Agenda and minutes

EXTRAORDINARY, Cyngor Sir - Dydd Mercher, 4ydd Mai, 2016 4.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

3.

Penodiad i rôl Swyddog Monitro / Pennaeth Cyfreithiol

Cofnodion:

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau am eu presenoldeb ac eglurodd mai diben y sesiwn oedd penodi Swyddog Monitro. Trafodwyd newidiadau strwythurol yng nghyfarfod y Cabinet cyn y cyfarfod, ac fe’i hystyrid yn amser priodol i wneud trefniadau parhaol am Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol.

 

Clywsom fod y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol cyfredol a’r Swyddog Monitro Dros Dro,  Mr. R. Tranter, wedi bod drwy broses gyfweld drwy gydol y bore a’i fod nawr yn bresennol i’w gyfweld gan y Cyngor llawn.

 

Croesawyd yr ymgeisydd a roddodd gyflwyniad ac a gyfwelwyd gan y Cyngor. Gofynnwyd i’r ymgeisydd wedyn adael y siambr.

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr yr adborth a dderbyniwyd. Argymhellodd Arweinydd y Cyngor ein bod yn cynnig y swydd i Mr. Tranter, ac eiliwyd hyn gan Arweinydd yr Wrthblaid. Cytunodd yr Aelodau’n unfrydol â’r argymhelliad. 

 

Dychwelodd Mr. Tranter i’r cyfarfod, derbyniodd y penodiad, a llongyfarchwyd ef gan Aelodau a swyddogion.