Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
Datganiadau o Fuddiant |
|
I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm): |
|
STRATEGAETH CORONAFEIRWS: CYNNYDD A'R CAMAU NESAF PDF 782 KB Adran/Wardiau yr Effeithir arnynt: I gyd
Pwrpas: I ddarparu trosolwg o'r cynnydd ar nodau strategol y Cyngor a osodwyd gan y Cabinet yn Strategaeth y Gaeaf.
Cymeradwyo strategaeth awdurdod cyfan wedi'i diweddaru ar gyfer haf a dechrau hydref 2021 a fydd yn eistedd ochr yn ochr â'r Cynllun Corfforaethol wrth i ni barhau i ddarparu gwasanaethau yng nghyd-destun y pandemig.
Awduron:Matthew Gatehouse, Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu Emma Davies, Swyddog Perfformiad
Manylion Cyswllt: matthewgatehouse@monmouthshire.gov.uk Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod y Cabinet yn sicrhau eu hunain am y cynnydd a wnaed ar y diben a nodau strategol a gafodd eu rhoi ar waith yn Strategaeth y Gaeaf ac yn defnyddio hyn i lywio gweithgaredd y dyfodol.
Bod y Cabinet yn ffurfiol yn cymeradwyo’r diben a’r nodau strategol a gyflwynir yn y strategaeth ddiweddaraf a gynhwysir yn atodiad 2 ar gyfer haf a dechrau hydref 2021.
Bod y Cyngor yn ymrwymo i ddatblygu dogfen cynllunio tymor canol mwy sylfaenol i gael ei hystyried ddiwedd yr hydref eleni.
|
|
Adran/Wardiau yr Effeithir arnynt: I gyd
Pwrpas: Sicrhau bod Sir Fynwy yn chwarae ei rhan wrth letya a chefnogi nifer fach o geiswyr lloches fel rhan o'r weledigaeth i Gymru fod yn genedl noddfa sy'n darparu hafan ddiogel i'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth.
Awdur: Matthew Gatehouse, Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu
Manylion Cyswllt: matthewgatehouse@monmouthshire.gov.uk tthewgatehouse@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod yr awdurdod yn cadarnhau’n ffurfiol ymrwymiad mewn egwyddor i chwarae ei rhan yn y cynllun cenedlaethol i gynnig llety i’r rhai sy’n ceisio lloches tra bod eu hawliadau’n cael eu prosesu, gan ddod yn sir noddfa ar gyfer rhai sy’n ffoi rhag erledigaeth.
|
|
DATGANIAD ALL-DRO REFENIW A CHYFALAF 2020/21 PDF 704 KB Adran/Wardiau yr Effeithir arnynt: I gyd
Pwrpas:Pwrpas yr adroddiad hwn yw rhoi gwybodaeth i Aelodau am sefyllfa canlyniad refeniw a chyfalaf yr Awdurdod yn seiliedig ar lithrant gyfalaf a defnydd a gohiriad cronfa wrth gefn.
Byddyr adroddiad hwn hefyd yn cael ei ystyried gan Bwyllgorau Dethol fel rhan o'u cyfrifoldeb i,
• asesua yw monitro cyllideb effeithiol yn digwydd, • monitro i ba raddau y mae cyllidebau'n cael eu gwario yn unol â'r fframwaith cyllideb a pholisi cytunedig, • heriorhesymoldeb gor-amcanestyniadau neu danwariant, a • monitrocyflawniad enillion neu gynnydd effeithlonrwydd a ragwelir mewn perthynas â chynigion arbedion.
I roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith ariannol y pandemig Covid-19 ar y Cyngor.
Awdur: Peter Davies, Dirprwy Brif Weithredwr (Prif Swyddog Adnoddau) Jonathan Davies, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Dros Dro (Dirprwy swyddog S151)
ManylionCyswllt: peterdavies@monmouthshire.gov.uk Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod y Cabinet yn cydnabod sefyllfa cyllideb refeniw net gytbwys ar all-dro ar ôl cyfrifo am drosglwyddiadau i gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd sy’n cynrychioli gwelliant sylweddol o £5.15m o’r cyfanswm diffyg a adroddwyd ym mis 9, yn bennaf fel canlyniad i: · Derbyn £5.9m o gyllid caledi Covid-19 Llywodraeth Cymru ers mis 9 fel iawndal i’r Cyngor i gefnogi costau uwch darparu gwasanaethu a cholli incwm fel canlyniad uniongyrchol i effaith Covid-19; · Derbyn grantiau sylweddol heb fod yn y gyllideb gan Lywodraeth Cymru a gafodd eu cyfathrebu i a’u derbyn gan yr Awdurdod yn hwyr yn y flwyddyn ariannol ac sydd wedi gwrthbwyso cyllid cyllideb craidd; · Tanwariant mewn llawer o feysydd gwasanaeth fel canlyniad i’r pandemig a lle cafodd gwasanaethau eu gostwng neu eu stopio, lle cafodd gofynion teithio eu gostwng, lle arhosodd swyddfeydd ac adeiladau ar gau a bod nifer sylweddol o swyddi gwag wedi parhau heb eu llenwi.
Bod Aelodau yn cydnabod bod Cronfa Galedi Covid-19 Llywodraeth Cymru wedi cynnwys yr holl gostau ychwanegol yn gysylltiedig â Covid-19 a gafwyd yn uniongyrchol yn ystod blwyddyn ariannol £11.25m ynghyd ag iawndal am golli incwm o £8.38m.
Bod Aelodau’n nodi y cafodd 85% o’r arbedion gwasanaeth penodol a nodwyd yn y gyllideb fel y manylir yn Atodiad 2 ac fel y cytunwyd gan y Cyngor llawn yn flaenorol a’r camau gweithredu unioni goblygedig/arbedion a gynhwysir yn yr all-dro ariannol i wneud iawn am tua 15% o arbedion (£734k) y dywedodd rheolwyr gwasanaeth eu bod wedi oedi neu na fedrid eu cyflawni.
Bod Aelodau’n cymeradwyo’r strategaeth a weithredwyd i adlenwi cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd fel y’u nodwyd o fewn yr adroddiad i gefnogi heriau ariannol y dyfodol a sicrhau cadernid ariannol mewn cyfnod o ansicrwydd sylweddol wrth i ni barhau i gael adferiad o’r pandemig ac wrth i ddarpariaeth ein gwasanaethau newid yng ngoleuni tirlun economaidd-gymdeithasol sylweddol wahanol ac wrth i ymrwymiadau polisi ehangach, yn lleol ac yn genedlaethol, ddechrau cymryd siâp.
Wrth ddilyn y dull gweithredu a nodir uchod, mae’r Cabinet yn cydnabod natur arbennig blwyddyn ariannol 2020/21 ac yn derbyn bod pwysau a risgiau sylweddol cylchol yn dal i fod ar wasanaethau yn 2021/22 ac yn y tymor canol.
Mae’r Cabinet yn nodi’r gwelliant digynsail mewn balansau cronfeydd wrth gefn Ysgolion o £3.85m fel y’i cynhwysir yn Atodiad 1 sydd wedi arwain at i 15 o’r 17 ysgol a ddechreuodd y flwyddyn mewn diffyg ddychwelyd i falans gwarged. Mae hyn yn adlewyrchu’r lefelau sylweddol o gymorth grant gan Lywodraeth Cymru a hysbyswyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol yn bennaf yn ymwneud â Grant Cynhaliaeth Refeniw Ysgolion a Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau.
Mae’r Cabinet yn cymeradwyo’r gofyniad i ysgolion sydd â balansau gwarged sylweddol sy’n uwch na’r lefelau a nodir gan Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau buddsoddi yn nodi sut y bwriadant wario eu balansau gwarged sylweddol, gan hefyd werthfawrogi fod y diffygion strwythurol cynhenid sydd wedi arwain at i 17 ysgol fod mewn diffyg ar ddechrau’r flwyddyn yn parhau ac angen eu datrys pa bynnag gyllid ... view the full Penderfyniad text for item 3c |
|
Adran/Wardiau yr Effeithir arnynt: I gyd
Pwrpas: Ystyried cynigion y Cyngor ar gyfer eu cyflwyno i ddau gyfle cyllido gan Lywodraeth y DU; Cronfa Lefelu i Fyny a'r Gronfa Adnewyddu Cymunedol a darparu trosolwg strategol o'r prosiectau sy'n dod i'r amlwg a'r meysydd blaenoriaethol.
Awdur: Frances O'Brien, Prif Swyddog Menter
Manylion Cyswllt: francesobrien@monmouthshire.gov.uk Penderfyniad: Cymeradwyo’r cyfeiriad teithio strategol a nodir yn yr adroddiad a nodi’r meini prawf a dyddiadau cau ar gyfer cynigion sy’n diffinio siâp y prosiectau sy’n gymwys i’w cyflwyno.
|
|
NEUADD Y SIR / AMGUEDDFA TREFYNWY PDF 153 KB Adran/Wardiau yr Effeithir arnynt: Drybridge
Pwrpas: Diweddaru aelodau gyda chynnydd ar yr astudiaeth ddichonoldeb i sefydlu Cyrchfan ddiwylliannol newydd yn Neuadd y Sir Trefynwy gan gynnwys adleoli’r Amgueddfa Trefynwy cyfredol a'r adolygiad o storio casgliadau amgueddfeydd.
Cynnig dull graddol o ymdrin â'r ddarpariaeth newydd
Awduron a Manylion Cyswllt: Ian Saunders - Prif Swyddog Gweithredol MonLife — E-bost: iansaunders@monmouthshire.gov.ukFfôn: 07876545793
Matthew Lewis - Rheolwr yr Amgylchedd a Diwylliant MonLife E-bost: matthewlewis@monmouthshire.gov.uk Ffôn: 07990783165
Tracey Thomas - Rheolwr Ymgysylltu a Datblygu'r Gweithlu MonLife E-bost: traceythomas@monmouthshire.gov.uk Ffôn: 07818 016924 Matthew Lewis – Environment & Culture Manager MonLife Email: matthewlewis@monmouthshire.gov.uk Tel: 07990783165
Tracey Thomas - Engagement and Workforce Development Manager MonLife Email: traceythomas@monmouthshire.gov.uk Tel: 07818 016924
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi’r cynnydd wrth gynnal astudiaeth dichonoldeb i sefyll cynnig diwylliannol newydd yn Neuadd y Sir yn cynnwys Amgueddfa Trefynwy ac adolygu storfa casgliadau’r amgueddfa.
Cymeradwyo sefydlu cam dechreuol o fewn Neuadd y Sir a chadarnhau na fydd Amgueddfa Trefynwy yn ailagor yn Neuadd y Farchnad.
Ailagor ardaloedd allweddol o Neuadd y Sir ar gyfer defnydd y cyhoedd, yn amodol ar reoliadau Covid ac unrhyw gyflyniadau angenrheidiol i alluogi cwblhau darpariaeth cam 1 yn cynnwys arddangosiadau dros dro yr amgueddfa.
Mae’r Cabinet yn argymell i’r Cyngor y dylid rhoi cyfraniad o £250,000 o dderbyniadau cyfalaf i hwyluso cam cyntaf y gwaith, a bydd hynny yn ei dro hefyd yn rhoi cyfraniad arian cyfatebol i gynnig y Gronfa Codi’r Gwastad ar gyfer Trefynwy a fyddai, os yw’n llwyddiannus, yn ei gwneud yn bosibl cyflawni’r weledigaeth tymor hirach.
Adroddiadau’r dyfodol i gael eu cyflwyno i’r Cabinet wrth i’r cynigion hirdymor ar gyfer Neuadd y Sir, Trefynwy a storfa casgliadau’r amgueddfa gael eu datblygu ymhellach.
|
|
Adran/Wardiau yr Effeithir arnynt: I gyd
Pwrpas: I ddarparu trosolwg o newidiadau i drefniadau staffio sy'n creu Tîm Dylunio Digidol ac Arloesi newydd, cryfhau ein trefniadau llywodraethu gwybodaeth ac ehangu cylch gwaith y tîm perfformiad presennol i gynnwys dadansoddeg ddata.
Ceisiocymeradwyaeth ar gyfer y cyfeiriad strategol a gymerir gan y timau hyn sydd wedi'u hail-bwrpasu wrth iddynt ddefnyddio buddsoddiad y cytunwyd arno fel rhan o broses gyllideb 2021-22 i drawsnewid sut rydym yn diwallu anghenion a chyflawni ein pwrpas y tu hwnt i'r pandemig ac i'r cam nesaf o ddatblygiad ein sefydliad a'n sir.
Awdur: Matthew Gatehouse, Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu Sian Hayward, Pennaeth Digidol
ManylionCyswllt: matthewgatehouse@monmouthshire.gov.uk Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo’r cyfeiriad teithio a nodir o fewn y papur hwn fydd yn galluogi’r cyngor i adeiladu ar lwyddiannau hyd yma a symud yn gyflymach i sicrhau trawsnewid gwasanaethau yn unol â’r cyfeiriad strategol a nodir o fewn y Cynllun Corfforaethol.
Caiff y costau i weithredu’r cynigion eu cyllido drwy ddarpariaeth cyllideb o £300k a gynhwysir yng nghyllideb 2021/23 a’r Rhagolygon Ariannol Tymor Canol gyda’r gweddill yn dod o gyllidebau gwasanaeth presennol.
|
|
GWEITHGOR CRONFA EGLWYSI CYMRU PDF 125 KB Adran/Wardiau yr Effeithir arnynt: I gyd
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw gwneud argymhellion i'r Cabinet ar yr Amserlen Ceisiadau ar gyfer cyfarfod 1 Gweithgor Cronfa Eglwysi Cymru a gynhaliwyd ar 15fedEbrill 2021 a chyfarfod 2 a gynhaliwyd ar 13eg Mai 2021
Awdur: David Jarrett - Uwch Gyfrifydd - Cymorth Busnes Cyllid Canolog
ManylionCyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Dyfarnu’r grantiau yn ôl y rhestr ceisiadau.
|