanaethau’r cyngor.

 

Awdur: Richard Jones, Swyddog Polisi a Pherfformiad; Sian Schofield, Dadansoddwr Data

 

Manylion Cyswllt:  richardjones@monmouthshire.gov.uk; sianschofield@monmouthshire.co.uk

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn defnyddio'r adroddiad hwn i helpu gyda'u monitro a gwerthuso parhaus o effeithlonrwydd gwasanaethau ac i ba raddau y maen nhw'n cyfrannu at flaenoriaethau'r cyngor o addysgu plant, cefnogaeth i bobl agored i niwed, menter a chreu swyddi a chynnal gwasanaethau lleol hygyrch.

 

Bod y Cabinet yn defnyddio'r adroddiad hwn i adnabod unrhyw gamau gweithredu sydd angen eu cymryd i yrru gwelliannau, gan sicrhau bod gwasanaethau mor effeithlon ac effeithiol â phosib yng nghyd-destun adnoddau cyfredol.

4d

Adolygiad Uwch Arweinyddiaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd pdf icon PDF 320 KB

Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pawb

 

Pwrpas: Cynnig strwythur arweinyddiaeth ddiwygiedig ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Awdur: Claire Marchant, Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Manylion Cyswllt: clairemarchant@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunoar strwythur uwch arweiniad addas i'r diben ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Awdurdodii'r Prif Swyddog barhau gyda chamau gweithredu rheoli angenrheidiol i roi'r newidiadau hyn ar waith gan wneud hyn yn unol â pholisïau cyflogaeth cymeradwy y Cyngor.

 

Gofyn, pe nad oes modd talu'r costau diswyddo o gronfa'r gyfarwyddiaeth, bod y costau hyn yn dod o'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer Diswyddiadau a Phensiynau.

 

Gofyn am fynediad i'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer buddsoddi i ail-ddylunio i gefnogi'r gallu trawsnewid sydd ei angen i gyflwyno'r newidiadau angenrheidiol er mwyn cyflawni gwelliant cynaliadwy yng ngwasanaethau plant

4e

Adroddiad Gwella Gwasanaethau Plant pdf icon PDF 333 KB

Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pawb

 

Pwrpas: Rhoi gwerthusiad i’r Cabinet o faterion cyfredol a’r heriau allweddol o fewn y Gwasanaethau Plant a chynnig rhaglen gwella gwasanaeth sydd yn mynd i’r afael â’r heriau yma. 

 

Awdur: Jane Rodgers, Pennaeth Gwasanaethau Plant

 

Manylion Cyswllt: janerodgers@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo'r Gwelliannau i Wasanaethau plant fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

Cymeradwyo buddsoddiad o £250,000 o Gronfeydd wrth gefn Blaenoriaethu Buddsoddiad er mwyn cefnogi gwelliannau i arferion gwasanaethau plant sy'n

4f

Cynllun Datblygu Gweithlu a Phractis pdf icon PDF 538 KB

Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pawb

 

Pwrpas: Ystyried a chymeradwyo’r dull a argymhellir yn y  Cynllun Gweithredu Datblygu Gweithlu a Phractis 

 

Awdur: Claire Robins, Arweinydd Materion Gweithlu

 

Manylion Cyswllt: clairerobins@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Byddaelodau'n derbyn ac yn craffu ar y wybodaeth yn ymwneud â'r heriau allweddol o fewn Cynllun Datblygu'r Gweithlu ac Arferion.

4g

Strategaeth Gomisiynu: ‘Ble Wyf yn ddiogel?'- Strategaeth ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a’u Teuluoedd pdf icon PDF 1 MB

Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pawb

 

Pwrpas: Ystyried a chymeradwyo’r Strategaeth ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a’u Teuluoedd.

 

Awdur: Craig Williams, Prif Gomisiynydd – Gwasanaethau Plant

 

Manylion Cyswllt: craigwilliams@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r ymagwedd yn y Strategaeth i Blant, Pobl Ifanc a'u Teuluoedd, ac y byddant yn adolygu cynnydd a'r ymagwedd yn rheolaidd.

4h

Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Pobl Mehefin 2016 pdf icon PDF 78 KB

Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir:

 

Pwrpas: Cyflwyno’r’ adroddiad Blynyddol cyntaf ar Wasanaethau Pobl i’r Cabinet, a hynny er gwybodaeth ac ar gyfer sylwadau.

 

Awdur: Tracey Harry, Pennaeth Gwasanaethau Pobl a Llywodraethiant Gwybodaeth 

 

Manylion Cyswllt: traceyharry@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn ystyried cynnwys Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Pobl ac yn nodi unrhyw faterion yr hoffent i Dîm Gwasanaethau Pobl eu hystyried yn y dyfodol.

4i

Costau Dileu Swyddi, Gwasanaethau Hamdden pdf icon PDF 205 KB

 

Dylid  gwahardd y cyfryngau a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra’n ystyried yr eitem ganlynol,  hynny ar y sail y bydd y drafodaeth yn debygol o ddatgelu gwybodaeth esempt.

 

Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir:

 

Pwrpas: Gwneud darpariaeth ar gyfer y costau o ddileu swyddi, a hynny o ganlyniad i’r Rhaglen Chwaraeon a Hamdden ac effeithlonrwydd  ar gyfer 2016/17.

 

Awdur: Ian Saunders Pennaeth Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant

 

Manylion Cyswllt: iansaunders@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo'r argymhellion yn yr adroddiad.