Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 8fed Mehefin, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

3a

Strategaeth Archwilio Tir Halogedig pdf icon PDF 210 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Ystyried yr opsiwn ar gyfer diwygio Strategaeth Archwilio Tir Halogedig yr Awdurdod.

 

Awdur: Paul White, Specialist Environmental Health Officer, Huw Owen, Principal EHO

Manylion cyswllt: paulwhite@monmouthshire.gov.uk; huwowen@monmouthshire.gov.uk  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod yr Aelodau'n nodi cynnwys yr adroddiad o'r enw 'Adroddiad ar Gynnydd - Strategaeth Archwilio Tir Halogedig Cyngor Sir Fynwy' Mai 2016 (Atodiad A), ac yn argymell mabwysiadu Opsiwn A - Mynd i'r afael â halogiad tir trwy'r cynllun cynllunio fel ymagwedd yr Awdurdod at y dyfodol..

3b

Adolygiad o Bolisi Dyledwyr Amrywiol pdf icon PDF 144 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Cytuno ar y Polisi Dyledwyr Amrywiol a gafodd ei ddiweddaru er mwyn sicrhau fod yr Awdurdod yn parhau i ddefnyddio dull gweithredu cyson a thryloyw i reoli ei ddyledion amrywiol.

 

Awdur: Ruth Donovan – Pennaeth Cynorthwyol Cyllid: Refeniw, Systemau a Thrysorlys

 

Manylioncyswllt: ruthdonovan@monmouthshire.gov.uk  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod yr Aelodau'n cymeradwyo'r Polisi Mân Ddyledwyr wedi'i diweddaru.

3c

Monitro Refeniw a Chyfalaf, Datganiad Rhagolygon All-dro 2015/16 pdf icon PDF 838 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: All

 

Diben: Diben yr adroddiad yma yw rhoi gwybodaeth i Aelodaeth ar ragolygon sefyllfa all-dro refeniw yr Awdurdod ar ddiwedd cyfnod adrodd 4 sy'n cynrychioli sefyllfa all-dro ariannol blwyddyn ariannol 2015/16.

 

Caiff yr adroddiad hefyd ei ystyried gan y Pwyllgorau Dethol fel rhan o'u cyfrifoldeb i asesu os oes monitro effeithlon ar gyllidebau; monitro i ba raddau y caiff cyllidebau eu gwario yn unol gyda'r gyllideb a fframwaith polisi a gytunwyd; herio os yw gorwariant neu darwariant arfaethedig yn rhesymol; monitro cyflawni buddion effeitholrwydd a ragwelir neu gynnydd yng nghyswllt cynigion am arbedion.

 

Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, Dave Jarrett – Uwch Gyfrifydd Cymorth Busnes

 

Manylioncyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod Aelodau'n ystyried tanwariant alldro refeniw net o £579,000, gwelliant o £878,000 ar ragolygon alldro chwarter 3.

 

Bod Aelodau'n ystyried gwariant alldro cyfalaf o £18.3m yn erbyn cyllideb wedi'i diweddaru o £18.8m, ar ôl llithriad arfaethedig o £43.7 miliwn, gan arwain at danwariant net o £508k, gyda thua £433k o hynny ar gael i'w ailgylchu ar brosiectau/blaenoriaethau eraill a argymhellir cynnal tra'n disgwyl am arolygiad o'r pwysau ychwanegol a nodwyd ym mharagraff 3.6.3.

 

Ystyried a chymeradwyo'r llithriad cyfalaf a argymhellir, gan dalu sylw i'r cynlluniau hynny ym mharagraff 3.5.4 ble mae llithriad wedi cael ei geisio gan reolwr y gwasanaeth ond nid oes argymhelliad am lithriad (£170k), a noda ni ddylai'r lefel sylweddol o lithriad sydd ei angen ar alldro ymddangos yn gynt yn y flwyddyn, gan bwysleisio pryder yn rhagolygon cyfalaf y rheolwr at y dyfodol.

 

Ystyried y defnydd o adnoddau a gynigir a nodi'r lleihad sylweddol yn lefelau'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar ddiwedd 2015-16 a'r dynodiad tebygol ar ddiwedd 2016-17.

 

Cymeradwyo ailddyrannu'r cronfeydd wrth gefn, fel y nodwyd ym mharagraff 3.9.5, yn dilyn yr adolygiad actiwaraidd o'r gronfa wrth gefn ar gyfer yswiriant ac adolygiad o weddill y cronfeydd wrth gefn bychan eraill, er mwyn mynd i'r afael â phwysau ar y cronfeydd wrth gefn a dosbarthiad y tanwariant cyffredinol wrth ychwanegu at gronfeydd wrth gefn fel a ganlyn:

·         £1 miliwn i'r gronfa wrth gefn ar gyfer Diswyddiadau a Phensiynau

·         £359k i gronfeydd wrth gefn TG

·         £350k i gronfeydd wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio

·         Cymeradwyo'r defnydd o gronfeydd wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio yn ystod 2016-17 gan ddod â'r cyfanswm i £30,835 gan fod cyfraniad ychwanegol Cyngor Sir Fynwy yn caniatáu i'r gwaith ar fenter Dêl y Ddinas barhau.

 

3d

Strategaeth Gofalwyr Sir Fynwy pdf icon PDF 430 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Cael cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cyhoeddi Strategaeth Gofalwyr Sir Fynwy 2016-2019.

 

Awdur: Bernard Boniface, Rheolwr Amddiffyn Pobl Agored i Niwed

 

Manylioncyswllt: bernardboniface@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo cyhoeddiad y strategaeth ac yn cymeradwyo'r strategaeth fel arf monitro a gwerthuso ar gyfer darpariaeth gwasanaethau a chynllunio gwasanaethau at y dyfodol ar gyfer gofalwyr a darparwyr gwasanaeth.

3e

Strategaeth Gwirfoddoli pdf icon PDF 163 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: CyflwynoDrafft Strategaeth Gwirfoddoli 2016-19

 

Awdur: Owen Wilce, Arweinydd Rhaglen, Sir sy'n Gwasanaethu

 

Manylioncyswllt: owenwilce@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo fersiwn drafft Strategaeth Gwirfoddoli - Sir Fynwy, Sir sy'n Gwasanaethu, i ganiatáu ymrwymiad ac adborth oddi wrth weithwyr, cymunedau a phartneriaid y trydydd sector cyn iddi gael ei chyflwyno i'r Cabinet eto am gymeradwyaeth.

Bod y Cabinet yn cymeradwyo ac yn hyrwyddo'r cynllun rhaglen drafft fel dogfen fyw i'w diweddaru a'i fireinio wrth o dystiolaeth ychwanegol o angen ddod i'r amlwg. Mae angen i'r ddogfen fod yn addasadwy er mwyn bodloni anghenion newidiol gwirfoddolwyr, gan fod y byd gwirfoddoli'n newid yn gyflym a rhaid i ni sicrhau ein bod yn gallu ymateb.

3f

Adroddiad Rhaglen Cyfalaf pdf icon PDF 402 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben:Gofyn am gymeradwyaeth aelodau i gynlluniau priffyrdd a chludiant fel rhan o grantiau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru a chytundebau Adran 106 yn gysylltiedig gyda datblygiadau newydd ledled Sir Fynwy fel y dangosir yn atodiad A a B.  

 

Awdur: Paul Keeble, Rheolwr Traffig a Rhwydweithiau

 

Manylioncyswllt: paulkeeble@monmouthshire.gov.uk

Penderfyniad:

Y dylid creu'r cyllidebau cyfalaf yn 2016/17 i gynnal y prosiectau a nodwyd yn 2.2 isod ac a fanylir yn Atodiad A a B, a bod y rhain yn cael eu hariannu gan gyfraniadau cyfalaf cyfatebol o'r ceisiadau grant priodol a gweddill Adran 106 a gedwir gan y Cyngor Sir a bod cyllidebau refeniw yn cael eu creu er mwyn cynnal y gwariant a nodwyd yn 2.3 dros y ddwy flwyddyn ariannol nesaf;

Y dylid cymeradwyo'r prosiectau cyfalaf a nodir isod ac a fanylir yn Atodiad A:

 

Prosiectau 2016/17

Swm

Grant Trafnidiaeth

Cynllun Gwella Cyffordd Pont Afon Gwy A466/ A40

£387,000

Pont teithio actif Y Fenni - Llan-ffwyst

£145,000

Mapio Teithio Actif

£5,000

Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau

£60,000

Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd

Dim

 

Y dylid cymeradwyo'r gwariant refeniw a nodir isod ac a fanylir yn Atodiad B:

 

Eitem 2019-19

Swm

Adran 106

Cefnogi a gwella llwybrau bws 74 a 75 yn ac o amgylch Cil-y-Coed 2016-2019

£95,000

 

3g

Cyllid Adran 106, Heol Casnewydd, Cil-y-coed pdf icon PDF 92 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Ystyriedailddyrannu hyd at £30,000 o gronfa Gwella Heol Casnewydd A106 i Gynllun Cyswllt Cil-y-coed.

 

Awdur: Debra Hill-Howells, Pennaeth Cyflenwi Cymunedol

 

Manylioncyswllt: debrahill-howells@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cytuno i ail-ddyrannu hyd at £30,000 o gronfa gwella Heol Casnewydd i alluogi prosiect Cynllun Cyswllt Cil-y-Coed.

3h

Profion Car Hydrogen pdf icon PDF 559 KB

Division/Wards Affected: All

 

Purpose: To approve the hosting of a twelve month trial of 20 Riversimple Hydrogen cell cars in Monmouthshire

 

Author: Roger Hoggins, Head of Operations; Ben Winstanley, Estates Manager

 

Contact Details: benwinstanley@monmouthshire.gov.uk

 

 

Penderfyniad:

Bod Cyngor Sir Fynwy yn cefnogi treialu Riversimple Rasa trwy ddarparu lle o fewn man agored cyfredol neu faes parcio cyhoeddus i ddarparu gorsaf ail-lenwi a lle am swyddfa/arddangosfa;

Bod y lle yn cael ei wneud ar gael trwy drwydded i Riversimple am ddim am gyfnod o hyd at ddeuddeg mis gyda'r opsiwn o'i ymestyn am ddeuddeg mis arall (os oes angen);

Bod y safle ei hun (naill ei yn y Fenni neu Drefynwy) a manylion y treial yn cael eu cymeradwyo gan y Pennaeth Gweithrediadau ar y cyd ag aelod priodol y Cabinet yn dilyn trafodaethau manwl gyda Riversimple yn ymwneud â diogelwch y cerbydau a'r man ail-lenwi;

Bod gwahoddiad yn cael ei anfon at bob aelod i fynychu cyflwyniad ar gar a chysyniad Riversimple Rasa. Y bydd hwn yn cael ei gynnal am 1.00pm cyn y Cyngor ar y 16 Mehefin 2016 (bydd y car ar gael yn Neuadd y Sir Brynbuga i aelodau ei weld);

Y bydd parcio diogel ar gyfer hyd at 20 cerbyd yn cael ei darparu yn nepo'r Rhaglan, os oes angen, ar gyfer y gyrwyr sy'n cymryd rhan yn y treial.

3i

Newidiadau i drefniadau busnes EAS pdf icon PDF 804 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Ceisio caniatâd i gytuno'n ffurfiol i'r Cytundeb Atodol i'r Cytundeb

Cydweithredu ac Aelodau (CAMA) ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS) Ebrill 2016. Mae'r cytundeb atodol hwn yn ceisio newidiadau ar y tair lefel ddilynol o lywodraethiant; gweithrediad EAS tu allan i SEWC a chyllid.

 

Awdur: Sarah McGuiness

 

Manylioncyswllt: sarahmcguiness@monmouthshire.gov.uk

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo mabwysiadau Cytundeb Atodol y Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg (EAS) (Atodiad 1) i'r Cytundeb Cydweithio ac Aelodau (CAMA) ar gyfer EAS (Atodiad 2) Ebrill 2016 fel yr esboniwyd yn yr adroddiad hwn.

3k

Ty Caerwent

Division/Wards Affected: Caerwent

 

Purpose: To update Cabinet on project progress and proposed action with regards to the Compulsory Purchase Order in relation to Caerwent House.

To seek Cabinet’s endorsement of the proposed heads of terms for the legal agreement with Spittalfields Trust and of the proposed financial arrangements.

To seek Cabinet’s endorsement that the Head of Planning be authorised to enter into the back-to-back agreement with Spittalfields Trust and to undertake any associated work in concluding the Compulsory Purchase Order proceedings.

 

Author: Amy Longford – Heritage Manager, Mark Hand – Head of Planning

 

Contact Details: amylongford@monmouthshire.gov.uk

 

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r argymhellion yn yr adroddiad.