Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 16eg Mehefin, 2016 5.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau oddi wrth aelodau’r cyhoedd.

 

3.

Adroddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau. pdf icon PDF 252 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor a nodi adroddiad y Cadeirydd.

 

Ni chyflwynwyd unrhyw ddeisebau.

 

Cydnabu’r Cyngor y Faner Enfys wedi’i hanner-gostwng, a ystyrid yn briodol o gofio’r amgylchiadau yn Orlanda lle saethwyd a lladdwyd 50 o bobl mewn clwb nos. Mynegodd y Cadeirydd fod meddyliau diffuant y Cyngor gyda pherthnasau a ffrindiau’r rheiny oedd yn y trychineb. Cynhaliodd y Cyngor funud o dawelwch.

 

Cynghorodd y Cadeirydd fod nifer o bobl ar draws Sir Fynwy wedi’u hanrhydeddu yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, ac estynnodd longyfarchiadau i’r canlynol:

 

·         Y Capten Gyrnol Andrew Tuggey, Is-Arglwydd Raglaw Gwent, a ddyfarnwyd y CBE;

·         Mr. J. Rowlands, a ddyfarnwyd y BEM am ei wasanaeth i Neuadd Goffa Hood;

·         Sarah Byford, a ddyfarnwyd yr MBE;

·         Mrs. Jane Hart, a ddyfarnwyd yr MBE.

 

Clywsom y newydd trist am yr Aelod Seneddol Llafur Jo Cox yr ymosodwyd arni, ac a gollodd ei bywyd yn hwyrach, yn Swydd Efrog. Talodd y Cyngor barch iddi mewn munud o dawelwch.

 

 

4.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan Aelodau.

 

5.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion y dilynol:

5a

Dydd Mercher, 4 Mai 2016 - Cyfarfod Arbennig pdf icon PDF 10 KB

Cofnodion:

Cofnodwyd, cafwyd yn gywir a llofnodwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 4ydd Mai 2016.

 

5b

Dydd Mawrth, 10 Mai 2016 - Cyfarfod Blynyddol pdf icon PDF 74 KB

Cofnodion:

Cofnodwyd, cafwyd yn gywir a llofnodwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10fed Mai 2016.

 

5c

Dydd Iau, 12 Mai 2016 - Eitemau Gohiriedig pdf icon PDF 181 KB

Cofnodion:

Cofnodwyd, cafwyd yn gywir a llofnodwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 12fed Mai 2016.

 

 

Wrth wneud hynny nodwyd y pwyntiau canlynol:

Tynnodd yr Aelodau sylw at yr angen am gr?p gweithredu i’w gynnwys gyda’r agenda a phwysigrwydd gweithredoedd yn cael eu diweddaru.

 

Cywiriadau i eitem 19 - Cadarnhau’r ymateb ysgrifenedig i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr adran newydd arfaethedig ôl draffordd yr M4 ( copi ynghlwm) ac ystyried pa sylw pellach, os oes un, y dymunai Aelodau ei anfon i Lywodraeth Cymru. Gwahoddwyd Aelodau i gadarnhau’r ymateb ysgrifenedig i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

 

Tudalen 15 - lle gwneir cyfeiriad at y gefnffordd, dylid nodi rhan o’r B4245 yng Ngwndy, sydd i fod i ddod yn gefnffordd.

 

Tudalen 15 – dylai cydgysylltu â llywodraeth Cymru gyfeirio’n benodol at fecanwaith cydgysylltu ffurfiol rhwng Swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Sir, ac nid eu contractwyr.

 

Mynegodd Aelod siom gyda chynnwys y llythyr a gyflwynwyd wedi’r ddadl, ynghyd â rhwystredigaeth na chafodd y llythyr ei gylchynu i’r holl Aelodau. Nid ystyrid ansawdd y llythyr yn foddhaol. 

 

Mewn ymateb cynghorodd Aelodau’r Cabinet y byddai’r llythyr yn cael ei ail-ddrafftio.

 

Cywiriad i Dudalen 11 - Categori C - Cydbwyllgorau a Chwmnïau Awdurdod Lleol:

 

Dylai nodi: Gofynnodd Aelod iddo gael ei gofnodi y penodir dau aelod i Archwiliad y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a’r Pwyllgor Sicrhau Risg.

 

6.

Derbyn cofnodion y dilynol:

6a

Cofnodion cyfarfod dydd Llun 21 Mawrth 2016 y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 146 KB

Cofnodion:

Derbyniasom, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 21ain Mawrth 2016.

 

6b

Cofnodion cyfarfod dydd Iau 26 Mai 2016 y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 94 KB

Cofnodion:

Derbyniasom, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 26ain Mai 2016.

 

7.

Hysbysiadau Cynnig

Dim wedi'u derbyn

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw hysbysiadau cynnig gan Aelodau.

 

8.

Adroddiadau Pennaeth Polisi ac Ymgysylltu:

8a

Diweddariad ar Raglen Adsefydlu Syriaid pdf icon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor ddiweddariad ar Raglen Adsefydlu Syriaid, y diben oedd:

 

·         Rhoi diweddariad i’r Cyngor parthed y trefniadau ar gyfer rhan chyngor Sir Fynwy yn Rhaglen y Swyddfa Gartref ar Adsefydlu Syriaid.

 

Diolchwyd i’r Cynghorwyr Hacket Pain, Crook a Taylor am eu cyfraniad i’r rhaglen. 

 

Yn ystod trafodaeth nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Byddai’n fuddiol hysbysu aelodau lleol o ffoaduriaid yn dod i’w hardal, er mwyn iddynt gadw llygad. 

·         Nodwyd bod Aelodau’n falch i glywed bod swyddogion wedi cydnabod argymhellion a wnaed gan y gr?p gorchwyl a gorffen a’u bod wedi edrych tuag at awdurdodau eraill a oedd wedi derbyn ffoaduriaid dan y rhaglen adsefydlu ac i fudiadau ehangach y trydydd sector. Dymunodd yr Aelodau  fynegi diolch i’r swyddogion am gymryd amser i ddilyn yr argymhellion hyn. Nodwyd bod cydweithwyr yn OXFAM wedi bod o gymorth sylweddol, yn arbennig parthed cefnogaeth benodol i ffoaduriaid benywaidd.

·         Nodwyd bod darparu Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn cyfeirio at y teulu cyfan ac nid plant yn cychwyn yn yr ysgol yn unig.

·         Mynegodd Aelod ddiolch i’r Cyngor am ysgwyddo’r rhaglen, ac ychwanegodd  y bu cynrychiolaeth lawn, yn edrych ar bob posibiliad.

·         Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r gr?p ac awgrymodd y byddai Seminar Aelodau arall yn fuddiol, er mwyn rhoi manylion i bob Aelod.

·         Ni phenderfynwyd eto a fyddem yn cymryd rhan mewn cynllun plant amddifad.

 

 

Penderfynodd y Cyngor gytuno argymhellion o fewn yr adroddiad.

 

Bod y Cyngor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth baratoi at gyrhaeddiad y ffoaduriaid cyntaf o Syria yn haf 2016; a bod y gweithgor Aelodau/Swyddogion yn parhau i oruchwylio’r trefniadau ar gyfer yr adeg pan gyrhaeddant.

9.

Adroddiadau i'r Pennaeth Cynllunio:

9a

Mabwysiadu Cynllun diwygiedig Dirprwy Cynllunio pdf icon PDF 274 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor gynnig i ddiwygio Cynllun Dirprwyo Cynllunio. Y diben oedd i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Dirprwyo Cynllunio diwygiedig. 

 

Wrth ystyried yr adroddiad, nodwyd:

 

·         Cyfeiriodd Aelod at ddirprwyo swyddogion i ymateb ar ran y Cyngor i geisiadau am drwydded gweithredwr Cerbydau Nwyddau Trwm. Roedd pryder ynghylch pobl heb fod yn ymwybodol o geisiadau o’r fath, a chredid ei bod yn bwysig bod pobl leol yn ymwybodol o’r mater hwn.  Gofynnwyd i Aelodau ystyried yn ddwys bod ceisiadau o’r fath yn mynd i’r Cyngor.

·         Ystyriwyd newid i’r pwerau gorfodi fel un o’r rhannau mwyaf buddiol o’r Mesur Cynllunio, a dylid ei ddefnyddio’n llawn.

 

Penderfynasom gytuno’r argymhellion o fewn yr adroddiad.

 

·         Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Dirprwyo Cynllunio diwygiedig ynghlwm wrth yr adroddiad, i’w fabwysiadu gan y Cyngor. 

·         Bod Pennaeth Cynllunio’n cael ei awdurdodi i ddiweddaru’r dogfennau uchod yn y dyfodol parthed cywiriadau ffeithiol i deitlau swyddi.

 

 

 

10.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2015-2016 pdf icon PDF 257 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2015/16 a 2014/15.

 

Ar ran y Pwyllgor Archwilio, cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio’r adroddiad blynyddol yn cwmpasu 2014/2015 a 2015/2016 i’w ystyried gan y Cyngor.

 

Dangosodd yr adroddiad fod gwaith y Pwyllgor wedi bod yn werthfawr ac yn gynhyrchiol ac mae’n rhoi sicrwydd i’r Cyngor ynghylch gweithgarwch y Pwyllgor wrth reoli materion ariannol a materion eraill yn effeithiol gan yr Awdurdod.

 

Yn ystod trafodaeth nodwyd y canlynol:

 

·         Gofynnwyd am eglurhad a oedd aelod lleyg y Pwyllgor Archwilio wedi’i gyfethol neu wedi’i benodi. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’n cynghori maes o law.

·         Cytunwyd, petai’r Pwyllgor Archwilio’n credu y byddai sefydlu is-bwyllgor yn cyfoethogi gwaith y pwyllgor, archwilid hyn wrth i’r angen godi. Ystyriodd Aelod y byddai’r is-gr?p yn drafodaeth bellach i geisio mwy o wybodaeth, a adroddid nôl i’r pwyllgor, a’i gofnodi fel arfer.

 

Penderfynasom dderbyn yr adroddiad.

 

11.

Cwestiynau Aelodau:

11a

gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i'r Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain

Faint o athrawon cymwys cyfwerth ag amser llawn oedd mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yn (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 a (iv) 2015?

Cofnodion:

Gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i’r Cynghorydd  E.J. Hacket

Pain:

 

Faint o athrawon cymwys cyfwerth oedd mewn ysgolion  a gynhelir yn Sir Fynwy yn (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 a (iv) 2015?

 

Mewn ymateb, cyflwynodd y Cynghorydd Hacket Pain waith papur gyda’r ffigyrau y gwnaed cais amdanynt. Rhoddwyd manylion fel a ganlyn::

 

(i)            629

(ii)           636

(iii)          633

(iv)         608

 

 

 

11b

gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i'r Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain

Faint o staff cefnogaeth cyfwerth ag amser llawn oedd mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yn (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 a (iv) 2015?

Cofnodion:

Gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i’r Cynghorydd Sir E.J. Hacket

Pain:

 

Faint o staff cymorth llawn amser cyfwerth oedd mewn ysgolion  a gynhelir yn Sir Fynwy yn (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 a (iv) 2015?

 

Mewn ymateb, cyflwynodd y Cynghorydd Hacket Pain y ffigyrau canlynol:

 

(i)            522

(ii)           534

(iii)          543

(iv)         512

 

Fel cwestiwn atodol gofynnodd y Cynghorydd Batrouni a oeddem yn monitro’r ffigyrau hyn, ac os oeddem, pa mor aml?

 

Mewn ymateb eglurodd y Cynghorydd Hacket Pain fod ffigyrau’n cael eu monitro’n rheolaidd ond heb eu monitro yn y modd penodol y gofynnwyd amdanynt. Felly roedd tipyn o waith wedi’i neilltuo i ddarparu’r wybodaeth.

 

 

11c

gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i'r Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain:

Pa ganran o athrawon ysgol gymerodd absenoldeb salwch mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yn ystod (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 a (iv) 2015?

Cofnodion:

Gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i’r Cynghorydd Sir E.J. Hacket

Pain:

 

Beth oedd canran yr athrawon ysgol a gymerodd absenoldeb oherwydd salwch mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yn ystod (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 a (iv) 2015?

 

Mewn ymateb eglurodd y Cynghorydd Hacket Pain y cyfrifid absenoldebau hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn, a darparodd y ffigyrau canlynol:

 

(i)            64%

(ii)           57%

(iii)          65%

(iv)         59%

 

Roedd y ffigyrau hyn yn cael eu monitro’n rheolaidd a dynodwyd meysydd cymorth.

 

 

 

11d

gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i'r Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain:

Beth oedd cyfanswm nifer y dyddiau salwch a gymerodd athrawon mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yn ystod (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 a (iv) 2015?

Cofnodion:

Gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i’r Cynghorydd Sir E.J. Hacket

Pain:

 

Beth oedd cyfanswm nifer y diwrnodau yn absennol oherwydd salwch a gymerwyd gan athrawon mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yn ystod (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 and (iv) 2015?

 

Mewn ymateb cyflwynodd y Cynghorydd Hacket Pain y ffigyrau canlynol:

 

(i)            5344

(ii)           4781

(iii)          4837

(iv)         4644

 

Nodwyd bod y ffigyrau’n rhedeg o Fedi i Fedi yn unol â’r flwyddyn academaidd.

 

 

 

11e

gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i'r Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain:

Beth oedd maint cyfartalog dosbarthiadau mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy ar Gyfnod Allweddol (i) 1, (ii) 2, (iii) 3, (iv) 4 a (v) 5?

Cofnodion:

Gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i’r Cynghorydd Sir E.J. Hacket

Pain:

 

Beth oedd cyfartaledd maint dosbarthiadau mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yng Nghyfnod Allweddol

(i) 1, (ii) 2, (iii) 3, (iv) 4 a (v) 5?

 

Mewn ymateb cyflwynodd y Cynghorydd Hacket Pain y ffigyrau canlynol:

 

Cyfnod Allweddol 1

 

(i)            24

(ii)           25

(iii)          25

(iv)         26

 

Cyfnod Allweddol  2

 

(i)            26

(ii)           25

(iii)          26

(iv)         26

 

Cyfnod Allweddol  3

 

(i)            26

(ii)           26

(iii)          25

(iv)         26

 

Eglurodd y Cynghorydd Hacket Pain na ddarparwyd ffigyrau Cyfnod Allweddol 4, yn bennaf oherwydd bod llawer o amser swyddogion wedi’i dreulio i ddarparu’r ffigyrau, ac wrth gyrraedd Cyfnod Allweddol 4, gan edrych ar flynyddoedd TGAU a Lefel A, roedd ffigyrau penodol yn anodd dod o hyd iddynt.   

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Hacket Pain fod y ffigyrau wedi lefelu yn 2014 a 2015.  Wrth edrych ar Gynllun Busnes y Gwasanaeth Cyflawni Addysg, o’u cymharu â’r rheiny yn ein consortiwm, roedd Sir Fynwy’n gyntaf ar draws y blynyddoedd hynny yn y cyfnod sylfaen gyda chynnydd o 5%.  Roedd cyfnod Allweddol 2 yn 1af yn 2012 a 2013, 2il yn  2014 ac yn 1af yn 2015 gyda chynnydd o 6%. Cyfnod Allweddol 4,1af eto ar draws yr awdurdodau.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i ystadegau’r GCA gael eu cylchynu i’r holl Aelodau.

 

Fel cwestiwn ategol, gofynnodd y Cynghorydd Batrouni am eglurhad na fyddai’n derbyn y wybodaeth y gofynnodd amdani ar gyfer Cyfnodau Allweddol 4 a 5.  Eglurodd y Cynghorydd Hacket Pain y gellid dod o hyd i’r wybodaeth, ond parthed amser swyddogion, roedd pryder faint fyddai cost y cwestiwn i’r Cyngor. 

 

 

12.

I eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfodydd yn ystod ystyriaeth yr eitemau busnes dilynol ar y sail eu bod yn ymwneud â datgeliad tebygol o wybodaeth eithriedig pdf icon PDF 172 KB

13.

ADRODDIAD EITHRIEDIG gan y Pennaeth Cynllunio:

13a

Tŷ Caerwent, Caerwent

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor adroddiad ar gynnydd y prosiect a chynnig gweithredu ynghylch y Gorchymyn Prynu Gorfodol parthed T? Caerwent.

 

Yn dilyn trafodaeth penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion yn yr adroddiad.