Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Nodyn: To view meeting: https://join-emea.broadcast.skype.com/monmouthshire.gov.uk/98d9e01e4f2d4cac836b8763f0c05b14
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
Datganiadau o Fuddiant |
|
I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm): |
|
CYFRANIADAU A106 - SAFLEOEDD GWLEDIG PDF 4 MB Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Cil-y-coed, Cas-gwent, Mill, The Elms a Llanelly Hill
Pwrpas:Yn argymell i’r Cyngor llawn y dylid cynnwys y cyllid cyfalaf yn Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2019/20; Yn argymell defnyddio’r balans A106 sydd wedi ei gasglu i ariannu nifer o brosiectau gwledig/seilwaith gwyrdd yn y sir.
Awdur:Colette Bosley, Prif Swyddog Tirlunio; Mike Moran, Cydlynydd Seilwaith Cymunedol Manylion Cyswllt:colettebosley@monmouthshire.gov.uk; mikemoran@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mae’r Cabinet yn cytuno ar greu cyllideb o of £21,689 yn 2019/20 i ariannu’r prosiectau canlynol a bod hyn yn cael ei ariannu gan gyfraniad cyfatebol gan arian o’r balans Adran 106 sydd gan y Cyngor Sir fel rhan o’r Cytundebau Adran 106 sydd yn ymwneud â’r datblygiadau canlynol:
Cod Cyllid Safle Cyfraniad £ N588 Safle Bragdy AB Inbev, Magwyr 5,000 N585 Safle Gwasanaethau Rhaglan A449 1,968 N582 Safle Little Mill Sawmill 2,329 N464 Warrenslade Wood, Cas-gwent 12,392 Cyfanswm £21,689
Mae’r cyllid uchod i’w neilltuo i’r prosiectau canlynol: Prosiect Swm 1. Llwybrau cerdded Magwyr, hygyrchedd a hyrwyddo £5,000 2. Gweithredu Cynllun Rheoli Castell Cil-y-coed £4,297 3. Rheoli Coetir Warrenslade £12,392
Mae’r balans sy’n weddill a heb ei glustnodi, sef £23,020 o ddatblygiad Cae Meldon yng Ngilwern, o dan cod cyfalaf 98881, i’w ddefnyddio er mwyn ariannu yn rhannol Cynllun Gwella Gweithfeydd Haearn Clydach. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU SEILWAITH DIGIDOL PDF 278 KB Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob Un
Pwrpas: Ystyried cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu Seilwaith Digidol drafft (Atodiad A).
Awdur: Cath Fallon, Pennaeth Mentergarwch a Bywiogi Cymunedau Manylion Cyswllt: cathfallon@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu Seilwaith Digidol atodedig, ac wrth wneud hyn, byddant hefyd yn cymeradwyo’r argymhellion canlynol, hynny yw bod y Cyngor yn:
1. Mabwysiadu sefyllfa polisi er mwyn bod yn rhagweithiol wrth annog darparwyr band eang i gyflwyno seilwaith band eang ffeibr yn y Sir; 2. Sefydlu Gr?p Gwaith Band Eang Strategol er mwyn sicrhau agwedd rhagweithiol er mwyn sicrhau bod holl brosesau’r Cyngor yn cael eu hwyluso i ganiatáu i ddarparwyr band eang i symud ar gyflymder; 3. Ystyried benthyciadau masnachol i gwmnïau sydd yn dymuno gweithredu prosiectau seilwaith digidol o fewn y sir a fydd yn mynd i’r afael gyda materion amddifadedd digidol; a 4. Ystyried unrhyw gyfleoedd yn llawn i ymgysylltu gyda chyfleoedd cyllido er mwyn gosod 5G a Seilwaith LoRaWAN o fewn y Sir lle y mae yna dystiolaeth o ran angen, yn agor y Sir fel arbrawf rhanbarthol a braenaru ar gyfer yr amrywiaeth o geisiadau sydd i’w datblygu o ganlyniad i hyn. |
|
Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob Un
Pwrpas: Y pwrpas yw cwrdd â disgwyliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod ei adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r hyn yr ydym yn ei wneud.
Yn darparu manylion o adborth cwsmeriaid Awdurdod Cyfan y Cyngor.
Awdur: Annette Evans, Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid Manylion Cyswllt: annetteevans@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae’r Cabinet yn nodi cynnwys llythyr blynyddol PSOW (Atodiad 1) ac yn hysbysu’r PSOW o’u hystyriaethau ac yn cynnig unrhyw gamau erbyn 31 Hydref 2019.
Mae’r Cabinet yn nodi cynnwys adroddiad blynyddol Awdurdod Cyfan y Cyngor (Atodiad 2).
Bydd y DMT yn adolygu ei berfformiad yn delio gyda chwynion, yn gwella’r gwasanaeth y mae’n yn darparu, yn ystyried y dystiolaeth a ddaw o’r cwynion sydd wedi eu derbyn.
Bydd y DMT yn monitro ymatebion i gwynion a’n ffocysu ar arferion da a chydymffurfiaeth. |
|
CYTUNDEBAU PARTNERIAETH YSGOLION A GYNHELIR PDF 186 KB Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob Un
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad yw i aelodau gytuno gyda’r Cytundebau Partneriaeth Statudol wedi iddynt ystyried y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn ystod y cyfarfod yn Ionawr 2019.
Awdur: Cath Saunders, Rheolwr Llywodraethiant, CYP Manylion Cyswllt: cathsaunders@monmouthshire.gov.uk Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: WEDI EI DDATRYS: Mae’r Cabinet yn cytuno gyda’r Cytundeb Partneriaeth Statudol. Agreement. |
|
GLINIADURON W10 NEWYDD PDF 169 KB Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob Un
Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn chwilio am gyllid er mwyn disodli neu uwchraddio'r stoc o liniaduron gwaith, gan sicrhau eu bod oll o leiaf yn defnyddio Windows 10 ac yn cwrdd â’n gofynion diogelwch o ran TGCh.
Awdur:Sian Hayward Manylion Cyswllt: sianhayward@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad: WEDI EI DDATRYS: Mae’r Cabinet yn cymeradwyo’r defnydd o gyllid cyfalaf neu refeniw un tro o £239,300 er mwyn sicrhau bod ein gweithlu a’n cyfarpar ar y safle yn cwrdd â’r gofynion diogelwch isafswm o ran system weithredol Windows 10 erbyn Ionawr 2020.
Mae’r Cabinet yn cymeradwyo taliad ychwanegol un tro o’r gyllideb cyfarpar ychwanegol o £67,000 er mwyn delio gydag adnewyddiadau cyfarpar gweithredol ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol.
Mae’r Cabinet yn cydnabod y pwysau cynyddol ar y gyllideb cyfarpar canolog sydd yn deillio o gynnydd mewn teclynnau cyffredinol ynghyd â gostyngiad yn oes y gliniaduron. Er mwyn mynd i’r afael gyda hyn, rydym yn gofyn i’r Cabinet i ystyried cymeradwyo’r pwysau hwn fel rhan o’r broses o osod y gyllideb flynyddol. |
|
ADNODDAU - CANIATÁU CYNGOR SYDD YN FFOCYSU AR Y DYFODOL PDF 124 KB Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob Un
Pwrpas: Ystyried cynigion ar gyfer strwythur y Tîm Rheoli newydd ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Adnoddau, strwythur diwygiedig o ran yr uwch gyllid ac ailstrwythuro’r timau yn Adnoddau Dynol, y Swyddfa Rhaglen Ddigidol a’r timau Gwasanaethau Masnachol a Landlordiaid Integredig.
Yn cryfhau’r trefniadau cyfredol gyda’r timau cyllid datganoledig o fewn y cyfarwyddiaethau Plant a Phobl Ifanc a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.
Bydd y Rhaglen Swyddfa Ddigidol yn cymryd cyfrifoldeb am lywodraethiant a diogelwch gwybodaeth.
Awdur:Peter Davies, Prif Swyddog ar gyfer Adnoddau Manylion Cyswllt: peterdavies@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: WEDI EI DDATRYS: Yn cymeradwyo strwythur DMT Adnoddau newydd. (Atodiad 1a)
Yn cymeradwyo’r uwch strwythur gyllid a chreu rôl newydd fel Pennaeth Gwasanaeth (Pennaeth Cyllid Prosiectau) a thîm Cyllid Prosiectau er mwyn cefnogi’r broses o ddarparu prosiectau sydd o bwys strategol. (Atodiad 5)
Cymeradwyo ailstrwythuro’r timau yn Adnoddau Dynol, y DPO a’r timau Gwasanaethau Masnachol a Landlord Integredig. (Atodiadau 2, 3 a 4)
Diweddaru’r swydd-ddisgrifiadau ar gyfer y Rheolwyr Cyllid o fewn y cyfarwyddiaethau Plant a Phobl Ifanc a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a’r Rheolwr Cyllid Dros Dro yn MonLife er mwyn sicrhau bod yna eglurder o ran atebolrwydd i’r Prif Swyddog ar gyfer Adnoddau, y Swyddog A151 a’r Dirprwy Swyddog A151 ar gyfer materion proffesiynol, technegol a chyllidol statudol ac er mwyn sicrhau rheolaeth gyllidol, rheoli a llywodraethiant effeithiol ar draws yr Awdurdod cyfan.
Bydd gweithredu’r cynigion ailstrwythuro llawn yn cynnig arbedion ariannol cychwynnol o £32,000 yn y flwyddyn gyllidol yn 19/20. Mae disgwyl i hyn gynyddu i isafswm o £150,000 ym mlwyddyn ariannol 20/21 ac isafswm o £250,000 ym mlwyddyn ariannol 21/22.
Bydd y sefydliad cymeradwy yn tyfu o ran y nifer o swyddi parhaol i 16.86, ac ni fydd 2 o’r rhain yn cael eu llenwi yn y tymor byr, ac mae mwy o fanylion a’r rhesymeg wedi eu cynnwys ym mhara 3.10.
Bydd y model cyllido yn profi gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer ffioedd proffesiynol allanol o £25,000, gostyngiad yn y gyllideb goramser o £17,000 ac incwm masnachol o £201,000. Wrth wneud hyn, byddwn yn sicrhau arbedion maint mewnol priodol / creu cymysgedd o sgiliau a fydd yn cynnig sicrwydd / buddiannau o ran lles staff yn y rhaglenni a’r prosiectau sydd yn cael eu cyflenwi.
Bydd y newidiadau yn cael effaith ar gytuneddau lefel gwasanaeth / ni fydd perthnasau codi ffioedd gydag ysgolion yn cael eu gweithredu/ tan ei fod yn eglur bod yr ysgolion yn cefnogi’r newidiadau arfaethedig / yn derbyn unrhyw addasiadau o ran codi ffioedd sydd yn disgyn o fewn cyllidebau’r ysgol.
Mae unrhyw gostau sydd yn ymwneud gyda gweithredu’r strwythur (e.e. costau diswyddo) i’w talu o gyllideb Adnoddau ond os yw hyn yn annigonol, bydd yna gais m gyllid corfforaethol i dalu am gostau diswyddo un tro.
Mae’r Prif Swyddog ar gyfer Adnoddau yn bwrw ymlaen gyda gweithredu’r strwythur newydd ac yn gwneud unrhyw addasiadau sydd yn dod yn amlwg yn ystod y broses gan ymgynghori gyda’r aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau. |
|
PARODRWYDD AR GYFER BREXIT PDF 112 KB Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob Un
Pwrpas: Darparu diweddariad ar ffurf gwybodaeth yn unig i Aelodau am Barodrwydd y Cyngor i ddelio gyda Brexit, a hynny’n dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor ar 11eg Ebrill 2019.
Awdur:Frances O’Brien, Prif Swyddog ar gyfer Mentergarwch Manylion Cyswllt: francesobrien@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad: WEDI EI DDATRYS: Dim penderfyniad – er gwybodaeth yn unig. |