Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Nodyn: View the meeting: https://join-emea.broadcast.skype.com/monmouthshire.gov.uk/f966fe92da08431094c6f743ea8d897c
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
Datganiadau o Fuddiant |
|
I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm): |
|
CYNNIG BUDDSODDI AR GYFER CANOLFAN HAMDDEN CIL-Y-COED PDF 90 KB Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Glannau Hafren
Diben:Ceisio cefnogaeth y Cabinet i ddechrau darn sylweddol o waith fydd yn arwain ar raglen adnewyddu sylfaenol ar Ganolfan Hamdden Cil-y-coed yr amcangyfrifir ei fod tua £5.5 miliwn - 6 miliwn.
Awdur: Ian Saunders, Pennaeth Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant ac Ieuenctid.
Manylion Cyswllt: iansaunders@monmouthshire.gov.uk
|
|
DRAFFT STRATEGAETH PRENTISIAID, GRADDEDIGION AC INTERNAU (AGI) PDF 2 MB Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan
Diben: Cyflwyno drafft Strategaeth Prentisiaid, Graddedigion ac Internau (AGI) (2019-22) a'r blaenoriaethau a gynhwysir ynddo. Hysbysu aelodau am y bwriad i greu swydd Cydlynydd AGI i oruchwylio gweithredu Strategaeth AGI.
Awdur: Hannah Jones – Rheolwr Menter Ieuenctid
Manylion Cyswllt: hannahjones@monmouthshire.gov.uk Penderfyniad: Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Strategaeth Ddrafft ar gyfer Prentisiaid, Graddedigion ac Interniaethau, fel yn Atodiad 3. |
|
SEFYDLU MED TECH (MMT) SIR FYNWY PDF 211 KB Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan
Diben:Ymrwymo i dyfu'r sector technoleg feddygol yn Sir Fynwy ac i arddangos yr ymrwymiad hwn drwy sefydlu Med Tech (MMT) Sir Fynwy.
Awdur: Frances O’Brien – Prif Swyddog Menter
Manylion Cyswllt: FrancesOBrien@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad: Bod y Cabinet yn cymeradwyo cyllid o'r cronfeydd wrth gefn i fwrw ymlaen â threfniant peilot a fyddai'n cynnwys:
· £50 mil i sefydlu swyddfa gymorth MMT; · gallu i'r Pwyllgor Buddsoddi awdurdodi benthyciadau â llog wedi'u sicrhau o hyd at £25 mil i gwmnïau targed cyn cyfnod refeniw sy'n cael eu lleoli yn yr MMT; · gallu i'r Pwyllgor Buddsoddi fuddsoddi mewn cwmnïau targed sy'n dod drwy'r MMT lle y bo'n briodol; a · ffi untro o £50 mil i bartner MMT y Cyngor.
|
|
MENTER - SICRHAU CYDBWYSEDD A CHRYFHAU'R LLINELL FLAEN PDF 89 KB Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan
Diben: Ceisio cymeradwyaeth i aildrefnu swyddi a chyfrifoldebau o fewn y Gyfarwyddiaeth Fenter i gydbwyso llwyth gwaith, adlewyrchu synergedd mewn rolau a gwasanaethau ac i adlewyrchu gofynion gwasanaeth a phrosiectau yn well mor bell ag sy'n bosibl o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Creu capasiti ychwanegol o fewn y gwasanaethau rheng flaen lle dynodwyd gofynion sylweddol.
Creu cyfleoedd ehangu/dilyniant gyrfa tra'n rhyddhau adnoddau i gynnal gwaith seiliedig ar brosiect a chefnogaeth gyffredinol i Uwch Dîm Rheoli Menter.
Awdur: Frances O’Brien, Prif Swyddog Menter
Manylion Cyswllt: francesobrien@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo'r buddsoddiad i swyddi newydd i gefnogi'r galw am wasanaethau a'r strategaeth ariannu a ddisgrifir yn yr adroddiad (Atodiad 2 a 3).
Cymeradwyo strwythur a rolau a chyfrifoldebau newydd UDRh y Fenter (Atodiad 1B).
Bod y Prif Swyddog Menter yn bwrw ymlaen â'r gwaith o weithredu'r strwythur newydd ac yn gwneud unrhyw newidiadau a allai ddod yn amlwg yn ystod y broses gan ymgynghori ag aelod o'r Cabinet am adnoddau. |
|
CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR FYNWY: CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL TAI FFORDDIADWY DIWYGIEDIG PDF 259 KB Adrannau/Wardiau yr effeithiwyd arnynt: Cyfan
Diben: Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cytundeb y Cabinet i fabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy mewn cysylltiad gyda'r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd ar gyfer Sir Fynwy. Mae hyn yn rhoi pwysau i'r Canllaw fel ystyriaeth cynllunio sylweddol wrth wneud penderfyniad.
Awdur: Mark Hand, Pennaeth Cynllunio, Tai, a Llunio Lle; Louise Corbett, Uwch Swyddog Strategaeth a Pholisi, Tai a Chymunedau.
Manylion Cyswllt:markhand@monmouthshire.gov.uk louisecorbett@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi'r adborth i'r ymgynghoriad a'r ymatebion arfaethedig.
Mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio atodol diwygiedig ar gyfer tai fforddiadwy mewn cysylltiad â chynllun datblygu lleol mabwysiedig Sir Fynwy. |
|
DATGANIAD ALL-DRO MONITRO REFENIW A CHYFALAF 2018/19 PDF 373 KB Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan.
Diben: Diben yr adroddiad yw rhoi gwybodaeth i Aelodau ar sefyllfa all-dro refeniw a chyfalaf yr Awdurdod yn seiliedig ar lithriad cyfalaf a chymeradwyo a gohirio cronfeydd wrth gefn.
Caiff yr adroddiad hefyd ei ystyried gan y Pwyllgorau Dethol fel rhan o'u cyfrifoldeb i:
• asesu os oes monitro cyllideb effeithlon yn digwydd, • monitro i ba raddau y caiff y cyllidebau eu gwario yn unol â'r gyllideb a fframwaith polisi a gynlluniwyd, • herio rhesymoldeb darogan gorwariant neu danwariant, a • monitro cyflawni enillion enillion neu gynnydd affeithioldeb a ragwelir neu gynnydd yng nghyswllt cynigion arbedion.
Awdur: Peter Davies – Prif Swyddog – Adnoddau; Dave Jarrett – Uwch Gyfrifydd Cymorth Busnes
Manylion cyswllt: peterdavies@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad: Bod y Cabinet yn ystyried rhagolwg refeniw net o ddiffyg o £2.4 miliwn, a chynllun adfer sy'n esblygu’n angenrheidiol i ddychwelyd sefyllfa gytbwys cyn diwedd Mawrth 2020.
Bod y Cabinet yn nodi cyrhaeddiad 88% o’r arbedion gosod cyllid y cytunwyd arnynt gan y Cyngor llawn yn flaenorol, a bod angen cymryd camau/arbedion mewn perthynas â'r arbedion o 12% (£748 mil) a nodwyd fel wedi’u hoedi neu’n anghyraeddadwy gan reolwyr gwasanaeth.
Bod y Cabinet yn ystyried y gwariant alldro cyfalaf o £35.493 miliwn, gan gyflwyno gorwariant disgwyliedig o £24 mil, a'r rhagdybiaethau a wnaed ynghylch canlyniadau cyllid net fel ym mharagraff 3.19.
Bod Cabinet yn nodi graddau'r symudiadau mewn defnydd wrth gefn, gan gynnwys gwariant unigol a gyllidebwyd ar gyfer balansau ysgolion, a'u heffaith ar dybiaethau cynllunio ariannol darbodus cyfredol fel yr amlinellir ym mharagraff 5.2. |
|
CYFRANIADAU ADDYSG ADRAN 106 YN GYSYLLTIEDIG AG YSGOL GYNRADD GILWERN PDF 72 KB Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan
Diben:Ystyried telerau defnydd balansau addysg gweddilliol yn deillio o gyfraniadau addysg Adran 106 o ddatblygiadau tai T? Mawr a Cae Meldon.
Awdur: Matthew Jones, Rheolwr Ysgolion a Mynediad Myfyrwyr. Manylion Cyswllt: matthewdjones@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod Cabinet yn cymeradwyo gwariant cyfraniadau addysg Cyfalaf Adran 106 sy'n weddill ar welliannau i fangre’r cyfnod sylfaen yn Ysgol Gynradd Gilwern |
|
CYFRANIADAU ADDYSG ADRAN 106 YN GYSYLLTIEDIG AG YSGOL GYMRAEG Y FENNI PDF 71 KB Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan
Diben:Ystyried telerau defnydd balansau addysg yn deillio o gyfraniadau addysg adran 106 yn gysylltiedig â datblygiad tai Fferm Deri, y Fenni.
Awdur: Matthew Jones, Rheolwr Ysgolion a Mynediad Myfyrwyr
Manylion Cyswllt: matthewdjones@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo gwariant cyfraniadau addysg Cyfalaf Adran 106 arfaethedig i gynyddu'r amgylchedd addysgu a dysgu yn Ysgol Gymraeg Y Fenni. |
|
GWEITHGOR CRONFA EGLWYSI CYMRU PDF 58 KB Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan
Diben: Diben yr adroddiad hwn yw gwneud argymhellion i'r Cabinet ar y Rhestr Ceisiadau ar gyfer cyfarfod 4 Gweithgor Cronfa Eglwysi Cymru a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2019.
Awdur: David Jarrett – Uwch Gyfrifydd - Cymorth Busnes Cyllid Canolog
Manylion Cyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod y grantiau'n cael eu dyfarnu yn unol â'r rhestr ceisiadau. |